
{"id":25114,"date":"2022-03-16T15:51:49","date_gmt":"2022-03-16T15:51:49","guid":{"rendered":"https:\/\/www.wcia.org.uk\/?p=25114"},"modified":"2022-03-16T15:51:50","modified_gmt":"2022-03-16T15:51:50","slug":"yr-argyfwng-yn-wcrain","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/cymru.global\/cy\/addysg-cy\/yr-argyfwng-yn-wcrain\/","title":{"rendered":"Yr Argyfwng yn Wcr\u00e1in"},"content":{"rendered":"<div class=\"container\">\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Adnoddau ar gyfer Trafodaeth a Gweithgareddau gyda Phlant Ysgol Uwchradd<\/strong><\/h3>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<div style=\"height:24px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><strong>1. Siarad gyda phobl ifanc am ryfel:<\/strong>&nbsp;<\/h4>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p>Un o nodau craidd Cwricwlwm Cymru yw cefnogi pobl ifanc i ddod yn &#8216;ddinasyddion moesegol, gwybodus yng Nghymru a&#8217;r byd.&#8217;&nbsp; Wedi dweud hynny, sut mae mynd i&#8217;r afael \u00e2 phynciau sensitif a gofidus fel rhyfel, yn enwedig pan mae&#8217;n wrthdaro fel argyfwng Wcr\u00e1in sy&#8217;n datblygu&#8217;n ddyddiol drwy&#8217;r cyfryngau?&nbsp;&nbsp;&nbsp;<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p>Bydd pobl ifanc yn ymwybodol iawn o&#8217;r gwrthdaro drwy&#8217;r cyfryngau a thrwy glywed oedolion yn siarad amdano.&nbsp; Drwy ei drafod gyda nhw, gallwn eu cefnogi i fod yn wybodus, i ofyn cwestiynau beirniadol a cheisio gwneud synnwyr o&#8217;r hyn sy&#8217;n digwydd.&nbsp; Fe allwn ni hefyd eu cefnogi fel dinasyddion gweithgar i fod yn rhan o fentrau i helpu&#8217;r rhai sydd wedi\u2019u heffeithio gan y gwrthdaro.&nbsp;<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p>Dyma rai awgrymiadau o ran sut y gall ysgolion gyflwyno pwnc y rhyfel yn Wcr\u00e1in. Gallwch addasu neu ychwanegu at y rhain fel rydych chi\u2019n teimlo sy&#8217;n briodol.&nbsp;<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><strong>2. Esbonio&#8217;r gwrthdaro mewn ffordd sy&#8217;n briodol i&#8217;w hoedran:<\/strong>&nbsp;<\/h4>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignright size-large is-resized\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/image-5.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-25115\" width=\"330\" height=\"216\" srcset=\"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/image-5.png 565w, https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/image-5-300x197.png 300w, https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/image-5-2x1.png 2w\" sizes=\"(max-width: 330px) 100vw, 330px\" \/><\/figure><\/div>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p>Y dasg gyntaf, efallai, yw esbonio&#8217;r sefyllfa i bobl ifanc mewn ffordd sy&#8217;n berthnasol iddyn nhw.\u00a0 Un ffordd o wneud hyn yw dangos tebygrwydd i sefyllfaoedd maen nhw\u2019n gyfarwydd \u00e2 nhw.\u00a0 Mae fframwaith diwylliant gangiau yn cael ei ddefnyddio yr enghraifft isod.\u00a0 Defnyddiwch neu addaswch hwn fel rydych chi\u2019n meddwl sy\u2019n addas.\u00a0 Gellir defnyddio\u2019r testun gyda delweddau fel map o\u2019r byd i ddangos lle mae Wcr\u00e1in a gwledydd NATO.\u00a0 Mae rhai cwestiynau wedi\u2019u hawgrymu isod i gefnogi pobl ifanc i archwilio materion ymhellach.\u00a0\u00a0\u00a0<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p><em>&#8220;Yn nhref Neuwold mae dau gang cystadleuol, y Noy Boys (NATO) a&#8217;r Ru Crew (RWSIA).&nbsp; Bu heddwch rhwng y ddau ers y frwydr fawr ddiwethaf (YR AIL RYFEL BYD), gydag aelodau&#8217;r gangiau yn cyfnewid pethau roedd y lleill am eu cael (MASNACHU) \u2013 hefyd y tollau a ffyrdd o wneud pethau (DIWYLLIANT).&nbsp;&nbsp;<\/em>&nbsp;<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p><em>Yn gynyddol, mae pethau wedi dod dan fwy o straen.&nbsp; Mae&#8217;r Noy Boys wedi ehangu&#8217;n sylweddol, ac wedi symud tuag at diriogaeth y Ru Crew, gan roi cyllyll a gynnau i aelodau newydd (CALEDWEDD AC ARFAU MILWROL) y gallan nhw eu defnyddio i amddiffyn eu hunain a&#8217;r naill a\u2019r llall yn erbyn unrhyw gang allanol.&nbsp; Mae&#8217;r Noy Boys hefyd yn ymfalch\u00efo mewn gadael i aelodau&#8217;r gang fynegi eu barn a chael dweud eu dweud yn y ffordd mae pethau\u2019n cael eu rhedeg (DEMOCRATIAETH) ac maen nhw wedi bod yn feirniadol o&#8217;r ffordd mae&#8217;r Ru Crew yn trefnu eu gang.<\/em>&nbsp;<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p><em>Mae&#8217;r Ru Crew yn teimlo dan fygythiad gan feirniadaeth gyson y Noy Boys ac am eu bod nhw\u2019n rhoi cyllyll a gynnau (ARFAU) i aelodau newydd (DWYRAIN EWROP), gyda rhai ohonyn nhw\u2019n arfer bod yn rhan o&#8217;r Ru Crew.&nbsp; Maen nhw\u2019n rhedeg eu gang ar system awdurdodol lle gall fod yn anodd i bobl leisio barn wahanol.&nbsp; Mae arweinwyr y gang yn teimlo bod hyn yn gweithio iddyn nhw ac eisiau pwysleisio eu hawdurdod yn wyneb ehangiad Noy Boys.<\/em>&nbsp;<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p><em>Mae rhai aelodau o&#8217;r Noy Boys hefyd yn perthyn i&#8217;r E-Glwb (UNDEB EWROPEAIDD).&nbsp; Bu cysylltiadau da rhwng yr E-Glwb a&#8217;r Ru Crew yn y gorffennol, gyda&#8217;r ddwy ochr yn dibynnu ar y naill a\u2019r llall i gyfnewid pethau maen nhw eu hangen (MASNACHU).&nbsp; Fodd bynnag, ers 2014 mae&#8217;r E-Glwb wedi bod yn fwyfwy beirniadol o&#8217;r ffordd awdurdodol mae&#8217;r Ru Crew yn gweithredu ac yn ceisio ennill rhannau o&#8217;r dref yn \u00f4l i&#8217;w cylch dylanwad drwy eu cymryd drosodd (e.e. CYFEDDIANNAETH CRIMEA). Mae cysylltiadau wedi oeri ac maen nhw hyd yn oed yn elyniaethus.<\/em>&nbsp;<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p><em>Mae&#8217;r broblem wedi dwysau oherwydd bod t\u00eem-U (WCR\u00c1IN), oedd yn arfer bod yn rhan o&#8217;r Ru Crew, wedi dod yn annibynnol ac mae&#8217;n edrych yn fwyfwy tebygol y bydden nhw\u2019n hoffi ymuno \u00e2&#8217;r E-glwb a hyd yn oed y Noy Boys.&nbsp; Mae&#8217;r Ru Crew yn gweld hyn fel bygythiad uniongyrchol, oherwydd bod t\u00eem-U yn ffinio \u00e2&#8217;u tiriogaeth.&nbsp; Maen nhw hefyd yn gweld t\u00eem-U fel rhan o&#8217;u gang nhw o hyd ac eisiau eu cael nhw\u2019n \u00f4l \u2013 yn rhannol i wthio&#8217;n \u00f4l yn erbyn y Noy Boys a dangos eu bod nhw\u2019n gryf ac na ellir eu hanwybyddu yn Neuwold.<\/em>&nbsp;<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p><em>I ddechrau fe wnaeth y Ru Crew fygwth t\u00eem-U ac maen nhw bellach wedi croesi i&#8217;w tiriogaeth ac yn defnyddio cyllyll, gynnau a rocedi i geisio eu gorfodi&#8217;n \u00f4l i&#8217;w gang nhw.&nbsp; Mae hyn yn torri rheolau gang (CYFRAITH RYNGWLADOL) ac mae pawb yn Neuwold wedi synnu ac wedi\u2019u ffieiddio bod hyn yn digwydd. Maen nhw i gyd wedi dweud y drefn wrth y Ru Crew ac wedi cadw cefn t\u00eem-U drwy wrthod derbyn nwyddau sy&#8217;n dod gan y Ru Crew (SANCSIYNAU) nes iddyn nhw roi&#8217;r gorau i ddefnyddio grym.&nbsp; Y gobaith yw y bydd hyn yn atal y Ru Crew rhag prynu mwy o gyllyll, gynnau a rocedi. Mae&#8217;r Ru Crew hefyd wedi cael ei feirniadu&#8217;n hallt gan y Cyngor Tref (Y CENHEDLOEDD UNEDIG), yr awdurdod uchaf yn Neuwold.&nbsp;&nbsp;<\/em>&nbsp;<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p><em>Ni all y Noy Boys helpu t\u00eem-U i ymladd yn erbyn y Ru Crew yn uniongyrchol am nad ydyn nhw\u2019n aelod o&#8217;u gang, ac mae cytundeb Noy Boys i amddiffyn \/ ymladd dros y naill a\u2019r llall yn berthnasol i aelodau&#8217;r gang yn unig.&nbsp; Byddai gwneud hynny bron yn sicr yn golygu y byddai&#8217;r frwydr yn gwaethygu, a gallai waethygu i frwydr fawr arall (TRYDYDD RHYFEL BYD)<\/em>&nbsp;<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p><em>Fodd bynnag, mae&#8217;r Noy Boys wedi rhoi llawer o&#8217;u cyllyll, eu gynnau a&#8217;u rocedi eu hunain i d\u00eem-U ymladd yn erbyn y Ru Crew, oherwydd nid yw hyn yn torri eu rheolau gang.<\/em>&nbsp;<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p><em>Am y tro, dim ond sefyll ar yr ymylon a gwylio a rhoi cefnogaeth foesol i d\u00eem-U mae pentrefi a threfi eraill (GWLEDYDD) yn gallu ei wneud, gan gynnwys croesawu plant sydd wedi dianc am eu bod mewn perygl o gael eu brifo (FFOADURIAID) a sicrhau eu bod yn gynnes, yn ddiogel a bod ganddyn nhw ddigon i\u2019w cadw nhw i fynd (BWYD a LLOCHES).&nbsp;<\/em>&nbsp;<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p><em>Mae pawb eisiau i&#8217;r frwydr ddod i ben, ac mae rhai plant wedi ceisio annog pob ochr i siarad fel nad oes neb arall yn cael ei frifo ac fel y gall Neuwold fod yn ddiogel i bawb.&#8221;<\/em>&nbsp;<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<div style=\"height:19px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><strong>3. Deall y cyd-destun:<\/strong>&nbsp;<\/h4>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p>Er mwyn deall yn iawn beth sy&#8217;n digwydd yn Wcr\u00e1in ar hyn o bryd, mae angen i ni ddeall y cefndir hanesyddol fel mae\u2019n cael ei weld o wahanol safbwyntiau.&nbsp; Rhannwch yn grwpiau llai ac edrychwch ar yr erthyglau canlynol:&nbsp;<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p><a href=\"https:\/\/www.ukraine.com\/culture\/history-of-ukraine\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Hanes Wcr\u00e1in &#8211; Ukraine.com<\/a>&nbsp;<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p><a href=\"https:\/\/localhistories.org\/a-brief-history-of-ukraine\/#:~:text=The%20Early%20History%20of%20Ukraine%20In%20the%207th,the%20Black%20Sea%20and%20they%20founded%20city-states%20there.\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Hanes Cryno Wcr\u00e1in \u2013 Local<\/a> Histories&nbsp;<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p><a href=\"https:\/\/en.wikipedia.org\/wiki\/Modern_history_of_Ukraine\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Hanes modern Wcr\u00e1in &#8211; Wicipedia<\/a>&nbsp;<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p><a href=\"https:\/\/history.howstuffworks.com\/european-history\/russia-ukraine-history-news.htm\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Hanesydd yn Esbonio Perthynas Gymhleth Wcr\u00e1in a Rwsia | HowStuffWorks<\/a>&nbsp;<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p><strong>Rhai cwestiynau i&#8217;w trafod:<\/strong>&nbsp;<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Pwy sy&#8217;n ysgrifennu&#8217;r cyfrif hwn?&nbsp; Oes ganddyn nhw agenda?&nbsp;<\/li><\/ul>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Beth sy&#8217;n cael ei ddweud?&nbsp; Beth allai fod yn cael ei adael allan?&nbsp; Ble mae&#8217;r gwir?&nbsp;<\/li><li>Sut mae&#8217;r hanes yn esbonio ac yn taflu goleuni ar yr hyn sy&#8217;n digwydd heddiw ac agweddau a barn ar y ddwy ochr?&nbsp;<br>&nbsp;<\/li><\/ul>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><strong>4. Rhai cwestiynau i&#8217;w hystyried:<\/strong>\u00a0<\/h4>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignright size-large is-resized\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/image-6.png\" alt=\"Icon\n\nDescription automatically generated\" class=\"wp-image-25118\" width=\"102\" height=\"155\" srcset=\"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/image-6.png 137w, https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/image-6-1x1.png 1w\" sizes=\"(max-width: 102px) 100vw, 102px\" \/><\/figure><\/div>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<ul class=\"wp-block-list\"><li><strong>Beth ydych chi\u2019n meddwl yw gwraidd y rhyfel?<\/strong>\u00a0<\/li><\/ul>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p>P\u0175er a dylanwad?&nbsp;<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p>Gwladychiaeth?&nbsp;<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p>Adnoddau?&nbsp;<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p>Ideolegau gwahanol (awdurdodaeth v rhyddfrydiaeth \/ democratiaeth; sosialaeth v cyfalafiaeth&#8230;.)&nbsp;<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p>Pob un o\u2019r uchod&#8230;.?&nbsp;<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<ul class=\"wp-block-list\" start=\"2\"><li><strong>Beth ydych <em>chi\u2019n<\/em> feddwl sy&#8217;n effeithiol o ran atal bwlio rhag digwydd neu ymyrryd pan fydd dau berson neu grwpiau o bobl yn dechrau gwrthdaro gyda\u2019i gilydd?\u00a0\u00a0<\/strong>\u00a0<\/li><\/ul>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p>Ydy&#8217;r ateb yn wahanol pan fyddwn ni\u2019n s\u00f4n am wledydd yn hytrach nag unigolion?&nbsp; Os felly, sut?&nbsp;<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<ul class=\"wp-block-list\" start=\"3\"><li><strong>Ydy&#8217;r pethau canlynol yn gwneud y sefyllfa&#8217;n WELL neu&#8217;n WAETH, yn eich barn chi?<\/strong>\u00a0<\/li><\/ul>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<ol class=\"wp-block-list\"><li>Cyflenwi arfau i&#8217;r naill ochr neu&#8217;r llall (mae hyn yn cael ei ystyried fel ateb yn aml, ond y perygl yw bod hyn yn dwys\u00e1u&#8217;r trais, a bod mwy a mwy o bobl yn cael eu brifo)&nbsp;<\/li><\/ol>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<ol class=\"wp-block-list\" start=\"2\"><li>Cosbi&#8217;r ymosodwr drwy osod sancsiynau neu foicotio nwyddau (gallai hyn fod yn effeithiol, ond gallai wneud i gang y bwli gredu yn fwy byth bod yr ochr arall &#8216;yn eu herbyn&#8217;)&nbsp;<\/li><\/ol>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<ol class=\"wp-block-list\" start=\"3\"><li>Anufudd-dod sifil &#8211; llawer o bobl yn Wcr\u00e1in a Rwsia yn amharu ar yr ymosodiad mewn ffyrdd creadigol ac yn protestio yn erbyn y rhyfel (mae\u2019n cymryd llawer o ddewrder, ond gallai olygu y gellid troi\u2019r fantol yn erbyn y bwli&#8230;.)&nbsp;<\/li><\/ol>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<ol class=\"wp-block-list\" start=\"4\"><li>Galw am roi\u2019r gorau i ymladd a defnyddio diplomyddiaeth (yn enwedig gan wlad niwtral neu&#8217;r Cenhedloedd Unedig) i wneud i\u2019r ddwy ochr i siarad nes iddyn nhw ddod i gytundeb.&nbsp;<\/li><\/ol>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<ul class=\"wp-block-list\" start=\"4\"><li><strong>Beth yn eich barn chi yw r\u00f4l y canlynol yn y sefyllfa bresennol?<\/strong>\u00a0<\/li><\/ul>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<ol class=\"wp-block-list\"><li>Propaganda \/ rheoli gwybodaeth&nbsp;<\/li><\/ol>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<ol class=\"wp-block-list\" start=\"2\"><li>Y Cenhedloedd Unedig&nbsp;<\/li><\/ol>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<ol class=\"wp-block-list\" start=\"3\"><li>Yr UE (gweler <a href=\"https:\/\/www.europarl.europa.eu\/RegData\/etudes\/BRIE\/2020\/652030\/EPRS_BRI(2020)652030_EN.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">yr erthygl hon<\/a> fel cyflwyniad)&nbsp;<\/li><\/ol>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<ol class=\"wp-block-list\" start=\"4\"><li>&nbsp;<a href=\"https:\/\/en.wikipedia.org\/wiki\/Minsk_agreements\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Cytundeb Minsk<\/a>&nbsp;<\/li><\/ol>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<ol class=\"wp-block-list\" start=\"5\"><li>Cyfryngwyr posibl (Twrci, Ffrainc&#8230;..)&nbsp;<\/li><\/ol>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<ol class=\"wp-block-list\" start=\"6\"><li>Arfau niwclear&#8230;&nbsp;<\/li><\/ol>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<ul class=\"wp-block-list\" start=\"5\"><li><strong>A oes r\u00f4l i weithrediaeth heddwch, anufudd-dod sifil a gwrthwynebiad cydwybodol mewn cyfnod o ryfel?<\/strong>\u00a0<\/li><\/ul>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p>Gweler rhai enghreifftiau o&#8217;r rhain yn yr erthyglau isod.&nbsp; Rhannwch yn grwpiau i ddarllen y rhain a dewch yn \u00f4l i drafod eich meddyliau:&nbsp;<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p><a href=\"https:\/\/u1584542.ct.sendgrid.net\/ss\/c\/atcYNHk4Eh2YdGnwBh-YDG7XrsA8qChq4YmTGY3gl8eamCCdNJVzW225I-tfYlvZKekBa8kRVL_zy52ViCnDY0bEABDEjeHXbfDO5oEcFdyTS5kPKPS-SyFrUql8UQHLBog6KnIxQ6RI5cxFaIenOsYxTu8KQhldu1JDZXqp4Y54TvnBTopb31V5AlX0gZALAZI2R9TCbaS5ZS3v1FhJMVsyBYiv0YUkSNDSavLimvFXSLIAFgWvDeGBM5mcD48NALCF49TeWdZSk763XrqijAZrMLta8txoMdXuz2JTZULv-4VpkeqOVlm5K0kuBKcnvy3GR0neN41P_3D1NPzmdzdkXBoXkAEqf-LsEuyvFZQ-WfgddvRaXHY5xoLLg4OT\/3k6\/9DOOSaTiRt2ML4pqjrd17Q\/h35\/Keh8_6v96F0XkDRnMYl5AAlpbnHSpTX3klAfbHkKwRQ\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Mae Pobl Wcr\u00e1in yn Gwrthsefyll Rhyfel yn Ddi-drais&nbsp;<\/a>&nbsp;<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p><a href=\"https:\/\/u1584542.ct.sendgrid.net\/ss\/c\/atcYNHk4Eh2YdGnwBh-YDG7XrsA8qChq4YmTGY3gl8frdflOSM6sLnQhwNO-xvueD700EJ6UOwFL0roVn_AsDojX4KB7UrJpUuLq7gk6lQBaHVopof_UKX249E6TR-kNAMW3MS-WYH9EeKdA-gSaXOxaPaiWe4s5RjfWN5-Wb-b1ay3noD0kYAKpQx8grMkEV5Mbkj0ZaN3pkwYJjXuQrSg1S3iiPZRT8Hj-Bz7kR9vG1UXt821c45L1mePl4qXTKAlFmq41b2xZrN7dZe6Lwl8rz2r4HNRlj5-501CmiQWzNIfSmmDzZ1RaRAd5i36PidlsUbaE2fqa3FiM1N8C3w\/3k6\/9DOOSaTiRt2ML4pqjrd17Q\/h36\/2jgdJx6-wfwBDAY-_UdI98wJ6mbRIfjWT7yaJ--ULj8\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Yurii Sheliazhenko ar Ddemocratiaeth Nawr o Kyiv&nbsp;<\/a>&nbsp;<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p><a href=\"https:\/\/u1584542.ct.sendgrid.net\/ss\/c\/atcYNHk4Eh2YdGnwBh-YDG7XrsA8qChq4YmTGY3gl8ebQI6fUvG782z29xFRseAKYLjfm-41FryOiOQnyRJSA6a-ae-b2cASlZjfzG-OWvYThb6QrQZH1BwxyZRoZytSnMl9QFsl6C8Cbt1Gcd206vUTrtw_2N-3Fe_0WEBiGt46oGf2osjbU-FLhS81jJvhcdULc-Mn7usf7mi9l1BRhAuUPxJSrdLf1QJWGr1hDdxT3YAcM0bf2RxXjMdsTT1nxZnOb4_NGUD3z7NO285XapzZtKOzLMKaTlrNWiRU9YlawMmqH3y9JjNt3eSP4N-YZmrCIP7HUyCZY_5gIBgfTJu1tRuN0PHdILnMPymbVi0ae1s6Rmvfyf7jDIkwVjx0ie45sWYYytHLQNoYadTpbg\/3k6\/9DOOSaTiRt2ML4pqjrd17Q\/h40\/UaiopFEBswfVJqn0Rw2HIKPpkk_k7slhiF9bVdvsjeU\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Ai Ymwrthedd Dinesig yw Arf Cyfrinachol Wcr\u00e1in?&nbsp;<\/a>&nbsp;<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p><a href=\"https:\/\/u1584542.ct.sendgrid.net\/ss\/c\/atcYNHk4Eh2YdGnwBh-YDG7XrsA8qChq4YmTGY3gl8e20EKJ59wuecH_KwzlPPxgY-dS12o9kUFmH75Lo3K24Rf0S0VV8eUkHDBC20xqCmRNc51xbYCBD-qPSE-zk_1igxMJ7tZpQIbjcWuAD_uBuXM8RXKPnajiMqtJSfDpzY9JP8Op_IxXwmR7XnB7sxvwF3PcUKc1sfHkr0wvdjO2UNNpnl7u48E9bhSTI5q340sWzH7WsKgS9iDg-3q7Yy2oT4MFPI5SJuIrkE0a0f7k_CzFkPWZXBaxTjPV6PmJY71spUtgC6wIYKj2G3GRz6blePoZoIQe8Opxh3NF_-sN6OE0AUTsjvNa5hDQyWVS1Sk\/3k6\/9DOOSaTiRt2ML4pqjrd17Q\/h49\/Dl0n1TDtDhHn-HE2X95d8AZvXdTb5V2AYuFYFEE4qcc\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Rwsiaid yn Siarad yn Erbyn Rhyfel&nbsp;<\/a>&nbsp;<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p>(Mae&#8217;n werth cofio bod yr hawl i wrthwynebiad cydwybodol i wasanaeth milwrol wedi&#8217;i hymgorffori mewn <a href=\"https:\/\/www.ohchr.org\/EN\/Issues\/RuleOfLaw\/Pages\/ConscientiousObjection.aspx\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Cyfraith Ryngwladol<\/a>)&nbsp;<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><strong>5. Gweithgareddau:<\/strong>&nbsp;<\/h4>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Darganfyddwch ble mae Wcr\u00e1in ar fap y byd.&nbsp; Beth allwch chi ei ddarganfod am y wlad \u2013 er enghraifft am ei hanes, ei hiaith a&#8217;i diwylliant? (Gweler hefyd adran 3 uchod)&nbsp;<\/li><li>Beth am Rwsia?&nbsp; Beth allwch chi ei ddarganfod amdani?&nbsp; Beth yw ei hanes diweddar a beth, yn eich barn chi, sydd wedi arwain ei arweinydd presennol i ymddwyn yn y ffordd mae\u2019n ymddwyn?&nbsp;<\/li><li>Edrychwch ar fap <a href=\"https:\/\/www.bing.com\/images\/search?view=detailV2&amp;ccid=H%2Fhfuao2&amp;id=BADB17F1E72A89832F7BDE28B219CBA3259AD55F&amp;thid=OIP.H_hfuao2U-txQGH-7WLIOwEsER&amp;mediaurl=https%3A%2F%2Fi.pinimg.com%2F736x%2Fa9%2F46%2F33%2Fa946330e4f6b10f7e7a30a0d4e4158dd--dil-nato.jpg&amp;exph=653&amp;expw=715&amp;q=map+of+nato+countries+2022&amp;simid=607989639315539939&amp;form=IRPRST&amp;ck=BE3590F310615CD687B5A82AD3AAB80D&amp;selectedindex=2&amp;ajaxhist=0&amp;ajaxserp=0&amp;vt=0&amp;sim=11&amp;cdnurl=https%3A%2F%2Fth.bing.com%2Fth%2Fid%2FR.1ff85fb9aa3653eb714061feed62c83b%3Frik%3DX9WaJaPLGbIo3g%26pid%3DImgRaw%26r%3D0\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">o wledydd NATO<\/a>.&nbsp; Ydy hyn yn awgrymu unrhyw broblemau i chi? Beth sy&#8217;n eich taro am safle Wcr\u00e1in ar y map hwn?&nbsp;<\/li><\/ul>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><strong>6. Beth allwn ni ei wneud?<\/strong>&nbsp;<\/h4>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Gallwn ddangos <strong>undod \u00e2&#8217;r Wcr\u00e1in<\/strong>.&nbsp; Mae llawer o adeiladau&#8217;n cael eu goleuo yn lliwiau baner Wcr\u00e1in neu&#8217;n chwifio baner Wcr\u00e1in.&nbsp; Beth allai eich ysgol ei wneud?&nbsp;<\/li><li>Gallwn <strong>godi arian<\/strong> i gefnogi pobl sy&#8217;n dianc o\u2019r frwydr (ffoaduriaid).&nbsp; Mae&#8217;r Pwyllgor Argyfwng Trychinebau&nbsp; (<a href=\"https:\/\/www.dec.org.uk\/appeal\/ukraine-humanitarian-appeal\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">DEC) wedi sefydlu ap\u00eal ddyngarol<\/a> ar gyfer Wcr\u00e1in.&nbsp; Gallai eich ysgol hefyd godi arian drwy elusennau eraill fel Achub y Plant neu Unicef.&nbsp; Gallwch weld awgrymiadau <a href=\"https:\/\/cymru.global\/blogs\/education\/talking-to-children-about-ukraine\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">yma:<\/a>&nbsp;<\/li><li><strong>Ysgrifennu at eich Aelod Seneddol lleol neu Aelod Seneddol<\/strong> <strong>lleol<\/strong> i fynnu bod Cymru \/ y DU yn croesawu cymaint o ffoaduriaid o Wcr\u00e1in \u00e2 phosibl.&nbsp;<\/li><li><strong>Cynnal Gwasanaeth<\/strong> i gadw pobl Wcr\u00e1in (a phobl gyffredin yn Rwsia) yn eich meddyliau a&#8217;ch gwedd\u00efau.&nbsp;&nbsp;<\/li><\/ul>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Beth am <strong>ddod yn <\/strong><a href=\"https:\/\/cymru.global\/global-learning\/peace-schools-in-wales\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\"><strong>Ysgol Heddwch<\/strong><\/a><strong>?<\/strong>&nbsp; Mae&#8217;r cynllun hwn yn rhoi mynediad i chi at adnoddau a hyfforddiant rhad ac am ddim ac yn eich cefnogi i ymgorffori heddwch yn ethos eich ysgol ac ar draws y cwricwlwm.&nbsp; I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch \u00e2 <a href=\"mailto:janeharries@wcia.org.uk\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">janeharries@wcia.org.uk<\/a>.&nbsp;&nbsp;<\/li><li>Dysgwch sut i gysylltu ag eraill yn gadarnhaol ac yn ddi-drais drwy <strong>gynnal gweithdai &#8216;Wynebu Gwrthdaro<\/strong>&#8216; yn eich ysgol.&nbsp; Maen nhw&#8217;n rhyngweithiol ac yn hwyl!&nbsp; I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch \u00e2 <a href=\"mailto:janeharries@wcia.org.uk\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">janeharries@wcia.org.uk<\/a>&nbsp;&nbsp;<\/li><\/ul>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p>I gael <strong>rhagor o wybodaeth<\/strong> am ddigwyddiadau yn Wcr\u00e1in, gan gynnwys cysylltiadau hanesyddol Cymru \u00e2&#8217;r wlad a syniadau am yr hyn y gallwch chi ei wneud ewch i:\u00a0 <a href=\"https:\/\/cymru.global\/news-views-events\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">https:\/\/cymru.global\/news-views-events\/<\/a>.\u00a0\u00a0<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p class=\"has-huge-font-size\"><img decoding=\"async\" alt=\"A picture containing text, clipart\n\nDescription automatically generated\" src=\"blob:https:\/\/cymru.global\/2bc0c4e3-05d6-4450-9bec-e6c91ef5080e\"> <\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p><\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\"><\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p><img decoding=\"async\" alt=\"Shape, rectangle\n\nDescription automatically generated\" src=\"blob:https:\/\/cymru.global\/53d9f81f-beef-4510-ac60-7aee628bf35b\"><\/p>\n<\/div>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Adnoddau ar gyfer Trafodaeth a Gweithgareddau gyda Phlant Ysgol Uwchradd 1. Siarad gyda phobl ifanc am ryfel:&nbsp; Un o nodau craidd Cwricwlwm Cymru yw cefnogi pobl ifanc i ddod yn &#8216;ddinasyddion moesegol, gwybodus yng Nghymru a&#8217;r byd.&#8217;&nbsp; Wedi dweud hynny, sut mae mynd i&#8217;r afael \u00e2 phynciau sensitif a gofidus [&#8230;]<\/p>\n","protected":false},"author":449,"featured_media":25104,"comment_status":"open","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"iawp_total_views":3,"footnotes":""},"categories":[615,616],"tags":[],"class_list":["post-25114","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-addysg-cy","category-rhyfel-a-gwrthdaro-cy"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.3 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Yr Argyfwng yn Wcr\u00e1in - Cymru Global<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Yr Argyfwng yn Wcr\u00e1in - Cymru Global\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Adnoddau ar gyfer Trafodaeth a Gweithgareddau gyda Phlant Ysgol Uwchradd 1. Siarad gyda phobl ifanc am ryfel:&nbsp; Un o nodau craidd Cwricwlwm Cymru yw cefnogi pobl ifanc i ddod yn &#8216;ddinasyddion moesegol, gwybodus yng Nghymru a&#8217;r byd.&#8217;&nbsp; Wedi dweud hynny, sut mae mynd i&#8217;r afael \u00e2 phynciau sensitif a gofidus [...]\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/cymru.global\/cy\/addysg-cy\/yr-argyfwng-yn-wcrain\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Cymru Global\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/welshcentreforinternationalaffairs\/\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2022-03-16T15:51:49+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2022-03-16T15:51:50+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/Blue-Yellow-Modern-Blocks-Stand-for-Peace-Peace-Instagram-Post-1.png\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1080\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1080\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/png\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Isabel Garcia\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@WCIA_Wales\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@WCIA_Wales\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Isabel Garcia\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"9 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/addysg-cy\\\/yr-argyfwng-yn-wcrain\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/addysg-cy\\\/yr-argyfwng-yn-wcrain\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"Isabel Garcia\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/433f78ebb2da4e367dd69726ad584e6d\"},\"headline\":\"Yr Argyfwng yn Wcr\u00e1in\",\"datePublished\":\"2022-03-16T15:51:49+00:00\",\"dateModified\":\"2022-03-16T15:51:50+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/addysg-cy\\\/yr-argyfwng-yn-wcrain\\\/\"},\"wordCount\":2052,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/addysg-cy\\\/yr-argyfwng-yn-wcrain\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/03\\\/Blue-Yellow-Modern-Blocks-Stand-for-Peace-Peace-Instagram-Post-1.png\",\"articleSection\":[\"Addysg\",\"Rhyfel a Gwrthdaro\"],\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/addysg-cy\\\/yr-argyfwng-yn-wcrain\\\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/addysg-cy\\\/yr-argyfwng-yn-wcrain\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/addysg-cy\\\/yr-argyfwng-yn-wcrain\\\/\",\"name\":\"Yr Argyfwng yn Wcr\u00e1in - Cymru Global\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/addysg-cy\\\/yr-argyfwng-yn-wcrain\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/addysg-cy\\\/yr-argyfwng-yn-wcrain\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/03\\\/Blue-Yellow-Modern-Blocks-Stand-for-Peace-Peace-Instagram-Post-1.png\",\"datePublished\":\"2022-03-16T15:51:49+00:00\",\"dateModified\":\"2022-03-16T15:51:50+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/addysg-cy\\\/yr-argyfwng-yn-wcrain\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/addysg-cy\\\/yr-argyfwng-yn-wcrain\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/addysg-cy\\\/yr-argyfwng-yn-wcrain\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/03\\\/Blue-Yellow-Modern-Blocks-Stand-for-Peace-Peace-Instagram-Post-1.png\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/03\\\/Blue-Yellow-Modern-Blocks-Stand-for-Peace-Peace-Instagram-Post-1.png\",\"width\":1080,\"height\":1080},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/addysg-cy\\\/yr-argyfwng-yn-wcrain\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Yr Argyfwng yn Wcr\u00e1in\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/\",\"name\":\"Cymru Global\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/#organization\",\"name\":\"Cymru Global\",\"url\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2026\\\/02\\\/loog-white.svg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2026\\\/02\\\/loog-white.svg\",\"width\":179,\"height\":59,\"caption\":\"Cymru Global\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\"},\"sameAs\":[\"https:\\\/\\\/www.facebook.com\\\/welshcentreforinternationalaffairs\\\/\",\"https:\\\/\\\/x.com\\\/WCIA_Wales\",\"https:\\\/\\\/www.instagram.com\\\/wcia_wales\\\/?hl=en-gb\",\"https:\\\/\\\/www.youtube.com\\\/channel\\\/UC0G2l7QV_yPDU4RHB8hEEPg\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/433f78ebb2da4e367dd69726ad584e6d\",\"name\":\"Isabel Garcia\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/0d4d145285e91040d4d16eea63a8a1777f747a53fc7bd65943ce0a75d10b12c4?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/0d4d145285e91040d4d16eea63a8a1777f747a53fc7bd65943ce0a75d10b12c4?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/0d4d145285e91040d4d16eea63a8a1777f747a53fc7bd65943ce0a75d10b12c4?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Isabel Garcia\"},\"url\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/author\\\/isaisabelgarciawcia-org-uk\\\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Yr Argyfwng yn Wcr\u00e1in - Cymru Global","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Yr Argyfwng yn Wcr\u00e1in - Cymru Global","og_description":"Adnoddau ar gyfer Trafodaeth a Gweithgareddau gyda Phlant Ysgol Uwchradd 1. Siarad gyda phobl ifanc am ryfel:&nbsp; Un o nodau craidd Cwricwlwm Cymru yw cefnogi pobl ifanc i ddod yn &#8216;ddinasyddion moesegol, gwybodus yng Nghymru a&#8217;r byd.&#8217;&nbsp; Wedi dweud hynny, sut mae mynd i&#8217;r afael \u00e2 phynciau sensitif a gofidus [...]","og_url":"https:\/\/cymru.global\/cy\/addysg-cy\/yr-argyfwng-yn-wcrain\/","og_site_name":"Cymru Global","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/welshcentreforinternationalaffairs\/","article_published_time":"2022-03-16T15:51:49+00:00","article_modified_time":"2022-03-16T15:51:50+00:00","og_image":[{"width":1080,"height":1080,"url":"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/Blue-Yellow-Modern-Blocks-Stand-for-Peace-Peace-Instagram-Post-1.png","type":"image\/png"}],"author":"Isabel Garcia","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@WCIA_Wales","twitter_site":"@WCIA_Wales","twitter_misc":{"Written by":"Isabel Garcia","Est. reading time":"9 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/addysg-cy\/yr-argyfwng-yn-wcrain\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/addysg-cy\/yr-argyfwng-yn-wcrain\/"},"author":{"name":"Isabel Garcia","@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/#\/schema\/person\/433f78ebb2da4e367dd69726ad584e6d"},"headline":"Yr Argyfwng yn Wcr\u00e1in","datePublished":"2022-03-16T15:51:49+00:00","dateModified":"2022-03-16T15:51:50+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/addysg-cy\/yr-argyfwng-yn-wcrain\/"},"wordCount":2052,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/addysg-cy\/yr-argyfwng-yn-wcrain\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/Blue-Yellow-Modern-Blocks-Stand-for-Peace-Peace-Instagram-Post-1.png","articleSection":["Addysg","Rhyfel a Gwrthdaro"],"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/cymru.global\/cy\/addysg-cy\/yr-argyfwng-yn-wcrain\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/addysg-cy\/yr-argyfwng-yn-wcrain\/","url":"https:\/\/cymru.global\/cy\/addysg-cy\/yr-argyfwng-yn-wcrain\/","name":"Yr Argyfwng yn Wcr\u00e1in - Cymru Global","isPartOf":{"@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/addysg-cy\/yr-argyfwng-yn-wcrain\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/addysg-cy\/yr-argyfwng-yn-wcrain\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/Blue-Yellow-Modern-Blocks-Stand-for-Peace-Peace-Instagram-Post-1.png","datePublished":"2022-03-16T15:51:49+00:00","dateModified":"2022-03-16T15:51:50+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/addysg-cy\/yr-argyfwng-yn-wcrain\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/cymru.global\/cy\/addysg-cy\/yr-argyfwng-yn-wcrain\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/addysg-cy\/yr-argyfwng-yn-wcrain\/#primaryimage","url":"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/Blue-Yellow-Modern-Blocks-Stand-for-Peace-Peace-Instagram-Post-1.png","contentUrl":"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/Blue-Yellow-Modern-Blocks-Stand-for-Peace-Peace-Instagram-Post-1.png","width":1080,"height":1080},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/addysg-cy\/yr-argyfwng-yn-wcrain\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/cymru.global\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Yr Argyfwng yn Wcr\u00e1in"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/#website","url":"https:\/\/cymru.global\/cy\/","name":"Cymru Global","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/cymru.global\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/#organization","name":"Cymru Global","url":"https:\/\/cymru.global\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2026\/02\/loog-white.svg","contentUrl":"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2026\/02\/loog-white.svg","width":179,"height":59,"caption":"Cymru Global"},"image":{"@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/welshcentreforinternationalaffairs\/","https:\/\/x.com\/WCIA_Wales","https:\/\/www.instagram.com\/wcia_wales\/?hl=en-gb","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC0G2l7QV_yPDU4RHB8hEEPg"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/#\/schema\/person\/433f78ebb2da4e367dd69726ad584e6d","name":"Isabel Garcia","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/0d4d145285e91040d4d16eea63a8a1777f747a53fc7bd65943ce0a75d10b12c4?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/0d4d145285e91040d4d16eea63a8a1777f747a53fc7bd65943ce0a75d10b12c4?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/0d4d145285e91040d4d16eea63a8a1777f747a53fc7bd65943ce0a75d10b12c4?s=96&d=mm&r=g","caption":"Isabel Garcia"},"url":"https:\/\/cymru.global\/cy\/author\/isaisabelgarciawcia-org-uk\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/25114","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/449"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=25114"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/25114\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":25127,"href":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/25114\/revisions\/25127"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/25104"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=25114"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=25114"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=25114"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}