
{"id":24607,"date":"2022-03-01T09:35:11","date_gmt":"2022-03-01T09:35:11","guid":{"rendered":"https:\/\/www.wcia.org.uk\/?p=24607"},"modified":"2022-03-02T10:38:36","modified_gmt":"2022-03-02T10:38:36","slug":"cymru-dros-heddwch-yn-yr-wcrain","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wcia-news-cy\/cymru-dros-heddwch-yn-yr-wcrain\/","title":{"rendered":"Cymru dros Heddwch yn yr Wcr\u00e1in"},"content":{"rendered":"<div class=\"container\">\n<p>Mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, ochr yn ochr \u00e2 phartneriaid a chymunedau ar draws Cymru, yn gresynu at yr achosion o wrthdaro yn yr Wcr\u00e1in, yn dilyn <a href=\"https:\/\/www.walesonline.co.uk\/news\/uk-news\/live-ukraine-russia-invasion-war-23200468\">ymosodiad milwrol Rwsia<\/a> y bore yma. Mae Cymru a&#8217;r gymuned ryngwladol yn ymestyn ein cefnogaeth a&#8217;n hundod dyfnaf gyda phobl yr Wcr\u00e1in a Rwsia ar yr adeg bryderus hon \u2013 ac yn annog ein gwleidyddion ar draws y sbectrwm gwleidyddol i fynd ar drywydd camau cadarn, sy&#8217;n canolbwyntio ar heddwch, i stopio unrhyw fath o ymddygiad treisgar, ac i gefnogi pobl gyffredin yr effeithir arnynt ar lawr gwlad.<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<div class=\"wp-block-buttons is-layout-flex wp-block-buttons-is-layout-flex\"><div class=\"container\">\n<div class=\"wp-block-button\"><a class=\"wp-block-button__link\" href=\"https:\/\/cymru.global\/events\/wales-for-peace-in-ukraine\/?mc_cid=37686f5ff6&amp;mc_eid=fb84e0c67d\">1 Mawrth &#8211; Cymru dros Heddwch yn Wcr\u00e1in<\/a><\/div>\n<\/div><\/div>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p><a href=\"https:\/\/www.un.org\/sg\/en\/node\/262040\">Galwodd <\/a>Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Antonio Guterres, yr hyn a ddigwyddodd y &#8220;foment dristaf&#8221; yn ei ddeiliadaeth, ac <a href=\"https:\/\/news.un.org\/en\/story\/2022\/02\/1112592\">apeliodd i Putin ac i Rwsia o&#8217;r Cynulliad Cyffredinol<\/a>: <em>&#8220;Yn enw dynoliaeth, anfonwch eich milwyr yn \u00f4l i Rwsia. Yn enw dynoliaeth, i beidio \u00e2 dechrau beth allai fod y rhyfel mwyaf dinistriol ers dechrau&#8217;r ganrif.&#8221;<\/em><\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img decoding=\"async\" width=\"968\" height=\"483\" src=\"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/IMG_9312.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-24538\" srcset=\"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/IMG_9312.jpg 968w, https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/IMG_9312-800x399.jpg 800w, https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/IMG_9312-300x150.jpg 300w, https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/IMG_9312-768x383.jpg 768w, https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/IMG_9312-2x1.jpg 2w\" sizes=\"(max-width: 968px) 100vw, 968px\" \/><\/figure>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Digwyddiadau a Lleisiau<\/h3>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p><strong>12.30-2.00pm, 1 Mawrth Cymru dros Heddwch yn Wcr\u00e1in<\/strong> &#8211; digwyddiad a gynhelir mewn partneriaeth rhwng WCIA ac Academi Heddwch Cymru \u2013 <a href=\"https:\/\/cymru.global\/cy\/events\/cymru-dros-heddwch-yn-wcrain\/\">Rhagor o wybodaeth<\/a> neu <a href=\"https:\/\/us02web.zoom.us\/meeting\/register\/tZYldumpqj8qGNChzgilkhNUGzIRFQahpOn3\">sut i gofrestru<\/a>.<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p>Bydd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn cefnogi digwyddiad gan <a href=\"https:\/\/www.cymdeithasycymod.cymru\/en\/home\/\">Gymdeithas y Cymod<\/a> ar ddydd Iau 3 Mawrth am 6pm, lle bydd <a href=\"https:\/\/www.nonviolenceinternational.net\/listen_to_peace_activists_ukraine_russia\">Ymgyrchwyr Heddwch yr Wcr\u00e1in<\/a> yn siarad am eu profiad ar lawr gwlad, ac yn ysgogi trafodaeth ynghylch sut y gall y Cymry gefnogi. <em>Bydd manylion am sut i ymuno ar gael ar y dudalen hon yn fuan.<\/em> <\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p>Mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn gobeithio <a href=\"https:\/\/cymru.global\/news-views-events\/\">cyhoeddi a chefnogi digwyddiadau eraill dros y dyddiau nesaf hefyd<\/a>, gan alluogi pobl a chymunedau Cymru i gymryd rhan mewn trafodaeth, a llunio camau gweithredu posibl. <em>Bydd manylion am sut i ymuno ar gael ar y dudalen hon yn fuan.<\/em> <\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p>Mae nifer o <strong>grwpiau cymunedol ledled Cymru<\/strong> yn trefnu digwyddiadau cydsefyll lleol:<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<ul class=\"wp-block-list\"><li><em><u>Voice of Ukraine Wales<\/u><\/em> &#8211; \u2018Sefyll gydag Wcr\u00e1in\u2018 yn y Mwmbwls, Abertawe, ddydd Sul 27 Chwefror<\/li><li><em><u>Cymdeithas yr Wcreiniaid ym Mhrydain Fawr<\/u><\/em> a datganiad yngl\u0177n \u00e2\u2019r ymosodiad<\/li><li><a href=\"https:\/\/hayleydoroshenkoblog.wordpress.com\/2018\/03\/17\/welsh-ukrainian-community\/\"><em>Cymuned Wcreiniaid Cymru<\/em><\/a>&nbsp;\u2013 Hayley Doroshenko<\/li><li><a href=\"https:\/\/www.facebook.com\/WelshUkrainianConnections\/\">Gr\u0175p Facebook<\/a> Cysylltiadau Wcreiniaid Cymru&nbsp;<\/li><\/ul>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Polisi a Gweithredu<\/strong><\/h3>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p>Er bod y prif gyfrifoldeb ar gyfer polisi tramor mewn perthynas ag Wcr\u00e1in a Rwsia yn gorwedd gyda Llywodraeth Prydain, mae modd i Lywodraeth Cymru ac Aelodau o\u2019r Senedd chwarae rhan hollbwysig nid yn unig wrth ddangos arweiniad tosturiol, ond hefyd wrth estyn cydsafiad a chymorth ymarferol i bobl Wcr\u00e1in &#8211; yn ogystal ag i\u2019r miliynau o Rwsiaid sydd hefyd yn ofni rhyfel, fel y dangosir trwy ddyfarnu Gwobr Heddwch Nobel i\u2019r papur newydd Rwsiaidd, <a href=\"https:\/\/novayagazeta.ru\/\">Novaya Gazeta<\/a>.<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p>Mae Cymru yn falch o gael bod yn <a href=\"https:\/\/wales.cityofsanctuary.org\/cy\/\">Genedl Noddfa<\/a> \u2013 cenedl sy\u2019n cydnabod y realiti a wynebir gan bobl sy\u2019n ffoi rhag gwrthdaro, a chenedl sy\u2019n gwrthod y modd y caiff ffoaduriaid eu camgyfleu a\u2019r cambortreadu fel mudwyr anghyfreithlon neu economaidd. Erfyniwn ar newyddiadurwyr a llefarwyr sefydliadau i fynd ati mewn modd gonest, agored a thosturiol i ddarlunio\u2019r rhai sy\u2019n dioddef gwrthdaro. Mae Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/uk-wales-60527006\">wedi mynd ati\u2019n gyhoeddus i gynnig lloches i Ffoaduriaid Wcr\u00e1in<\/a>&nbsp;yng Nghymru, ac mae wedi gofyn i <a href=\"https:\/\/www.independent.co.uk\/news\/uk\/home-news\/ukraine-war-refugees-uk-visas-b2022567.html\">Lywodraeth y DU agor trywydd cyfreithiol<\/a>&nbsp;\u2013 sydd wedi\u2019i atal ar hyn o bryd.<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p>Pe bai\u2019r gwrthdaro\u2019n dwys\u00e1u, mae hi\u2019n hanfodol i lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wneud eu gorau glas i <strong>gynnig cymorth dyngarol a lloches i Wcreiniaid<\/strong> a gaiff eu gorfodi i adael eu cymunedau a\u2019u mamwlad, ynghyd \u00e2 rhoi camau <strong>amlochrog<\/strong>, cydgysylltiedig <strong>ar waith trwy\u2019r <\/strong><strong><u>Cenhedloedd Unedig<\/u><\/strong>.<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p>Ymhellach, rhaid i Brydain gydnabod ei chyfrifoldebau fel <a href=\"https:\/\/www.dw.com\/en\/londongrad-uks-tough-balancing-act-on-russian-sanctions\/a-60774545\">canolfan gyllido hirdymor<\/a>&nbsp;i elitiaid Rwsia sy\u2019n gysylltiedig ag amlhau arfau a rhyfelgarwch yn erbyn Wcr\u00e1in, fel y <a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/commentisfree\/2022\/feb\/25\/boris-johnson-russian-money-britain-mafia-state-security#_=_\">nodir gan Oliver Bullough<\/a>&nbsp;yn \u2018Moneyland\u2019, sef mater a ymchwiliwyd ac y lluniwyd adroddiad amdano gan <a href=\"http:\/\/chrome-extension\/efaidnbmnnnibpcajpcglclefindmkaj\/viewer.html?pdfurl=https%3A%2F%2Fisc.independent.gov.uk%2Fwp-content%2Fuploads%2F2021%2F03%2FCCS207_CCS0221966010-001_Russia-Report-v02-Web_Accessible.pdf&amp;clen=2513195&amp;chunk=true\">Bwyllgor Cudd-wybodaeth a Diogelwch<\/a> Senedd y DU.<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p><a href=\"https:\/\/www.parliament.uk\/get-involved\/contact-an-mp-or-lord\/contact-your-mp\/\">Gweithredwch \u2013 &gt; Ysgrifennwch at eich AS<\/a><\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p><a href=\"https:\/\/ukrainewar.carrd.co\/\">Rhyfel yr Wcr\u00e1in Rwsia: Ffyrdd o Helpu<\/a><\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Ffyrdd o Gefnogi Wcreiniaid<\/h2>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p>Ymunwch \u00e2 Chofrestr Llywodraeth Cymru er mwyn <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/helpu-pobl-syn-ceisio-noddfa-yng-nghymru\">helpu ffoaduriaid sy\u2019n ceisio Noddfa yng Nghymru<\/a><\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p>Yn dilyn yr ymosodiad, rhannodd <a href=\"https:\/\/twitter.com\/TimothyDSnyder?ref_src=twsrc%5Egoogle%7Ctwcamp%5Eserp%7Ctwgr%5Eauthor\">Timothy Snyder<\/a>, Athro Hanes yn Yale, flog o\u2019r enw <a href=\"https:\/\/snyder.substack.com\/p\/a-few-ways-to-help-ukrainians?utm_source=url&amp;fbclid=IwAR1AsxHpC1SADYWj1VlEWY6nNIILJFd0liIGpNl1B3VoICTUcGlnN1fGMmE\">\u2018Ways to help Ukrainians\u2019<\/a>, lle ceir dolenni ar gyfer darparu offer a all achub bywydau milwyr; cynorthwyo elusennau ysbytaidd rheng flaen, merched, ffoaduriaid mewnol a phlant mewn trawma; a darparu gofal iechyd ac addysg. Yn \u00f4l Snyder: <em>\u201cDyw Wcr\u00e1in ddim yn wlad gyfoethog. Mae\u2019r aelwyd arferol yn ennill llai <\/em><em>na $7000 y flwyddyn. Gall ychydig o arian wedi\u2019i dargedu at y lle iawn wneud gwahaniaeth ystyrlon. Gallwch ddangos eich cydsafiad. Gallwch roi rhywfaint o <\/em><em>arian i ryw sefydliad. Ni fydd hyn yn rhoi stop ar y rhyfela. Ond bydd yn helpu Wcreiniaid i\u2019w helpu eu hunain. Ac fe allai achub bywydau.\u201d<\/em><em><\/em><\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p>Mae Cymdeithas yr Wcreiniaid ym Mhrydain Fawr wedi llunio Y Rhyfel rhwng Rwsia-Wcr\u00e1in: Ffyrdd o Helpu, sy\u2019n cynnwys gwybodaeth am y canlynol: y gwrthdaro, adnoddau addysgol, cefnogaeth i\u2019r gwrthsafiad, cyflenwadau meddygol, gwirfoddolwyr, cyn-filwyr, plant a newyddiaduraeth.<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p>Nid yw\u2019r WCIA yn cymeradwyo\u2019r dolenni hyn yn benodol, ond rydym yn rhannu awgrymiadau gydag ewyllys da a byddwn yn ychwanegu rhai eraill y tynnir ein sylw atynt &#8211; e-bostiwch walesforpeace@wcia.org.uk.<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Cymru a\u2019r Wcr\u00e1in: Hanes o Undod<\/strong><\/h3>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p>Mae gan Gymru hanes hir o undod \u00e2 phobl yr Wcr\u00e1in. Enw gwreiddiol dinas <strong>Donetsk<\/strong> ei hun oedd <strong>Hugheskova<\/strong>, a <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/uk-wales-40345030\">sefydlwyd ym 1870 gan y meistr haearn o Ferthyr John Hughes<\/a> gyda 100 o weithwyr mudol o Gymru, a wnaeth gyda\u2019i gilydd,&nbsp; ddatblygu diwydiant meteleg Rwsia. Heddiw, mae\u2019n gartref i 1 miliwn o bobl ac wrth wraidd y gwrthdaro, yn dilyn cydnabyddiaeth a chydfeddiannaeth Rwsia i <a href=\"https:\/\/en.wikipedia.org\/wiki\/Donetsk_People%27s_Republic\">Weriniaeth y Bobl Donetsk<\/a>.<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter size-large\"><img decoding=\"async\" width=\"864\" height=\"805\" src=\"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2021\/10\/Gareth-Jones-journalism-Ukrainian-Famine.jpeg\" alt=\"\" class=\"wp-image-22036\" srcset=\"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2021\/10\/Gareth-Jones-journalism-Ukrainian-Famine.jpeg 864w, https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2021\/10\/Gareth-Jones-journalism-Ukrainian-Famine-800x745.jpeg 800w, https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2021\/10\/Gareth-Jones-journalism-Ukrainian-Famine-300x280.jpeg 300w, https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2021\/10\/Gareth-Jones-journalism-Ukrainian-Famine-768x716.jpeg 768w, https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2021\/10\/Gareth-Jones-journalism-Ukrainian-Famine-322x300.jpeg 322w, https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2021\/10\/Gareth-Jones-journalism-Ukrainian-Famine-1x1.jpeg 1w\" sizes=\"(max-width: 864px) 100vw, 864px\" \/><figcaption>Gareth Jones&#8217;, 1933<\/figcaption><\/figure><\/div>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p>Ym 1933, datgelodd y newyddiadurwr o <a href=\"https:\/\/www.garethjones.org\/\">Gymru Gareth Jones<\/a> <a href=\"https:\/\/en.wikipedia.org\/wiki\/Holodomor\">newyn Holodomor<\/a> &#8211; <a href=\"https:\/\/www.history.com\/news\/ukrainian-famine-stalin\">Stalin yr Wcrain<\/a>, lle bu farw 7-10 miliwn o bobl yr Wcrain yn nwylo Gwladwriaeth Rwsia, a gafodd ei gydnabod fel hil-laddiad gan y Cenhedloedd Unedig yn 2006. Cafodd Gareth Jones ei ladd ym 1935 yn Tsieina, y diwrnod cyn ei ben-blwydd yn 30 oed; ond mae ei stori a&#8217;i heffaith wrth roi llais i bobl yr Wcr\u00e1in wedi cael ei hadrodd yn ffilm <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/uk-wales-51331376\">Agnieska Holland yn 2020 <strong>&#8216;Mr Jones&#8217;<\/strong><\/a> &#8211; a gafodd ei hysbrydoli gan ymchwil Margaret Siriol Colley ei nith, a\u2019i <a href=\"https:\/\/glamorganstar.co.uk\/the-life-of-one-of-barrys-wales-and-journalisms-greats-is-celebrated\/\">goff\u00e1u yn ddiweddar yn y Barri ym mis Tachwedd 2021.<\/a><\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p>Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth yn cadw A<a href=\"https:\/\/www.library.wales\/garethvaughanjones\">rchifau Gareth Jones<\/a> tra bod y Deml Heddwch yn falch o gadw ei gasgliad personol o lyfrau yn Llyfrgell y Deml \u2013 wedi\u2019u rhoi gan rieni Gareth, <a href=\"https:\/\/biography.wales\/article\/s2-JONE-WIL-1868#?c=0&amp;m=0&amp;s=0&amp;cv=0&amp;manifest=https%3A%2F%2Fdamsssl.llgc.org.uk%2Fiiif%2F2.0%2F5184994%2Fmanifest.json&amp;xywh=136%2C318%2C835%2C687\">Ann ac Edgar Jones<\/a> Roedd Ann wedi byw yn yr Wcr\u00e1in fel tiwtor i deulu John Hughes (uchod); tra bod ei dad Edgar yn ymwneud yn fawr \u00e2 mudiad Heddwch Cymru drwy Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru, a <strong>hi oedd Warden cyntaf Teml Heddwch Cymru <\/strong>drwy gydol yr Ail Ryfel Byd.<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p>Ym 1986, ysgogodd y drychineb niwclear yn <strong>Chernobyl yng Ngogledd yr Wcr\u00e1in<\/strong> gefnogaeth fawr gan y cyhoedd ar draws Cymru, gydag elusennau a grwpiau undod \u2013 gan gynnwys llawer oedd yn cael eu cefnogi gan <a href=\"https:\/\/www.cndcymru.org\/en\/\">CND Cymru<\/a> \u2013 gyda rhai ohonynt yn parhau drwy fentrau fel Llinell Bywyd <a href=\"https:\/\/www.facebook.com\/NorthWalesCCLL\/\">Plant Chernobyl.<\/a> <\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p>Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae llawer o <strong>wirfoddolwyr rhyngwladol<\/strong> wedi cyfnewid rhwng Cymru, yr Wcr\u00e1in a Rwsia drwy UNA Exchange, sy&#8217;n parhau heddiw drwy <a href=\"https:\/\/cymru.global\/global-action\/\">raglen Gwirfoddoli Rhyngwladol Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru.<\/a> <\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"768\" src=\"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/Ukraine-Mick-Antoniw-Adam-Price-1024x768.jpeg\" alt=\"\" class=\"wp-image-24500\" srcset=\"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/Ukraine-Mick-Antoniw-Adam-Price-1024x768.jpeg 1024w, https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/Ukraine-Mick-Antoniw-Adam-Price-800x600.jpeg 800w, https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/Ukraine-Mick-Antoniw-Adam-Price-300x225.jpeg 300w, https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/Ukraine-Mick-Antoniw-Adam-Price-768x576.jpeg 768w, https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/Ukraine-Mick-Antoniw-Adam-Price-1x1.jpeg 1w, https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/Ukraine-Mick-Antoniw-Adam-Price.jpeg 1200w\" sizes=\"(max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption>Twitter \/ Mick Antoniw, via <a href=\"https:\/\/www.walesonline.co.uk\/news\/politics\/adam-price-mick-antoniw-respond-23170695\">Wales Online feature<\/a><\/figcaption><\/figure>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p>Dros y dyddiau diwethaf, <a href=\"https:\/\/www.itv.com\/news\/wales\/2022-02-22\/how-the-ukraine-conflict-affects-us-here-in-wales\">mae aelodau Senedd Cymru Mick Antoniw ac Adam Price wedi teithio i Kyiv<\/a> mewn swydd breifat, i weld yn uniongyrchol y sefyllfa ar lawr gwlad mewn <a href=\"https:\/\/www.thenational.wales\/news\/19937809.ukraine-adam-price-mick-antoniw-make-anti-war-visit\/\">&#8216;Ymweliad Gwrthryfel<\/a>&#8216;. Dywedodd <strong>Mick Antoniw<\/strong> , <a href=\"https:\/\/senedd.wales\/people\/mick-antoniw-ms\/\">AS Pontypridd<\/a> &#8211; sydd \u00e2 theulu yn yr Wcr\u00e1in: <\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p><em>&#8220;(Wrth i lywodraethau a) chynulleidfaoedd ddechrau anfon eu holl bobl allan, roedd pobl yr Wcr\u00e1in wedi teimlo eu bod yn cael eu hanghofio. Maen nhw\u2019n gwybod yn barod sut mae\u2019n teimlo i gael eu hanghofio pan fydd materion rhyngwladol yn codi. Maen nhw&#8217;n gallu dweud wrthym beth sy&#8217;n digwydd, sut maen nhw&#8217;n teimlo&#8230; a pha mor bwysig yw hi fod pobl yn cefnogi ac yn cydnabod y sefyllfa yma. Fel y dywedodd un person yn gynharach &#8216;rydym o bosibl ar drothwy&#8217;r Trydydd Rhyfel Byd &#8211; mae mor dda eich bod chi yma, fel y gallwn siarad a dweud wrthych am yr hyn sy&#8217;n digwydd yn y wlad hon&#8217;.&#8221;<\/em><\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p>Mae arsylwyr yn tynnu tebygrwydd amlwg rhwng triniaeth Rwsia o\u2019r Wcr\u00e1in yn y 1930au, a heddiw. Sut allwn ni ddysgu o&#8217;r gorffennol, i ddefnyddio gwersi ar gyfer heddiw a chenedlaethau&#8217;r dyfodol?<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img decoding=\"async\" width=\"1000\" height=\"668\" src=\"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/Thank-you-for-Peace-Victims-of-War-in-Ukraine-Wikimedia.jpeg\" alt=\"\" class=\"wp-image-24498\" srcset=\"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/Thank-you-for-Peace-Victims-of-War-in-Ukraine-Wikimedia.jpeg 1000w, https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/Thank-you-for-Peace-Victims-of-War-in-Ukraine-Wikimedia-800x534.jpeg 800w, https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/Thank-you-for-Peace-Victims-of-War-in-Ukraine-Wikimedia-600x400.jpeg 600w, https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/Thank-you-for-Peace-Victims-of-War-in-Ukraine-Wikimedia-300x200.jpeg 300w, https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/Thank-you-for-Peace-Victims-of-War-in-Ukraine-Wikimedia-768x513.jpeg 768w, https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/Thank-you-for-Peace-Victims-of-War-in-Ukraine-Wikimedia-1x1.jpeg 1w\" sizes=\"(max-width: 1000px) 100vw, 1000px\" \/><figcaption><br><em>Diolch am Heddwch &#8211; Dioddefwyr y Rhyfel yn Wcr\u00e1in, Ysbyty Kyiv &#8211; Wikimedia Commons (Diana Vartanova \/ Still Miracle Photography<\/em>)<\/figcaption><\/figure>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Rhagor o wybodaeth<\/h3>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<ul class=\"wp-block-list\" id=\"block-a292e585-3176-41c3-9423-1d6a5370a7a8\"><li><a href=\"https:\/\/www.walesonline.co.uk\/news\/uk-news\/live-ukraine-russia-invasion-war-23200468\">Wales Online<\/a><\/li><li><a href=\"https:\/\/www.northwaleschronicle.co.uk\/news\/national\/19941757.emergency-meeting-called-un-security-council-ukraine-crisis\/\">North Wales Chronicle<\/a><\/li><li><a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/world\/live\/2022\/feb\/24\/russia-invades-ukraine-declares-war-latest-news-live-updates-russian-invasion-vladimir-putin-explosions-bombing-kyiv-kharkiv\">Guardian Ukraine feed<\/a><\/li><li><a href=\"https:\/\/www.economist.com\/ukraine-crisis\">Economist Ukraine coverage<\/a><\/li><li><a href=\"https:\/\/www.facebook.com\/InternationalFellowshipofReconciliation\/\">International Fellowship of Reconciliation<\/a><\/li><li><a href=\"https:\/\/www.nonviolenceinternational.net\/listen_to_peace_activists_ukraine_russia\">Nonviolence International<\/a><\/li><li><a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/commentisfree\/2022\/feb\/25\/boris-johnson-russian-money-britain-mafia-state-security#_=_\">Britain, Dirty Money and National Security<\/a> &#8211; Oliver Bullough<\/li><\/ul>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p><\/p>\n<\/div>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, ochr yn ochr \u00e2 phartneriaid a chymunedau ar draws Cymru, yn gresynu at yr achosion o wrthdaro yn yr Wcr\u00e1in, yn dilyn ymosodiad milwrol Rwsia y bore yma. Mae Cymru a&#8217;r gymuned ryngwladol yn ymestyn ein cefnogaeth a&#8217;n hundod dyfnaf gyda phobl yr Wcr\u00e1in a [&#8230;]<\/p>\n","protected":false},"author":7,"featured_media":24538,"comment_status":"open","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"iawp_total_views":8,"footnotes":""},"categories":[158,188],"tags":[],"class_list":["post-24607","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-blogiau","category-wcia-news-cy"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.5 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Cymru dros Heddwch yn yr Wcr\u00e1in - Cymru Global<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Cymru dros Heddwch yn yr Wcr\u00e1in - Cymru Global\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, ochr yn ochr \u00e2 phartneriaid a chymunedau ar draws Cymru, yn gresynu at yr achosion o wrthdaro yn yr Wcr\u00e1in, yn dilyn ymosodiad milwrol Rwsia y bore yma. Mae Cymru a&#8217;r gymuned ryngwladol yn ymestyn ein cefnogaeth a&#8217;n hundod dyfnaf gyda phobl yr Wcr\u00e1in a [...]\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/cymru.global\/cy\/wcia-news-cy\/cymru-dros-heddwch-yn-yr-wcrain\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Cymru Global\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/welshcentreforinternationalaffairs\/\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2022-03-01T09:35:11+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2022-03-02T10:38:36+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/IMG_9312.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"968\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"483\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Craig Owen\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@WCIA_Wales\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@WCIA_Wales\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Craig Owen\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"7 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/wcia-news-cy\\\/cymru-dros-heddwch-yn-yr-wcrain\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/wcia-news-cy\\\/cymru-dros-heddwch-yn-yr-wcrain\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"Craig Owen\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/b4a3bb351a6e3c07121e207a47e2b1ab\"},\"headline\":\"Cymru dros Heddwch yn yr Wcr\u00e1in\",\"datePublished\":\"2022-03-01T09:35:11+00:00\",\"dateModified\":\"2022-03-02T10:38:36+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/wcia-news-cy\\\/cymru-dros-heddwch-yn-yr-wcrain\\\/\"},\"wordCount\":1485,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/wcia-news-cy\\\/cymru-dros-heddwch-yn-yr-wcrain\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/02\\\/IMG_9312.jpg\",\"articleSection\":[\"Blogiau\",\"WCIA news\"],\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/wcia-news-cy\\\/cymru-dros-heddwch-yn-yr-wcrain\\\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/wcia-news-cy\\\/cymru-dros-heddwch-yn-yr-wcrain\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/wcia-news-cy\\\/cymru-dros-heddwch-yn-yr-wcrain\\\/\",\"name\":\"Cymru dros Heddwch yn yr Wcr\u00e1in - Cymru Global\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/wcia-news-cy\\\/cymru-dros-heddwch-yn-yr-wcrain\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/wcia-news-cy\\\/cymru-dros-heddwch-yn-yr-wcrain\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/02\\\/IMG_9312.jpg\",\"datePublished\":\"2022-03-01T09:35:11+00:00\",\"dateModified\":\"2022-03-02T10:38:36+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/wcia-news-cy\\\/cymru-dros-heddwch-yn-yr-wcrain\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/wcia-news-cy\\\/cymru-dros-heddwch-yn-yr-wcrain\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/wcia-news-cy\\\/cymru-dros-heddwch-yn-yr-wcrain\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/02\\\/IMG_9312.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/02\\\/IMG_9312.jpg\",\"width\":968,\"height\":483},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/wcia-news-cy\\\/cymru-dros-heddwch-yn-yr-wcrain\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Cymru dros Heddwch yn yr Wcr\u00e1in\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/\",\"name\":\"Cymru Global\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/#organization\",\"name\":\"Cymru Global\",\"url\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2026\\\/02\\\/loog-white.svg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2026\\\/02\\\/loog-white.svg\",\"width\":179,\"height\":59,\"caption\":\"Cymru Global\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\"},\"sameAs\":[\"https:\\\/\\\/www.facebook.com\\\/welshcentreforinternationalaffairs\\\/\",\"https:\\\/\\\/x.com\\\/WCIA_Wales\",\"https:\\\/\\\/www.instagram.com\\\/wcia_wales\\\/?hl=en-gb\",\"https:\\\/\\\/www.youtube.com\\\/channel\\\/UC0G2l7QV_yPDU4RHB8hEEPg\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/b4a3bb351a6e3c07121e207a47e2b1ab\",\"name\":\"Craig Owen\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/ddf69d48b620ba56dc5e9645bb2b3b54243829f3e133aaad1d2f65e0ae3d7d0c?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/ddf69d48b620ba56dc5e9645bb2b3b54243829f3e133aaad1d2f65e0ae3d7d0c?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/ddf69d48b620ba56dc5e9645bb2b3b54243829f3e133aaad1d2f65e0ae3d7d0c?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Craig Owen\"},\"url\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/author\\\/craig-owen\\\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Cymru dros Heddwch yn yr Wcr\u00e1in - Cymru Global","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Cymru dros Heddwch yn yr Wcr\u00e1in - Cymru Global","og_description":"Mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, ochr yn ochr \u00e2 phartneriaid a chymunedau ar draws Cymru, yn gresynu at yr achosion o wrthdaro yn yr Wcr\u00e1in, yn dilyn ymosodiad milwrol Rwsia y bore yma. Mae Cymru a&#8217;r gymuned ryngwladol yn ymestyn ein cefnogaeth a&#8217;n hundod dyfnaf gyda phobl yr Wcr\u00e1in a [...]","og_url":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wcia-news-cy\/cymru-dros-heddwch-yn-yr-wcrain\/","og_site_name":"Cymru Global","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/welshcentreforinternationalaffairs\/","article_published_time":"2022-03-01T09:35:11+00:00","article_modified_time":"2022-03-02T10:38:36+00:00","og_image":[{"width":968,"height":483,"url":"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/IMG_9312.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Craig Owen","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@WCIA_Wales","twitter_site":"@WCIA_Wales","twitter_misc":{"Written by":"Craig Owen","Est. reading time":"7 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wcia-news-cy\/cymru-dros-heddwch-yn-yr-wcrain\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wcia-news-cy\/cymru-dros-heddwch-yn-yr-wcrain\/"},"author":{"name":"Craig Owen","@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/#\/schema\/person\/b4a3bb351a6e3c07121e207a47e2b1ab"},"headline":"Cymru dros Heddwch yn yr Wcr\u00e1in","datePublished":"2022-03-01T09:35:11+00:00","dateModified":"2022-03-02T10:38:36+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wcia-news-cy\/cymru-dros-heddwch-yn-yr-wcrain\/"},"wordCount":1485,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wcia-news-cy\/cymru-dros-heddwch-yn-yr-wcrain\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/IMG_9312.jpg","articleSection":["Blogiau","WCIA news"],"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/cymru.global\/cy\/wcia-news-cy\/cymru-dros-heddwch-yn-yr-wcrain\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wcia-news-cy\/cymru-dros-heddwch-yn-yr-wcrain\/","url":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wcia-news-cy\/cymru-dros-heddwch-yn-yr-wcrain\/","name":"Cymru dros Heddwch yn yr Wcr\u00e1in - Cymru Global","isPartOf":{"@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wcia-news-cy\/cymru-dros-heddwch-yn-yr-wcrain\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wcia-news-cy\/cymru-dros-heddwch-yn-yr-wcrain\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/IMG_9312.jpg","datePublished":"2022-03-01T09:35:11+00:00","dateModified":"2022-03-02T10:38:36+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wcia-news-cy\/cymru-dros-heddwch-yn-yr-wcrain\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/cymru.global\/cy\/wcia-news-cy\/cymru-dros-heddwch-yn-yr-wcrain\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wcia-news-cy\/cymru-dros-heddwch-yn-yr-wcrain\/#primaryimage","url":"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/IMG_9312.jpg","contentUrl":"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/IMG_9312.jpg","width":968,"height":483},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wcia-news-cy\/cymru-dros-heddwch-yn-yr-wcrain\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/cymru.global\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Cymru dros Heddwch yn yr Wcr\u00e1in"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/#website","url":"https:\/\/cymru.global\/cy\/","name":"Cymru Global","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/cymru.global\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/#organization","name":"Cymru Global","url":"https:\/\/cymru.global\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2026\/02\/loog-white.svg","contentUrl":"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2026\/02\/loog-white.svg","width":179,"height":59,"caption":"Cymru Global"},"image":{"@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/welshcentreforinternationalaffairs\/","https:\/\/x.com\/WCIA_Wales","https:\/\/www.instagram.com\/wcia_wales\/?hl=en-gb","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC0G2l7QV_yPDU4RHB8hEEPg"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/#\/schema\/person\/b4a3bb351a6e3c07121e207a47e2b1ab","name":"Craig Owen","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ddf69d48b620ba56dc5e9645bb2b3b54243829f3e133aaad1d2f65e0ae3d7d0c?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ddf69d48b620ba56dc5e9645bb2b3b54243829f3e133aaad1d2f65e0ae3d7d0c?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ddf69d48b620ba56dc5e9645bb2b3b54243829f3e133aaad1d2f65e0ae3d7d0c?s=96&d=mm&r=g","caption":"Craig Owen"},"url":"https:\/\/cymru.global\/cy\/author\/craig-owen\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/24607","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=24607"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/24607\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":24724,"href":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/24607\/revisions\/24724"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/24538"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=24607"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=24607"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=24607"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}