
{"id":41024,"date":"2024-06-24T14:20:21","date_gmt":"2024-06-24T13:20:21","guid":{"rendered":"https:\/\/www.wcia.org.uk\/?p=41024"},"modified":"2024-06-24T14:23:09","modified_gmt":"2024-06-24T13:23:09","slug":"datganiad-wedii-ddiweddaru-gan-wcia-ar-gaza","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wcia-news-cy\/datganiad-wedii-ddiweddaru-gan-wcia-ar-gaza\/","title":{"rendered":"Datganiad wedi&#8217;i ddiweddaru gan WCIA ar Gaza"},"content":{"rendered":"<div class=\"container\">\n<p>12 Mehefin 2024<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/10ambriefing-asia-gaza-lbtq-superJumbo.jpeg\" alt=\"\" class=\"wp-image-37705\"\/><\/figure>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p><\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p>Mae t\u00eem WCIA yn pryderu&#8217;n fawr am y frwydr ddyddiol enbyd dros oroesi i bobl sy&#8217;n byw yn Gaza, gan gynnwys gwystlon Israel sydd yn cael eu dal gan Hamas. Ar 26 Mai, ddyddiau yn unig ar \u00f4l i&#8217;r <a href=\"https:\/\/news.un.org\/en\/story\/2024\/05\/1150196\">Llys Cyfiawnder Rhyngwladol (ICJ) gyhoeddi mesurau dros dro newydd a orchmynnodd Israel i ddod \u00e2 gweithrediadau milwrol i ben yn Rafah ar unwaith<\/a>, trawodd cyrchoedd awyr Israel wersyll pebyll ar gyfer pobl wedi&#8217;u dadleoli yng nghymdogaeth Tel al-Sultan o Rafah, &#8216;parth diogel&#8217; dynodedig, gan ladd dros 45 o bobl Palestina ac anafu 249, llawer ohonynt yn blant. Cafodd mesurau dros dro newydd y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol eu gwneud mewn perthynas \u00e2&#8217;r achos a ddygwyd i&#8217;r Llys gan Dde Affrica, yn cyhuddo Israel o dorri ei rwymedigaethau o dan y Confensiwn Hil-laddiad. Wythnos yn ddiweddarach, fe wnaeth ymgyrch gan Israel i ryddhau 4 gwystl o wersyll ffoaduriaid Nuseirat ladd mwy na 270 o bobl Palesteina, ac anafu mwy na 600 o bobl..<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p>Prin y gallwn ddychmygu&#8217;r ofn cyson sydd wedi cael ei deimlo gan bobl sy&#8217;n byw yn Gaza dros yr 8 mis diwethaf, y boen o golli teuluoedd cyfan, y s\u00e2l a&#8217;r clwyfedig heb unman i droi am gymorth, mamau sy&#8217;n methu ag addo i&#8217;w plant y byddant yn eu cadw&#8217;n ddiogel, dim bwyd, dim d\u0175r gl\u00e2n, dim cartref. Mae holl hanfodion sylfaenol bywyd wedi cael eu tynnu i ffwrdd oddi wrthynt. Does ryfedd fod rhai pobl yn galw Gaza yn &#8216;uffern ar y ddaear&#8217;. Yn ei ddiweddariad diweddaraf ar y sefyllfa, <a href=\"https:\/\/www.wfp.org\/stories\/gaza-updates-wfp-calls-all-access-points-be-opened-rafah-exodus-fuels-hunger\">dywedodd<\/a> World Food Programme <em>&#8220;Mae oedolion a phlant y tu hwnt i flinedig yn sgil cael eu dadleoli&#8217;n gyson, newyn ac ofn.&#8221;<\/em><\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p>Mae&#8217;r dioddefaint i deuluoedd yn Israel yn parhau hefyd, galar annioddefol ar \u00f4l i&#8217;w hanwyliaid gael eu lladd gan derfysgwyr Hamas ar Hydref 7fed, a&#8217;r ansicrwydd dyddiol enbyd am les y rhai sydd yn cael eu dal yn wystl gan Hamas, a\u2019r ofn ynghylch sut mae anwyliaid yn cael eu trin a&#8217;r boen o beidio \u00e2 gwybod p\u2019un a ydynt yn fyw neu&#8217;n farw.<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p><strong>Mae\u2019n rhaid i hyn stopio nawr.<\/strong><\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p>Mae&#8217;n annheg iawn disgwyl dial yn erbyn holl boblogaeth Palesteina am weithredoedd terfysgwyr Hamas, neu i ystyried cymunedau fel &#8216;difrod anuniongyrchol&#8217;. Mae hefyd yn annheg rhoi&#8217;r bai ar ddinasyddion Israel a chymunedau Iddewig ar draws y byd, am weithredoedd llywodraeth adain dde bresennol Israel. Mae casineb gwrth-Fwslemaidd a Gwrth-Semitaidd yn cael ei danio gan eithafiaeth a dadl wedi\u2019i phegynnu, ond mae lleisiau dinasyddion a chymunedau ar ddwy ochr y gwrthdaro yn hanfodol i gyflawni cydfodolaeth heddychlon &#8211; ac yn y pen draw, datrysiad dwy wladwriaeth ar gyfer y tymor hir.<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p>Rydym yn cymeradwyo&#8217;r gwaith ymgyrchu ac eiriolaeth diflino dros heddwch a chyfiawnder, yng Nghymru ac ar draws y byd gan gymdeithas sifil ac eraill dros yr wyth mis diwethaf, wrth fynnu cadoediad parhaol, ar unwaith. Mae&#8217;r ymdrechion hyn yn hanfodol i geisio atal y farwolaeth a&#8217;r dinistr, cael digon o gymorth i bobl sydd ei angen yn daer, a rhyddhau&#8217;r gwystlon yn ddiogel.<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p>Rydym yn sefyll mewn undod \u00e2 phob dioddefwr erledigaeth a thrais. Mae&#8217;n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu hawliau dynol cyffredinol pawb, ac i sicrhau bod y rhai sydd mewn sefyllfaoedd o b\u0175er yn glynu at gyfraith ryngwladol.<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p>Mae <a href=\"https:\/\/www.globalprotectioncluster.org\/index.php\/publications\/1873\/reports\/protection-analysis-update\/protection-analysis-update-occupied\">dadansoddiad newydd<\/a> Global Protection Cluster yn adrodd bod dros 5% o boblogaeth Gaza o 2.10 miliwn naill ai wedi cael eu lladd, eu hanafu, neu ar goll. Mae Swyddfa\u2019r Cenhedloedd Unedig ar gyfer Cydlynu Materion Dyngarol (UNOCHA) yn amcangyfrif bod bron i 85% o boblogaeth Gaza bellach wedi&#8217;u dadleoli, dywed Sefydliad Iechyd y Byd nad yw&#8217;r system iechyd yn Gaza prin yn goroesi, ac mae&#8217;r IPC (Integrated Food Security Phase Classification) yn nodi bod newyn ar fin digwydd, wrth i 1.1 miliwn o bobl, tua hanner poblogaeth Gaza, brofi &#8220;ansicrwydd bwyd catastroffig&#8221;.\u00a0<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p>Mae Cydlynydd Arbennig y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Proses Heddwch y Dwyrain Canol, Tor Wennesland, wedi galw am ddychwelyd ar unwaith i gynnal trafodaethau, rhyddhau gwystlon a chadoediad dyngarol yn Llain Gaza, wrth i ymosodiad milwrol Israel waethygu dioddefaint dynol yng nghanol tensiynau rhanbarthol cynyddol. Dywedodd: <em>&#8220;Mae dirfawr angen gorwel gwleidyddol ar Balesteiniaid ac Israeliaid. Hebddo, nid oes llwybr cynaliadwy allan o&#8217;r dioddefaint rydym yn ei weld bob dydd.&#8221;<\/em><\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p>Ar \u00f4l galw am gadoediad ym mis Tachwedd y llynedd, yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae Aelodau&#8217;r Senedd trawsbleidiol wedi <a href=\"https:\/\/record.assembly.wales\/StatementOfOpinion\/387\">lleisio galwadau<\/a> am gydnabyddiaeth i gydnabod Gwladwriaeth Palesteina ar unwaith, fel cam cyntaf mewn proses i alluogi llwybr i heddwch parhaol a datrysiad dwy wladwriaeth. Maent yn ymuno \u00e2 Norwy, Sbaen ac Iwerddon, tri allan o dros 140 o\u2019r 193 o aelod-wladwriaethau&#8217;r Cenhedloedd Unedig, i gydnabod Palesteina fel gwladwriaeth.<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"wp-block-image\"><div class=\"container\">\n<figure class=\"alignright size-large is-resized\"><a href=\"https:\/\/www.futuregenerations.wales\/cy\/news\/12143-2\/\"><img decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"594\" src=\"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Screenshot-2024-06-24-at-14.16.19-1024x594.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-41028\" style=\"width:500px\" srcset=\"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Screenshot-2024-06-24-at-14.16.19-1024x594.png 1024w, https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Screenshot-2024-06-24-at-14.16.19-800x464.png 800w, https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Screenshot-2024-06-24-at-14.16.19-300x174.png 300w, https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Screenshot-2024-06-24-at-14.16.19-768x445.png 768w, https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Screenshot-2024-06-24-at-14.16.19-1536x891.png 1536w, https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Screenshot-2024-06-24-at-14.16.19-2048x1188.png 2048w, https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Screenshot-2024-06-24-at-14.16.19-2x1.png 2w\" sizes=\"(max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/a><\/figure>\n<\/div><\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p>Er gwaethaf Penderfyniadau Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig a dyfarniad y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol yn galw am fynediad dyngarol heb rwystr, nid oes unrhyw arwyddion o welliannau ar gael cymorth dyngarol i mewn i Gaza &#8211; mewn gwirionedd, mae mynediad dyngarol wedi dirywio yn ystod y misoedd diwethaf. Ym mis Ionawr, fe wnaeth Llywodraeth y DU ac eraill oedi cyllid i UNWRA, asiantaeth y Cenhedloedd Unedig ar gyfer ffoaduriaid Palesteinaidd, yn dilyn honiadau gan Lywodraeth Israel fod staff wedi bod yn rhan o ymosodiadau Hamas ar 7 Hydref. Yn sgil rhyddhau <a href=\"https:\/\/news.un.org\/en\/story\/2024\/04\/1148821\">adroddiad annibynnol<\/a> sy&#8217;n bodloni gofynion Llywodraeth y DU i adfer cyllid, mae cyrff anllywodraethol y DU wedi <a href=\"https:\/\/www.bond.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/300424-Joint-agency-to-PM-UNRWA.pdf\">ysgrifennu at y Prif Weinidog<\/a> yn galw ar i&#8217;r DU adfer a chynyddu cyllid i UNWRA. Mae&#8217;r llythyr hefyd yn tynnu sylw at y ffaith <em>&#8220;Y bydd gwadu&#8217;r cyllid i UNRWA ond yn arwain at fwy o farwolaethau, ar adeg pan mae&#8217;r Llys Cyfiawnder Rhyngwladol wedi tanlinellu&#8217;r angen i atal y risg o hil-laddiad a chyflawni anghenion dyngarol enbyd Palesteiniaid.&#8221;<\/em><\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p>Yng Nghymru, mae Comisiynydd Cenedlaethau&#8217;r Dyfodol, <a href=\"https:\/\/www.futuregenerations.wales\/cy\/news\/12143-2\/\">Derek Walker<\/a>, wedi dweud <em>&#8220;Mae gan bawb yr hawl i fyw mewn heddwch, nawr ac yn y dyfodol.&#8221;<\/em>\u00a0<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p><strong>Fel cenedl sy&#8217;n gyfrifol ar lefel fyd-eang, rhaid i Gymru alw ar y DU i:<em> <\/em><\/strong><\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p>\u2022 Gynnal ei chyfrifoldeb cyfreithiol a moesol i sicrhau bod Israel yn cydymffurfio \u00e2 gorchymyn y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol i atal ei hymosodiadau sarhaus yn Rafah ar unwaith, ac i sicrhau bod y cannoedd o filoedd o bobl sy&#8217;n cysgodi yn Rafah yn cael eu gwarchod. Mae&#8217;r ffaith bod y DU yn parhau i drwyddedu arfau i Israel yn herio dyfarniad y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol, ac yn gwneud y DU ynghlwm ag unrhyw droseddau rhyfel yn Gaza.<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p>\u2022 Atal cyflenwadau o arfau&#8217;r DU i Israel ar unwaith, ac yn hytrach, pwyso\u2019n fwy caled am gadoediad diamod, cyn gynted \u00e2 phosib, i atal mwy o bobl rhag cael eu lladd neu eu hanafu, ac i sicrhau bod yr holl wystlon a Phalesteiniaid sydd yn cael eu dal yn anghyfreithlon yn cael eu dychwelyd yn ddiogel.<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p>\u2022 Ddefnyddio pob ffordd o berswadio diplomyddol ac economaidd posibl sydd ar gael iddi i helpu i sicrhau cadoediad parhaol, ar unwaith, i atal y marwolaethau a\u2019r dinistrio, a sicrhau bod yr holl wystlon yn cael eu rhyddhau&#8217;n ddiogel.<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p>Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yma: <a href=\"https:\/\/cymru.global\/cy\/wcia-news-cy\/humanitarian-cy\/cymru-dros-heddwch-yn-israel-a-phalesteina\/\">Cymru dros Heddwch yn Israel a Phalesteina: Galwad am Gadoediad\u00a0 &#8211; Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (wcia.org.uk)<\/a><\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"wp-block-image\"><div class=\"container\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" width=\"709\" height=\"241\" src=\"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2023\/10\/Banksy-Israel-Palestine-Children-e1698783338185.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-37196\" srcset=\"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2023\/10\/Banksy-Israel-Palestine-Children-e1698783338185.jpg 709w, https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2023\/10\/Banksy-Israel-Palestine-Children-e1698783338185-300x102.jpg 300w, https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2023\/10\/Banksy-Israel-Palestine-Children-e1698783338185-3x1.jpg 3w\" sizes=\"(max-width: 709px) 100vw, 709px\" \/><\/figure>\n<\/div><\/div>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>12 Mehefin 2024 Mae t\u00eem WCIA yn pryderu&#8217;n fawr am y frwydr ddyddiol enbyd dros oroesi i bobl sy&#8217;n byw yn Gaza, gan gynnwys gwystlon Israel sydd yn cael eu dal gan Hamas. Ar 26 Mai, ddyddiau yn unig ar \u00f4l i&#8217;r Llys Cyfiawnder Rhyngwladol (ICJ) gyhoeddi mesurau dros dro [&#8230;]<\/p>\n","protected":false},"author":7,"featured_media":41017,"comment_status":"open","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"iawp_total_views":5,"footnotes":""},"categories":[614,1239,616,617,188],"tags":[1320,1246],"class_list":["post-41024","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-hawliau-dynol-cy","category-humanitarian-cy","category-rhyfel-a-gwrthdaro-cy","category-temple-of-peace-teml-heddwch-cy","category-wcia-news-cy","tag-gaza","tag-palestine-cy"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.5 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Datganiad wedi&#039;i ddiweddaru gan WCIA ar Gaza - Cymru Global<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Datganiad wedi&#039;i ddiweddaru gan WCIA ar Gaza - Cymru Global\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"12 Mehefin 2024 Mae t\u00eem WCIA yn pryderu&#8217;n fawr am y frwydr ddyddiol enbyd dros oroesi i bobl sy&#8217;n byw yn Gaza, gan gynnwys gwystlon Israel sydd yn cael eu dal gan Hamas. Ar 26 Mai, ddyddiau yn unig ar \u00f4l i&#8217;r Llys Cyfiawnder Rhyngwladol (ICJ) gyhoeddi mesurau dros dro [...]\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/cymru.global\/cy\/wcia-news-cy\/datganiad-wedii-ddiweddaru-gan-wcia-ar-gaza\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Cymru Global\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/welshcentreforinternationalaffairs\/\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2024-06-24T13:20:21+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2024-06-24T13:23:09+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Gaza_WFP_Child.jpeg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"900\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"600\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Craig Owen\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@WCIA_Wales\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@WCIA_Wales\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Craig Owen\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"6 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/wcia-news-cy\\\/datganiad-wedii-ddiweddaru-gan-wcia-ar-gaza\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/wcia-news-cy\\\/datganiad-wedii-ddiweddaru-gan-wcia-ar-gaza\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"Craig Owen\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/b4a3bb351a6e3c07121e207a47e2b1ab\"},\"headline\":\"Datganiad wedi&#8217;i ddiweddaru gan WCIA ar Gaza\",\"datePublished\":\"2024-06-24T13:20:21+00:00\",\"dateModified\":\"2024-06-24T13:23:09+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/wcia-news-cy\\\/datganiad-wedii-ddiweddaru-gan-wcia-ar-gaza\\\/\"},\"wordCount\":1218,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/wcia-news-cy\\\/datganiad-wedii-ddiweddaru-gan-wcia-ar-gaza\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2024\\\/06\\\/Gaza_WFP_Child.jpeg\",\"keywords\":[\"Gaza\",\"Palestine\"],\"articleSection\":[\"Hawliau Dynol\",\"Humanitarian\",\"Rhyfel a Gwrthdaro\",\"Temple of Peace \\\/ Teml Heddwch\",\"WCIA news\"],\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/wcia-news-cy\\\/datganiad-wedii-ddiweddaru-gan-wcia-ar-gaza\\\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/wcia-news-cy\\\/datganiad-wedii-ddiweddaru-gan-wcia-ar-gaza\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/wcia-news-cy\\\/datganiad-wedii-ddiweddaru-gan-wcia-ar-gaza\\\/\",\"name\":\"Datganiad wedi'i ddiweddaru gan WCIA ar Gaza - Cymru Global\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/wcia-news-cy\\\/datganiad-wedii-ddiweddaru-gan-wcia-ar-gaza\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/wcia-news-cy\\\/datganiad-wedii-ddiweddaru-gan-wcia-ar-gaza\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2024\\\/06\\\/Gaza_WFP_Child.jpeg\",\"datePublished\":\"2024-06-24T13:20:21+00:00\",\"dateModified\":\"2024-06-24T13:23:09+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/wcia-news-cy\\\/datganiad-wedii-ddiweddaru-gan-wcia-ar-gaza\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/wcia-news-cy\\\/datganiad-wedii-ddiweddaru-gan-wcia-ar-gaza\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/wcia-news-cy\\\/datganiad-wedii-ddiweddaru-gan-wcia-ar-gaza\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2024\\\/06\\\/Gaza_WFP_Child.jpeg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2024\\\/06\\\/Gaza_WFP_Child.jpeg\",\"width\":900,\"height\":600,\"caption\":\"In a WFP-supported hot meals kitchen in Khan Younis, people are lining up to receive what could be their only meal of the day, after an exhausting journey of forced evacuation from Rafah to Khan Younis. After the closure of the Rafah and Kerem Shalom crossings, WFP exhausted its stock of food commodities and used the remaining reserves of in-kind food and food parcels to keep hot meal kitchens running. In the photos, people are receiving Spaghetti, a so-adored lunch for kids in particular. Spaghetti and different commodities, including rice, lentils, and vegetable oil were channeled to the kitchens from WFP through our partner Islamic Relief.\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/wcia-news-cy\\\/datganiad-wedii-ddiweddaru-gan-wcia-ar-gaza\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/cymru-global\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Datganiad wedi&#8217;i ddiweddaru gan WCIA ar Gaza\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/\",\"name\":\"Cymru Global\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/#organization\",\"name\":\"Cymru Global\",\"url\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2026\\\/02\\\/loog-white.svg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2026\\\/02\\\/loog-white.svg\",\"width\":179,\"height\":59,\"caption\":\"Cymru Global\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\"},\"sameAs\":[\"https:\\\/\\\/www.facebook.com\\\/welshcentreforinternationalaffairs\\\/\",\"https:\\\/\\\/x.com\\\/WCIA_Wales\",\"https:\\\/\\\/www.instagram.com\\\/wcia_wales\\\/?hl=en-gb\",\"https:\\\/\\\/www.youtube.com\\\/channel\\\/UC0G2l7QV_yPDU4RHB8hEEPg\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/b4a3bb351a6e3c07121e207a47e2b1ab\",\"name\":\"Craig Owen\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/ddf69d48b620ba56dc5e9645bb2b3b54243829f3e133aaad1d2f65e0ae3d7d0c?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/ddf69d48b620ba56dc5e9645bb2b3b54243829f3e133aaad1d2f65e0ae3d7d0c?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/ddf69d48b620ba56dc5e9645bb2b3b54243829f3e133aaad1d2f65e0ae3d7d0c?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Craig Owen\"},\"url\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/author\\\/craig-owen\\\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Datganiad wedi'i ddiweddaru gan WCIA ar Gaza - Cymru Global","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Datganiad wedi'i ddiweddaru gan WCIA ar Gaza - Cymru Global","og_description":"12 Mehefin 2024 Mae t\u00eem WCIA yn pryderu&#8217;n fawr am y frwydr ddyddiol enbyd dros oroesi i bobl sy&#8217;n byw yn Gaza, gan gynnwys gwystlon Israel sydd yn cael eu dal gan Hamas. Ar 26 Mai, ddyddiau yn unig ar \u00f4l i&#8217;r Llys Cyfiawnder Rhyngwladol (ICJ) gyhoeddi mesurau dros dro [...]","og_url":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wcia-news-cy\/datganiad-wedii-ddiweddaru-gan-wcia-ar-gaza\/","og_site_name":"Cymru Global","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/welshcentreforinternationalaffairs\/","article_published_time":"2024-06-24T13:20:21+00:00","article_modified_time":"2024-06-24T13:23:09+00:00","og_image":[{"width":900,"height":600,"url":"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Gaza_WFP_Child.jpeg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Craig Owen","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@WCIA_Wales","twitter_site":"@WCIA_Wales","twitter_misc":{"Written by":"Craig Owen","Est. reading time":"6 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wcia-news-cy\/datganiad-wedii-ddiweddaru-gan-wcia-ar-gaza\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wcia-news-cy\/datganiad-wedii-ddiweddaru-gan-wcia-ar-gaza\/"},"author":{"name":"Craig Owen","@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/#\/schema\/person\/b4a3bb351a6e3c07121e207a47e2b1ab"},"headline":"Datganiad wedi&#8217;i ddiweddaru gan WCIA ar Gaza","datePublished":"2024-06-24T13:20:21+00:00","dateModified":"2024-06-24T13:23:09+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wcia-news-cy\/datganiad-wedii-ddiweddaru-gan-wcia-ar-gaza\/"},"wordCount":1218,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wcia-news-cy\/datganiad-wedii-ddiweddaru-gan-wcia-ar-gaza\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Gaza_WFP_Child.jpeg","keywords":["Gaza","Palestine"],"articleSection":["Hawliau Dynol","Humanitarian","Rhyfel a Gwrthdaro","Temple of Peace \/ Teml Heddwch","WCIA news"],"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/cymru.global\/cy\/wcia-news-cy\/datganiad-wedii-ddiweddaru-gan-wcia-ar-gaza\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wcia-news-cy\/datganiad-wedii-ddiweddaru-gan-wcia-ar-gaza\/","url":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wcia-news-cy\/datganiad-wedii-ddiweddaru-gan-wcia-ar-gaza\/","name":"Datganiad wedi'i ddiweddaru gan WCIA ar Gaza - Cymru Global","isPartOf":{"@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wcia-news-cy\/datganiad-wedii-ddiweddaru-gan-wcia-ar-gaza\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wcia-news-cy\/datganiad-wedii-ddiweddaru-gan-wcia-ar-gaza\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Gaza_WFP_Child.jpeg","datePublished":"2024-06-24T13:20:21+00:00","dateModified":"2024-06-24T13:23:09+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wcia-news-cy\/datganiad-wedii-ddiweddaru-gan-wcia-ar-gaza\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/cymru.global\/cy\/wcia-news-cy\/datganiad-wedii-ddiweddaru-gan-wcia-ar-gaza\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wcia-news-cy\/datganiad-wedii-ddiweddaru-gan-wcia-ar-gaza\/#primaryimage","url":"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Gaza_WFP_Child.jpeg","contentUrl":"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Gaza_WFP_Child.jpeg","width":900,"height":600,"caption":"In a WFP-supported hot meals kitchen in Khan Younis, people are lining up to receive what could be their only meal of the day, after an exhausting journey of forced evacuation from Rafah to Khan Younis. After the closure of the Rafah and Kerem Shalom crossings, WFP exhausted its stock of food commodities and used the remaining reserves of in-kind food and food parcels to keep hot meal kitchens running. In the photos, people are receiving Spaghetti, a so-adored lunch for kids in particular. Spaghetti and different commodities, including rice, lentils, and vegetable oil were channeled to the kitchens from WFP through our partner Islamic Relief."},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wcia-news-cy\/datganiad-wedii-ddiweddaru-gan-wcia-ar-gaza\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/cymru.global\/cy\/cymru-global\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Datganiad wedi&#8217;i ddiweddaru gan WCIA ar Gaza"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/#website","url":"https:\/\/cymru.global\/cy\/","name":"Cymru Global","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/cymru.global\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/#organization","name":"Cymru Global","url":"https:\/\/cymru.global\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2026\/02\/loog-white.svg","contentUrl":"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2026\/02\/loog-white.svg","width":179,"height":59,"caption":"Cymru Global"},"image":{"@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/welshcentreforinternationalaffairs\/","https:\/\/x.com\/WCIA_Wales","https:\/\/www.instagram.com\/wcia_wales\/?hl=en-gb","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC0G2l7QV_yPDU4RHB8hEEPg"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/#\/schema\/person\/b4a3bb351a6e3c07121e207a47e2b1ab","name":"Craig Owen","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ddf69d48b620ba56dc5e9645bb2b3b54243829f3e133aaad1d2f65e0ae3d7d0c?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ddf69d48b620ba56dc5e9645bb2b3b54243829f3e133aaad1d2f65e0ae3d7d0c?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ddf69d48b620ba56dc5e9645bb2b3b54243829f3e133aaad1d2f65e0ae3d7d0c?s=96&d=mm&r=g","caption":"Craig Owen"},"url":"https:\/\/cymru.global\/cy\/author\/craig-owen\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/41024","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=41024"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/41024\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":41030,"href":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/41024\/revisions\/41030"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/41017"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=41024"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=41024"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=41024"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}