
{"id":50473,"date":"2026-02-23T18:33:59","date_gmt":"2026-02-23T18:33:59","guid":{"rendered":"https:\/\/cymru.global\/academi-heddwch-cymru-2\/events\/"},"modified":"2026-06-19T21:26:11","modified_gmt":"2026-06-19T20:26:11","slug":"digwyddiadau","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/cymru.global\/cy\/ein-gwaith\/heddwch-ac-adeiladu-heddwch\/academi-heddwch-cymru\/digwyddiadau\/","title":{"rendered":"Digwyddiadau Academi Heddwch Cymru"},"content":{"rendered":"\n\n<div class=\"container-fluid section section-top-carousel alignfull lightblue\">\r\n\t<div class=\"container \">\r\n\t\t<div class=\"slider\">\r\n\t\t\r\n\t\t\t        \t\t\t        <div class=\"slide\">\r\n\t\t\t        \t\r\n\t\t\t\t        <div class=\"row\">\r\n\t\t\t\t        \t\r\n\t\t\t\t        \t<div class=\"col-lg-6 col-md-12\">\r\n\t\t\t\t        \t\t<p class=\"abovetitle\" style=\"text-align: left\">Digwyddiadau ar y gweill<\/p>\n<h1>Digwyddiadau Academi Heddwch Cymru<\/h1>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p class=\"abovetitle\" style=\"text-align: left\">Gwyliwch ddigwyddiadau blaenorol ar YouTube:<\/p>\n<p style=\"text-align: left\"><a href=\"https:\/\/youtube.com\/@academiheddwch3074?si=WZ0CnkWrw2NKPMXA\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\"><img decoding=\"async\" class=\"wp-image-46979 alignleft\" role=\"img\" src=\"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2025\/12\/yt-orange-on-white-1.svg\" alt=\"\" width=\"42\" height=\"42\" \/><\/a><\/p>\n\t\t\t\t        \t<\/div>\r\n\r\n\r\n\t\t\t\t        \t<div class=\"col-lg-6 col-md-12\">\r\n\t\t\t\t        \t\t\t\t\t\t\t\t\t\t    <img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2026\/02\/Academi-Heddwch-Cymru-logo.jpg\" alt=\"\" \/>\r\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t        \t<\/div>\r\n\r\n\t\t\t\t        <\/div>\r\n\r\n  \t\t\t\t\t<\/div>\r\n\r\n  \t\t\t\t\t\r\n\t\t\t        <\/div>\r\n\t<\/div>\t\r\n<\/div>\r\n\r\n<div class=\"container-fluid section section-breadcrumbs\">\r\n    <div class=\"container\">\r\n        <span><span><a href=\"https:\/\/cymru.global\/cy\/cymru-global\/\">Cartref<\/a><\/span><\/span>    <\/div>\r\n<\/div>\r\n\n\n<div class=\"container-fluid section section-general-content lightblue\">\r\n    <div class=\"container\">\r\n        <div class=\"row\"><div class=\"col-md-6 col-sm-12\"><h1 class=\"EventTitle_wrapper__m_A6z\" data-testid=\"event-title\">Cymru fel Cenedl Heddwch<\/h1>\n<p><a href=\"https:\/\/cymru.global\/cy\/ein-gwaith\/heddwch-ac-adeiladu-heddwch\/academi-heddwch-cymru\/digwyddiadau\/attachment\/ahc-professor-colin-mcinnes-2\/\" rel=\"attachment wp-att-52826\"><img decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-52826\" src=\"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/AHC-Professor-Colin-McInnes-1-300x150.webp\" alt=\"\" width=\"560\" height=\"280\" srcset=\"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/AHC-Professor-Colin-McInnes-1-300x150.webp 300w, https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/AHC-Professor-Colin-McInnes-1-768x384.webp 768w, https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/AHC-Professor-Colin-McInnes-1-800x400.webp 800w, https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/AHC-Professor-Colin-McInnes-1.webp 940w\" sizes=\"(max-width: 560px) 100vw, 560px\" \/><\/a><\/p>\n<p>Sgyrsiau Wrecsam yn Cyflyyno: Academi Heddwch Cymru ac Athro Colin McInnes<\/p>\n<p><strong>Dydd Llun 22 Mehefin \u2022\u00a0 5:30 PM &#8211; 7:30 PM<\/strong><\/p>\n<p><a class=\"btn btn-primary\" href=\"https:\/\/www.eventbrite.co.uk\/e\/wales-as-a-nation-of-peace-cymru-fel-cenedl-heddwch-tickets-1990078250619?msockid=1417376770796533033d201b7137645d\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Cofrestrwch yma i fynychu<\/a><\/p>\n<\/div><div class=\"col-md-6 col-sm-12\"><p>Mae&#8217;n ymddangos bod heddwch yn brin. O&#8217;r rhyfel yn Wcr\u00e1in i wrthryfeloedd hirhoedlog fel gwrthryfel Boko Haram yn Nigeria, mae gwrthdaro&#8217;n doreithiog yn rhyngwladol.<\/p>\n<p>Mae heddwch, er hynny, yn golygu mwy nag absenoldeb rhyfel a thrais. Mae\u2019n golygu bod cymdeithasau\u2019n byw heb ofn, mae\u2019n golygu gwydnwch cymdeithasol wrth ddiogelu hawliau unigol. Mae hefyd yn golygu hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol, tegwch, parch a chydraddoldeb. Ond mae&#8217;n ymddangos bod y ddealltwriaeth ehangach hon o heddwch dan fygythiad hefyd. O ymosodiad 6 Ionawr 2021 ar Capitol yr UDA i derfysgoedd yr haf yn y DU yn 2024, mae&#8217;n ymddangos bod goddefgarwch o fewn cymdeithas yn lleihau a bod ofn yn cynyddu.<\/p>\n<p>Beth allwn ni yng Nghymru ei wneud am hyn? Yn 2024, awgrymodd Academi Heddwch, drwy adeiladu ar ei diwylliant, ei hanes a&#8217;i deddfwriaeth ddiweddar, y gallai Cymru ddod yn &#8216;genedl heddwch&#8217;. Byddai hyn yn cael effaith gadarnhaol ar ein cymdeithas, ar sut rydym yn llywodraethu ein hunain, ac yn rhoi hunaniaeth unigryw i Gymru ar y llwyfan rhyngwladol.<\/p>\n<p>Bydd y ddarlith hon yn archwilio beth mae&#8217;n ei olygu i fod yn genedl heddwch, pam y dylai Cymru ddod yn un, a sut y gall wneud hynny.<\/p>\n<\/div><\/div><div class=\"row\"><div class=\"col-md-12\"><\/div><\/div><div class=\"row\"><div class=\"col-md-6 col-sm-12\"><h3>Pererindod Heddwch Menywod 1926 &#8211; trafodaeth banel dan ofal Academi Heddwch Cymru a Llafur: Cymdeithas Hanes Pobl Cymru.<\/h3>\n<p><a href=\"https:\/\/cymru.global\/cy\/ein-gwaith\/heddwch-ac-adeiladu-heddwch\/academi-heddwch-cymru\/digwyddiadau\/attachment\/eisteddfod-gerddorol-ryngwladol-llangollen-3\/\" rel=\"attachment wp-att-52810\"><img decoding=\"async\" class=\" wp-image-52810 aligncenter\" src=\"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/EISTEDDFOD-GERDDOROL-RYNGWLADOL-LLANGOLLEN-3-1-212x300.png\" alt=\" EISTEDDFOD GERDDOROL RYNGWLADOL LLANGOLLEN \" width=\"414\" height=\"586\" srcset=\"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/EISTEDDFOD-GERDDOROL-RYNGWLADOL-LLANGOLLEN-3-1-212x300.png 212w, https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/EISTEDDFOD-GERDDOROL-RYNGWLADOL-LLANGOLLEN-3-1-768x1087.png 768w, https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/EISTEDDFOD-GERDDOROL-RYNGWLADOL-LLANGOLLEN-3-1-1086x1536.png 1086w, https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/EISTEDDFOD-GERDDOROL-RYNGWLADOL-LLANGOLLEN-3-1-800x1132.png 800w, https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/EISTEDDFOD-GERDDOROL-RYNGWLADOL-LLANGOLLEN-3-1.png 1357w\" sizes=\"(max-width: 414px) 100vw, 414px\" \/><\/a><\/p>\n<\/div><div class=\"col-md-6 col-sm-12\"><p><em>Ymunwch \u00e2 ni am drafodaeth banel dwyieithog i ddathlu canmlwyddiant Pererindod Heddwch Menywod 1926.<\/em><\/p>\n<p><em>Yn ystod tymor yr haf 1926, gorymdeithiodd degau o filoedd o fenywod o bob cwr o&#8217;r Deyrnas Unedig i ganol Llundain dan y faner &#8216;Hedd nid Cledd&#8217;, gan annog llywodraeth Prydain i ymrwymo i gyflafareddu rhyngwladol a diarfogi cyffredinol. Cerddodd yr ymgyrchwyr heddwch hyn trwy bentrefi a threfi, gan drefnu dros fil o gyfarfodydd a ral\u00efau ar hyd y ffordd i rannu eu gweledigaeth o fyd heb ryfel.<\/em><\/p>\n<p><em>Dysgwch am hanes rhyfeddol y Bererindod Heddwch mewn cyd-destun Cymreig wrth i ni glywed cyfraniadau gan ein panelwyr Dr Si\u00e2n Rhiannon Williams, Annie Williams a Heather Aspinwall ar hanes gorymdaith gogledd Cymru &#8211; heb os, carfan fwyaf y Bererindod; ei gweithgaredd lleol yn Llangollen ac, yn olaf, hanesion cudd y llwybr llai adnabyddus o dde Cymru i Lundain.<\/em><\/p>\n<p><strong><em>Ble a phryd: 10.07.26, Llwyfan y Gromen, Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd (Cymraeg i Saesneg). <\/em><\/strong><\/p>\n<\/div><\/div><div class=\"row\"><div class=\"col-md-12\"><\/div><\/div><div class=\"row\"><div class=\"col-md-12\"><p><a class=\"btn btn-primary\" href=\"https:\/\/scottishpeaceplatform.org\/events\/webinar-uk-defense-policy-under-labour-and-its-impact-on-the-devolved-contexts-with-academi-heddwch\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Cofrestrwch yma i fynychu&#8217;r weminar<\/a><\/p>\n<h2>Gweminar:\u00a0 Polisi Amddiffyn y DU dan y Blaid Lafur a\u2019i Effaith ar y Gwledydd Datganoledig<\/h2>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h4>Platfform Heddwch yr Alban (Scottish Peace Platform) ac Academi Heddwch Cymru<\/h4>\n<p><strong>*Digwyddiad Iaith Saesneg<\/strong><\/p>\n<p><span data-olk-copy-source=\"MessageBody\">Ymunwch \u00e2 ni ar gyfer gweminar (iaith Saesneg) ar \u2018Bolisi Amddiffyn y DU dan\u00a0y\u00a0Blaid Lafur a\u2019i Effaith ar y Gwledydd Datganoledig\u2019. Cofrestrwch drwy\u2019r ddolen uchod! Bydd Dr. Bethan Sian Jones, Rheolwr Datblygu Prosiect Academi Heddwch, yn cyflwyno ac yn rhoi cefndir am waith yr\u00a0Academi. Bydd\u00a0Yr Athro\u00a0Colin McInnes,\u00a0Arweinydd Ymchwil Academi Heddwch &amp; Athro Emeritws mewn Gwleidyddiaeth Rhyngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn cyflwyno ymchwil yr\u00a0Academi ar bolisi amddiffyn y DU a\u2019i ryngweithio \u00e2 chyd-destun datganoledig Cymru.<\/span><\/p>\n<p>Bwriad\u00a0Platfform Heddwch yr Alban (Scottish Peace Platform),\u00a0drwy bartneru ag\u00a0Academi Heddwch Cymru ar y weminar hon,\u00a0yw llwyfannnu\u00a0mewnwelediadau o gyd-destun datganoledig arall yn y DU a chanolfan heddwch sefydledig, gyda\u2019r nod o rannu a chyfnewid dysgu ar gyfer cyd-destun adeiladu heddwch yr Alban.<\/p>\n<p>Cofrestrwch drwy\u2019r ddolen uchod!<\/p>\n<\/div><\/div><div class=\"row\"><div class=\"col-md-6 col-sm-12\"><h3><strong>O Okinawa i Gymru: Heddwch a Gwrthsafiad dros 10,000 o Gilometrau<\/strong><\/h3>\n<p><strong>Dydd Iau, Mawrth 12fed o 6 pm &#8211; 8 pm, Y Deml Heddwch ac Iechyd, Caerdydd<\/strong><\/p>\n<p>Mae Okinawa yn gartref i un o fudiadau heddwch mwyaf gwydn y byd \u2013 ond nid oes fawr neb yn gwybod amdano. Dechreuodd y mudiad yn sgil trawma\u2019r Ail Ryfel Byd, ac yna fe ddatblygodd dros 27 mlynedd dan oresgyniad yn yr Unol Daleithiau. Heddiw mae pobl o bob cefndir yn Okinawa yn parhau i fynegi eu heddychiaeth drwy ral\u00efau torfol, meddiannu adeiladau, comedi a chelf.<\/p>\n<p>Ers 16 mlynedd, mae\u2019r newyddiadurwr a\u2019r awdur o Gymru, Jon Mitchell, wedi bod yn gohebu am fudiad heddwch Okinawa a\u2019r anghyfiawnderau gan lywodraethau\u2019r Unol Daleithiau a Japan a\u2019i sbardunodd. Ac yntau\u2019n arbenigwr yn Neddf Rhyddid Gwybodaeth yr Unol Daleithiau, mae ei ymchwiliadau wedi sbarduno gwelliannau gan awdurdodau cenedlaethol ac wedi ennill y gwobrau newyddiaduraeth uchaf eu bri yn Japan.<\/p>\n<p>Yn y sgwrs hon yn y Deml Heddwch, bydd\u00a0Jon\u00a0yn trafod ei lyfr diweddaraf\u00a0<a href=\"https:\/\/www.bloomsbury.com\/uk\/why-are-we-in-okinawa-9798765159941\/\"><em>Why are We in\u00a0Okinawa?<\/em><\/a><a href=\"https:\/\/www.bloomsbury.com\/uk\/why-are-we-in-okinawa-9798765159941\/\"><em>\u00a0A History of Violence<\/em><\/a>\u00a0(Bloomsbury Academic 2026). Mae\u2019r llyfr yn olrhain sut cafodd yr ynysoedd eu cyfeddiannu gan Japan, eu goresgyn gan yr Unol Daleithiau, a sut y maent erbyn heddiw dan fwy a mwy o fygythiad gan Tsieina. Ochr yn ochr \u00e2 gwreiddiau heddychiaeth yn\u00a0Okinawa, bydd\u00a0Jon\u00a0yn archwilio\u2019r tebygrwydd rhwng Cymru ac\u00a0Okinawa. Er bod bron i 10,000 cilomedr rhyngddynt, mae\u2019r ddau le wedi profi gwahaniaethu, gormes ieithyddol a chamfanteisio amgylcheddol \u2013 ffactorau sydd wedi meithrin ymrwymiad cadarn i heddwch a chyfiawnder cymdeithasol.<\/p>\n<p>Bydd Jill Evans, cyn-Aelod o Senedd Ewrop ac Is-gadeirydd Academi Heddwch Cymru yn ymuno \u00e2\u00a0Jon\u00a0mewn trafodaeth.<\/p>\n<p><a class=\"btn btn-primary\" href=\"https:\/\/www.eventbrite.co.uk\/e\/from-okinawa-to-wales-peace-and-resistance-across-10000-kilometres-tickets-1982669617197?utm-campaign=social&amp;utm-content=attendeeshare&amp;utm-medium=discovery&amp;utm-term=listing&amp;utm-source=cp&amp;aff=ebdsshcopyurl\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Cofrestrwch yma i fynychu<\/a><\/p>\n<\/div><div class=\"col-md-6 col-sm-12\"><p><img decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-50781\" src=\"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2026\/03\/Okinawa-i-Gymru-212x300.jpg\" alt=\"\" width=\"392\" height=\"555\" srcset=\"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2026\/03\/Okinawa-i-Gymru-212x300.jpg 212w, https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2026\/03\/Okinawa-i-Gymru.jpg 500w\" sizes=\"(max-width: 392px) 100vw, 392px\" \/><\/p>\n<\/div><\/div><div class=\"row\"><div class=\"col-md-6 col-sm-12\"><h3 class=\"EventTitle_wrapper__m_A6z\" data-testid=\"event-title\">Cynhadledd Flynyddol Academi Heddwch Cymru<\/h3>\n<p><strong>Dydd Sadwrn, 21eg o Fawrth, 10 am &#8211; 4 pm, Y Deml Heddwch, Caerdydd<\/strong><\/p>\n<p><a class=\"btn btn-primary\" href=\"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2026\/03\/Rhaglen-Cynhadledd-Flynyddol-AHC-2026.docx\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Rhaglen y Dydd<\/a><\/p>\n<p>Mae Academi Heddwch Cymru (sefydliad heddwch cenedlaethol Cymru) yn eich gwahodd i gymryd rhan yn ei chynhadledd undydd: \u2018Creu Cymunedau Heddychlon\u2019.<\/p>\n<p>Mae heddwch yn llawer mwy nag absenoldeb rhyfel. Mae&#8217;n golygu adeiladu byd gwell drwy greu cymunedau sy&#8217;n byw heb ofn ac sy&#8217;n hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol, parch a chydraddoldeb. Mae ein hadroddiad Cymru fel Cenedl Heddwch (2024) yn dadlau y gallai ac y dylai Cymru anelu at ddod yn Genedl Heddwch, yn enwedig er mwyn magu cymunedau cryfach yng Nghymru. Mae&#8217;r gynhadledd hon yn canolbwyntio ar sut y gallem gyflawni hyn.<\/p>\n<p>Gwrandewch ar sgyrsiau gan ymchwilwyr ac arbenigwyr ym maes cydlyniant cymdeithasol a chymerwch ran mewn gweithdai rhyngweithiol a fydd yn eich cyfarparu \u00e2&#8217;r wybodaeth a&#8217;r sgiliau i adeiladu a chynnal cymunedau heddychlon.<\/p>\n<p><a class=\"btn btn-primary\" href=\"https:\/\/www.eventbrite.co.uk\/e\/cynhadledd-flynyddol-academi-heddwch-cymru-annual-conference-tickets-1983065329784?utm-campaign=social&amp;utm-content=attendeeshare&amp;utm-medium=discovery&amp;utm-term=listing&amp;utm-source=cp&amp;aff=ebdsshcopyurl\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Cofrestrwch yma i fynychu<\/a><\/p>\n<\/div><div class=\"col-md-6 col-sm-12\"><p><img decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-50785\" src=\"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2026\/03\/Poster-Cynhadledd-Academi-Heddwch-2026-300x275.jpg\" alt=\"\" width=\"585\" height=\"536\" srcset=\"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2026\/03\/Poster-Cynhadledd-Academi-Heddwch-2026-300x275.jpg 300w, https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2026\/03\/Poster-Cynhadledd-Academi-Heddwch-2026.jpg 703w\" sizes=\"(max-width: 585px) 100vw, 585px\" \/><\/p>\n<\/div><\/div><div class=\"row\"><div class=\"col-md-12\"><h4><span data-teams=\"true\">DISGRIFIAD O SESIYNAU RHYNGWEITHIOL Y GYNHADLEDD<\/span><\/h4>\n<h4><\/h4>\n<h4>GWEITHDY 1:<\/h4>\n<h5>Sesiwn Blasu ar Becyn Cymorth Cymunedau sy\u2019n Gwrthsefyll Rhaniad<\/h5>\n<p><strong>Dr Amy Sanders (Prifysgol Aberystwyth)<\/strong><\/p>\n<p>Cyflwyniad: Yn y gweithdy hwn cewch gyflwyniad i ddetholiad o unedau o\u2019r Pecyn Cymorth Cymunedau sy\u2019n Gwrthsefyll Rhaniad. Mae\u2019r pecyn yn bodoli diolch i gydweithrediad rhwng t\u00eem ymchwil Aberystwyth o Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD) a Sefydliad Jo Cox, partneriaeth \u2018Mwy yn Gyffredin\u2019 Caerdydd a Th\u00eem Cydlyniant Cymunedau Caerdydd. Cafodd y pecyn ei greu ar y cyd \u00e2 70 a mwy o aelodau ac ymarferwyr cymunedol allweddol o fwy nag 20 o sefydliadau cymunedol yng Nghaerdydd. Digwyddodd hyn drwy ymgysylltu \u00e2 chymunedau mewn prosiect ymchwil gwreiddiol ar boblyddiaeth, polareiddio a gwrthdaro mewn lleoliadau cymunedol.<\/p>\n<p>Gyda&#8217;n gilydd, rydym yn bwriadu:<\/p>\n<p>1. Archwilio\u2019r gwersi allweddol sydd yn y Pecyn Cymorth Cymunedau sy&#8217;n Gwrthsefyll Rhaniad<\/p>\n<p>2. Datblygu gwybodaeth am ddamcaniaethau ac ymchwil yn gysylltiedig \u00e2 pholareiddio a phoblyddiaeth, a sut mae\u2019n berthnasol i hyrwyddo cydlyniant mewn cymunedau<\/p>\n<p>3. Ystyried y goblygiadau o ran sut i\u2019w rhoi ar waith mewn lleoliadau cymunedol<\/p>\n<p>4. Mynd i&#8217;r afael \u00e2&#8217;r pynciau hyn trwy ddulliau creadigol a chyfranogol, a hwyluso cyfleoedd i\u2019r mynychwyr gael rhwydweithio<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h4>GWEITHDY 2 \/ WORKSHOP 2<\/h4>\n<p><strong>Ruth Campbell (Climate Cymru)<\/strong><\/p>\n<h5>Dychmygwch Weithredu &#8211; Offer i ysbrydoli gweithredu a datgloi newid<\/h5>\n<p>Ariennir Dychmygwch Gweithredu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.<\/p>\n<p>Pan fydd y byd yn teimlo\u2019n rhanedig ac yn ansicr, mae\u2019n demtasiwn i wthio\u2019n galetach \u2013 i ddadlau, argyhoeddi, neu dynnu sylw at bethau annerbyniol. Ond dydy newid ddim bob amser yn dechrau trwy roi pwysau; gall ddechrau drwy gysylltu.<\/p>\n<p>Mae Dychmygwch Gweithredu yn helpu unigolion, cymunedau a sefydliadau ledled Cymru i gyfathrebu mewn ffyrdd sy\u2019n adlewyrchu\u2019r hyn sy\u2019n wirioneddol bwysig; creu straeon difyr sy\u2019n ein huno ac sy\u2019n ail-ddychmygu dyfodol y gallwn ei greu gyda\u2019n gilydd. Efallai eich bod chi\u2019n ymgyrchydd, yn artist, yn arweinydd ffydd, yn addysgwr, neu\u2019n aelod gweithgar o\u2019ch cymuned, mae\u2019r llwyfan hwn yn ein hannog ni i siarad o safbwynt y pethau sy\u2019n bwysig i ni. Mae\u2019n ein hannog ni i wrando\u2019n ofalus, yn ogystal \u00e2 helpu i lunio dyfodol i Gymru sy&#8217;n cynnwys pawb.<\/p>\n<p>Cafodd y Pecyn Cymorth Dychmygwch Weithredu ei greu gan ymchwilwyr blaenllaw a\u2019r syniadau diweddaraf yn y gwyddorau cymdeithasol i gefnogi pobl sy\u2019n trefnu pethau, yn newid pethau ac yn gweithio yn y maes i gyflwyno negeseuon mewn ffyrdd diddorol a phwerus. Mae\u2019r fenter yn cynnig offer a hyfforddiant i helpu i ddod \u00e2\u2019ch naratif yn fyw yn eglur, creadigol ac effeithiol. Drwy rannu fframwaith cydweithredol, gallwn ni gynyddu ein gallu, a chreu newid ystyrlon.<\/p>\n<p>Mae #DychmygwchWeithredu yn ceisio ail-greu\u2019r naratif yngl\u0177n \u00e2 gweithredu ar yr hinsawdd yng Nghymru, gan ddatblygu amgylcheddau diwylliannol a gwleidyddol lle mae mentrau beiddgar yn ffynnu ac mae newid trawsnewidiol yn digwydd.<\/p>\n<\/div><\/div>    <\/div>\r\n<\/div>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p> [&#8230;]<\/p>\n","protected":false},"author":525,"featured_media":0,"parent":50468,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"iawp_total_views":28,"footnotes":""},"class_list":["post-50473","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.9 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Digwyddiadau Academi Heddwch Cymru - Cymru Global<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Digwyddiadau Academi Heddwch Cymru - Cymru Global\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"[...]\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/cymru.global\/cy\/ein-gwaith\/heddwch-ac-adeiladu-heddwch\/academi-heddwch-cymru\/digwyddiadau\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Cymru Global\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/welshcentreforinternationalaffairs\/\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2026-06-19T20:26:11+00:00\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@WCIA_Wales\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"9 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/ein-gwaith\\\/heddwch-ac-adeiladu-heddwch\\\/academi-heddwch-cymru\\\/digwyddiadau\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/ein-gwaith\\\/heddwch-ac-adeiladu-heddwch\\\/academi-heddwch-cymru\\\/digwyddiadau\\\/\",\"name\":\"Digwyddiadau Academi Heddwch Cymru - Cymru Global\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/#website\"},\"datePublished\":\"2026-02-23T18:33:59+00:00\",\"dateModified\":\"2026-06-19T20:26:11+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/ein-gwaith\\\/heddwch-ac-adeiladu-heddwch\\\/academi-heddwch-cymru\\\/digwyddiadau\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/ein-gwaith\\\/heddwch-ac-adeiladu-heddwch\\\/academi-heddwch-cymru\\\/digwyddiadau\\\/\"]}]},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/ein-gwaith\\\/heddwch-ac-adeiladu-heddwch\\\/academi-heddwch-cymru\\\/digwyddiadau\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/cymru-global\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Ein Gwaith\",\"item\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/ein-gwaith\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Heddwch ac Adeiladu Heddwch\",\"item\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/ein-gwaith\\\/heddwch-ac-adeiladu-heddwch\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":4,\"name\":\"Academi Heddwch Cymru\",\"item\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/ein-gwaith\\\/heddwch-ac-adeiladu-heddwch\\\/academi-heddwch-cymru\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":5,\"name\":\"Digwyddiadau Academi Heddwch Cymru\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/\",\"name\":\"Cymru Global\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/#organization\",\"name\":\"Cymru Global\",\"url\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2026\\\/02\\\/loog-white.svg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2026\\\/02\\\/loog-white.svg\",\"width\":179,\"height\":59,\"caption\":\"Cymru Global\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\"},\"sameAs\":[\"https:\\\/\\\/www.facebook.com\\\/welshcentreforinternationalaffairs\\\/\",\"https:\\\/\\\/x.com\\\/WCIA_Wales\",\"https:\\\/\\\/www.instagram.com\\\/wcia_wales\\\/?hl=en-gb\",\"https:\\\/\\\/www.youtube.com\\\/channel\\\/UC0G2l7QV_yPDU4RHB8hEEPg\"]}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Digwyddiadau Academi Heddwch Cymru - Cymru Global","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Digwyddiadau Academi Heddwch Cymru - Cymru Global","og_description":"[...]","og_url":"https:\/\/cymru.global\/cy\/ein-gwaith\/heddwch-ac-adeiladu-heddwch\/academi-heddwch-cymru\/digwyddiadau\/","og_site_name":"Cymru Global","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/welshcentreforinternationalaffairs\/","article_modified_time":"2026-06-19T20:26:11+00:00","twitter_card":"summary_large_image","twitter_site":"@WCIA_Wales","twitter_misc":{"Est. reading time":"9 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/ein-gwaith\/heddwch-ac-adeiladu-heddwch\/academi-heddwch-cymru\/digwyddiadau\/","url":"https:\/\/cymru.global\/cy\/ein-gwaith\/heddwch-ac-adeiladu-heddwch\/academi-heddwch-cymru\/digwyddiadau\/","name":"Digwyddiadau Academi Heddwch Cymru - Cymru Global","isPartOf":{"@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/#website"},"datePublished":"2026-02-23T18:33:59+00:00","dateModified":"2026-06-19T20:26:11+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/ein-gwaith\/heddwch-ac-adeiladu-heddwch\/academi-heddwch-cymru\/digwyddiadau\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/cymru.global\/cy\/ein-gwaith\/heddwch-ac-adeiladu-heddwch\/academi-heddwch-cymru\/digwyddiadau\/"]}]},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/ein-gwaith\/heddwch-ac-adeiladu-heddwch\/academi-heddwch-cymru\/digwyddiadau\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/cymru.global\/cy\/cymru-global\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Ein Gwaith","item":"https:\/\/cymru.global\/cy\/ein-gwaith\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Heddwch ac Adeiladu Heddwch","item":"https:\/\/cymru.global\/cy\/ein-gwaith\/heddwch-ac-adeiladu-heddwch\/"},{"@type":"ListItem","position":4,"name":"Academi Heddwch Cymru","item":"https:\/\/cymru.global\/cy\/ein-gwaith\/heddwch-ac-adeiladu-heddwch\/academi-heddwch-cymru\/"},{"@type":"ListItem","position":5,"name":"Digwyddiadau Academi Heddwch Cymru"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/#website","url":"https:\/\/cymru.global\/cy\/","name":"Cymru Global","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/cymru.global\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/#organization","name":"Cymru Global","url":"https:\/\/cymru.global\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2026\/02\/loog-white.svg","contentUrl":"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2026\/02\/loog-white.svg","width":179,"height":59,"caption":"Cymru Global"},"image":{"@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/welshcentreforinternationalaffairs\/","https:\/\/x.com\/WCIA_Wales","https:\/\/www.instagram.com\/wcia_wales\/?hl=en-gb","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC0G2l7QV_yPDU4RHB8hEEPg"]}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/50473","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/525"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=50473"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/50473\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":52834,"href":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/50473\/revisions\/52834"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/50468"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=50473"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}