
{"id":41976,"date":"2024-09-20T21:58:37","date_gmt":"2024-09-20T20:58:37","guid":{"rendered":"https:\/\/www.wcia.org.uk\/?p=41976"},"modified":"2024-12-03T15:58:27","modified_gmt":"2024-12-03T15:58:27","slug":"wales-as-a-nation-of-peace","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/cymru.global\/cy\/academi-heddwch-cymru-cy\/wales-as-a-nation-of-peace\/","title":{"rendered":"Cymru fel Cenedl Heddwch"},"content":{"rendered":"<div class=\"wp-block-image\"><div class=\"container\">\n<figure class=\"aligncenter size-large\"><a href=\"https:\/\/cymru.global\/wp-admin\/upload.php?item=42356\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/Ifanwy-Williams-1024x385.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-41995\"\/><\/a><figcaption class=\"wp-element-caption\">Ifanwy Williams, <em>&#8216;Merched Rhyfel a Heddwch&#8217;<\/em><\/figcaption><\/figure>\n<\/div><\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<h2 class=\"wp-block-heading has-text-align-center\">Medi 21 2024, Diwrnod Rhyngwladol Heddwch<\/h2>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<div class=\"wp-block-buttons is-layout-flex wp-block-buttons-is-layout-flex\"><div class=\"container\">\n<div class=\"wp-block-button\"><a class=\"wp-block-button__link wp-element-button\" href=\"https:\/\/cymru.global\/wp-admin\/upload.php?item=42356\">Lawrlwythwch Adroddiad<\/a><\/div>\n<\/div><\/div>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p>Mae dychmygu Cymru a byd lle mae heddwch yn teyrnasu yn fwy na dychmygu absenoldeb rhyfel. Yn hytrach, mae\u2019n galw am ddychmygu byd lle mae pawb yn byw yn rhydd o fraw ac ofn, lle mae hawliau pawb yn cael eu parchu a lle mae pawb yn gyfartal. Mae\u2019n galw am ddychmygu perthynas rhwng pobl \u00e2\u2019i gilydd \u2013 rhwng cymydog a chymydog, dieithryn a dieithryn, cymuned a chymuned, gwlad a gwlad \u2013 fel perthynas sydd wedi ei seilio ar gyfiawnder a thegwch. Beth pe gallem ni hawlio bod y math hwn o heddwch cadarnhaol yn rhan o\u2019n hunaniaeth genedlaethol, yn beiriant sy\u2019n gyrru\u2019r popeth a wnawn?<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p>Wrth edrych ymlaen at <a href=\"https:\/\/www.un.org\/en\/summit-of-the-future?_gl=1*1qcjcoi*_ga*MjI5NzE0NjM0LjE3MDQ4MTUwNjg.*_ga_TK9BQL5X7Z*MTcyNjY0NDgwNy4zNC4xLjE3MjY2NDU1OTguMC4wLjA.*_ga_S5EKZKSB78*MTcyNjY0NDgwOC4zNC4xLjE3MjY2NDU5NDYuNjAuMC4w\">Uwchgynhadledd y Cenhedloedd Unedig i\u2019r Dyfodol<\/a>, digwyddiad cydweithio byd-eang a gynhelir yn Efrog Newydd y penwythnos hwn, mae Academi Heddwch Cymru wedi bod yn gweithio ar bapur sy\u2019n archwilio\u2019r syniad o Gymru fel Cenedl Heddwch. Beth am ddychmygu hynny?<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p>Mae\u2019r papur yn cadarnhau bod pobl Cymru dro ar \u00f4l tro wedi ymgymryd \u00e2 mentrau arloesol, a hynny weithiau ar lwyfan byd-eang, i hyrwyddo heddwch. Er enghraifft, ym 1923 cymerodd merched Cymru ran mewn ap\u00eal ryfeddol. Aeth 390,296 o fenywod ati i lofnodi <a href=\"https:\/\/cymru.global\/cy\/treftadaeth-heddwch\/deiseb-menywod\/\">deiseb heddwch<\/a> yn galw ar yr Unol Daleithiau i ymuno ac arwain Cynghrair y Cenhedloedd. Wedi eu hysgwyd gan alar yn dilyn erchyllterau\u2019r rhyfel byd cyntaf, drwy dorri eu henwau, chwaraeodd y menywod penderfynol hyn, yn y pen draw, ran yn sefydlu\u2019r Cenhedloedd Unedig.<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p>Sut gallwn ni adeiladu ar yr etifeddiaeth falch hon o greu heddwch yng Nghymru? Sut gall Cymru feithrin cyd-drafod fel ffordd o fyw, lle mae pobl yn ceisio cydweithio yn hytrach na gwrthdaro? Pa fath o drywyddau y byddai angen i Gymru eu hadeiladu er mwyn dod yn Genedl Heddwch?&nbsp; A sut mae cyrraedd yno?<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p>A ninnau\u2019n wynebu cyfnod o wrthdaro byd-eang cynyddol, gyda rhaniadau\u2019n dyfnhau ac argyfyngau\u2019n lluosogi, gall heddwch ymddangos yn freuddwyd rhy anodd ei gwireddu, a gall gobaith fod yn rhywbeth rhy hawdd ei golli. Ond gallwn oll gyfrannu at ddiwylliant o heddwch, fel y mae cenhedlaeth newydd o ymgyrchwyr heddwch ifanc wedi ei bwysleisio. Drwy <a href=\"https:\/\/www.urdd.cymru\/cy\/neges-heddwch-eleni\/\">Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd<\/a>, mae\u2019r bobl ifanc hyn wedi dangos i ni mai \u2018Gweithred yw Gobaith\u2019. Maen nhw\u2019n gwybod bod yn rhaid atal erchyllterau, rhyfeloedd a thrais, ac yn gwybod hefyd mai grymoedd cydweithio, cydymdeimlo a gobaith yw\u2019r rhai a all arwain at ddyfodol gwell a heddychlon.<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p>Mae Medi 21ain yn <a href=\"https:\/\/internationaldayofpeace.org\/about\/\">Ddiwrnod Rhyngwladol Heddwch<\/a>, diwrnod sy&#8217;n ein hannog ni i gyd, led-led y byd, i ymrwymo i heddwch er gwaethaf pob rhaniad ac i weithredu i adeiladu diwylliant o heddwch. Mae eleni\u2019n nodi 25 mlynedd ers i Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig fabwysiadu\u2019r <a href=\"https:\/\/digitallibrary.un.org\/record\/285677?ln=en&amp;_gl=1*14ey38y*_ga*MjI5NzE0NjM0LjE3MDQ4MTUwNjg.*_ga_TK9BQL5X7Z*MTcyNjY0OTM2MS4zNS4xLjE3MjY2NDk2MDAuMC4wLjA.&amp;v=pdf\">Datganiad a\u2019r Rhaglen Weithredu ar Ddiwylliant Heddwch<\/a>. Roedd y Cenhedloedd Unedig yn cydnabod bod heddwch yn golygu &#8216;nid yn unig yn absenoldeb rhyfel\u2019, ond ei fod yn galw hefyd am \u2018broses gyfranogol gadarnhaol, ddeinamig lle mae cyd-drafod yn cael ei annog a gwrthdaro&#8217;n cael ei ddatrys mewn ysbryd o gyd-ddealltwriaeth a chydweithrediad.&#8217;<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p>Yn yr adroddiad sydd ar y gweill, \u2018Cymru fel Cenedl Heddwch\u2019, mae Academi Heddwch Cymru hefyd yn cydnabod hyn ac yn ystyried sut mae hyrwyddo heddwch yn hanfodol i gyflawni Deddf Llesiant Cenedlaethau\u2019r Dyfodol (Cymru) 2015, deddfwriaeth sy\u2019n ymgorffori mewn cyfraith rhai camau tuag at weithredu\u2019r Nodau Datblygu Cynaliadwy yng Nghymru.<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p>Y penwythnos hwn byddwn ni\u2019n edrych tuag at Uwchgynhadledd y Dyfodol i weld sut y bydd gwledydd o bob rhan o\u2019r byd yn cydweithio i fynd i\u2019r afael \u00e2 heriau ein dyddiau ni ac adnewyddu eu hymrwymiad i roi\u2019r Nodau Datblygu Cynaliadwy yn \u00f4l ar y trywydd iawn. Gan edrych ymlaen at yr Uwchgynhadledd, pwysleisiodd Phil\u00e9mon Yang, Llywydd 79ain sesiwn Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, yr angen i adfer ymddiriedaeth ac undod ymhlith cenhedloedd, gan ychwanegu bod pobl yn &#8216;chwilio&#8217;n daer am lygedyn o obaith&#8217;.<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<p>Yma yng Nghymru gadewch inni glywed lleisiau\u2019r ymgyrchwyr heddwch oedd yn byw yma o\u2019n blaenau yn atsain yng nghyngor doeth yr ymgyrchwyr heddwch ifanc sy\u2019n byw yma nawr. Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Heddwch gadewch i ni i gyd ymrwymo i feithrin diwylliant o heddwch yng Nghymru ac uno yn y weledigaeth o greu Cymru yn Genedl Heddwch.<\/p>\n<\/div>\n\n<div class=\"wp-block-image\"><div class=\"container\">\n<figure class=\"aligncenter size-large\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/IMG_3894-1024x380.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-41998\"\/><figcaption class=\"wp-element-caption\"><em>Wikimedia Commons<\/em><\/figcaption><\/figure>\n<\/div><\/div>\n\n<div class=\"container\">\n<figure class=\"wp-block-pullquote\"><blockquote><p>Sefydliad heddwch cenedlaethol Cymru yw Academi Heddwch Cymru. Sefydlwyd yr Academi yn swyddogol yn 2020 fel cynghrair rhwng pob prifysgol yng Nghymru, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Cymdeithas Ddysgedig Cymru, a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru, gyda chefnogaeth gan y Mudiad Heddwch yng Nghymru, Race Council Cymru, Urdd Gobaith Cymru a Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau\u2019r Dyfodol Cymru.<br>&nbsp;<br>Diben Academi Heddwch yw ymestyn traddodiad cryf Cymru o ran hyrwyddo a gweithio dros heddwch gan feithrin a chydlynu cymuned annibynnol o ymchwilwyr mewn meysydd cysylltiedig. Mae\u2019r Academi, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn gweithio i sicrhau lle cadarn i heddwch yn agenda cenedlaethol Cymru ac ar lefel rhyngwladol fel ei gilydd.<br>Byddwn yn cyhoeddi dyddiad lansio adroddiad Cymru fel Cenedl Heddwch ar ein gwefan yn fuan iawn:<br><a href=\"https:\/\/cymru.global\/cy\/academi-heddwch-cymru\/\">https:\/\/cymru.global\/cy\/academi-heddwch-cymru\/heddwch\/<\/a><\/p><\/blockquote><\/figure>\n<\/div>\n\n<div class=\"wp-block-image\"><div class=\"container\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" width=\"352\" height=\"275\" src=\"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2020\/10\/LOGO-Academi-Heddwch-Cymru.jpeg\" alt=\"\" class=\"wp-image-12720\" srcset=\"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2020\/10\/LOGO-Academi-Heddwch-Cymru.jpeg 352w, https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2020\/10\/LOGO-Academi-Heddwch-Cymru-300x234.jpeg 300w, https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2020\/10\/LOGO-Academi-Heddwch-Cymru-1x1.jpeg 1w\" sizes=\"(max-width: 352px) 100vw, 352px\" \/><\/figure>\n<\/div><\/div>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Medi 21 2024, Diwrnod Rhyngwladol Heddwch Mae dychmygu Cymru a byd lle mae heddwch yn teyrnasu yn fwy na dychmygu absenoldeb rhyfel. Yn hytrach, mae\u2019n galw am ddychmygu byd lle mae pawb yn byw yn rhydd o fraw ac ofn, lle mae hawliau pawb yn cael eu parchu a lle [&#8230;]<\/p>\n","protected":false},"author":525,"featured_media":2808,"comment_status":"open","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"iawp_total_views":56,"footnotes":""},"categories":[1123],"tags":[620,1334,1335,1336,1125,1251],"class_list":["post-41976","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-academi-heddwch-cymru-cy","tag-academi-heddwch-cy-2","tag-international-day-of-peace-cy","tag-international-day-of-peace-2024-cy","tag-nation-of-peace-cy","tag-peace-cy","tag-wales-cy-2"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.5 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Cymru fel Cenedl Heddwch - Cymru Global<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Cymru fel Cenedl Heddwch - Cymru Global\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Medi 21 2024, Diwrnod Rhyngwladol Heddwch Mae dychmygu Cymru a byd lle mae heddwch yn teyrnasu yn fwy na dychmygu absenoldeb rhyfel. Yn hytrach, mae\u2019n galw am ddychmygu byd lle mae pawb yn byw yn rhydd o fraw ac ofn, lle mae hawliau pawb yn cael eu parchu a lle [...]\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/cymru.global\/cy\/academi-heddwch-cymru-cy\/wales-as-a-nation-of-peace\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Cymru Global\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/welshcentreforinternationalaffairs\/\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2024-09-20T20:58:37+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2024-12-03T15:58:27+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2019\/02\/Ifanwy-Williams.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"2048\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1448\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Sioned Cox\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@WCIA_Wales\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@WCIA_Wales\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Sioned Cox\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"4 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/academi-heddwch-cymru-cy\\\/wales-as-a-nation-of-peace\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/academi-heddwch-cymru-cy\\\/wales-as-a-nation-of-peace\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"Sioned Cox\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/32a2ec5fbbf6ad4b42b94aaa2bd8ffbf\"},\"headline\":\"Cymru fel Cenedl Heddwch\",\"datePublished\":\"2024-09-20T20:58:37+00:00\",\"dateModified\":\"2024-12-03T15:58:27+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/academi-heddwch-cymru-cy\\\/wales-as-a-nation-of-peace\\\/\"},\"wordCount\":861,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/academi-heddwch-cymru-cy\\\/wales-as-a-nation-of-peace\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2019\\\/02\\\/Ifanwy-Williams.jpg\",\"keywords\":[\"Academi Heddwch\",\"international day of peace\",\"international day of peace 2024\",\"Nation of Peace\",\"peace\",\"Wales\"],\"articleSection\":[\"Academi Heddwch Cymru\"],\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/academi-heddwch-cymru-cy\\\/wales-as-a-nation-of-peace\\\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/academi-heddwch-cymru-cy\\\/wales-as-a-nation-of-peace\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/academi-heddwch-cymru-cy\\\/wales-as-a-nation-of-peace\\\/\",\"name\":\"Cymru fel Cenedl Heddwch - Cymru Global\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/academi-heddwch-cymru-cy\\\/wales-as-a-nation-of-peace\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/academi-heddwch-cymru-cy\\\/wales-as-a-nation-of-peace\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2019\\\/02\\\/Ifanwy-Williams.jpg\",\"datePublished\":\"2024-09-20T20:58:37+00:00\",\"dateModified\":\"2024-12-03T15:58:27+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/academi-heddwch-cymru-cy\\\/wales-as-a-nation-of-peace\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/academi-heddwch-cymru-cy\\\/wales-as-a-nation-of-peace\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/academi-heddwch-cymru-cy\\\/wales-as-a-nation-of-peace\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2019\\\/02\\\/Ifanwy-Williams.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2019\\\/02\\\/Ifanwy-Williams.jpg\",\"width\":2048,\"height\":1448,\"caption\":\"Lifelong Peace campaigner Ifanwy Williams, from Porthmadog, was born just after the end of WW1\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/academi-heddwch-cymru-cy\\\/wales-as-a-nation-of-peace\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/cymru-global\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Cymru fel Cenedl Heddwch\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/\",\"name\":\"Cymru Global\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/#organization\",\"name\":\"Cymru Global\",\"url\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2026\\\/02\\\/loog-white.svg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2026\\\/02\\\/loog-white.svg\",\"width\":179,\"height\":59,\"caption\":\"Cymru Global\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\"},\"sameAs\":[\"https:\\\/\\\/www.facebook.com\\\/welshcentreforinternationalaffairs\\\/\",\"https:\\\/\\\/x.com\\\/WCIA_Wales\",\"https:\\\/\\\/www.instagram.com\\\/wcia_wales\\\/?hl=en-gb\",\"https:\\\/\\\/www.youtube.com\\\/channel\\\/UC0G2l7QV_yPDU4RHB8hEEPg\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/32a2ec5fbbf6ad4b42b94aaa2bd8ffbf\",\"name\":\"Sioned Cox\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/ea89041b700d7bdb719b26df3333832fe74e4cc084804e23fb865be060f5feb3?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/ea89041b700d7bdb719b26df3333832fe74e4cc084804e23fb865be060f5feb3?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/ea89041b700d7bdb719b26df3333832fe74e4cc084804e23fb865be060f5feb3?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Sioned Cox\"},\"url\":\"https:\\\/\\\/cymru.global\\\/cy\\\/author\\\/sionedcox\\\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Cymru fel Cenedl Heddwch - Cymru Global","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Cymru fel Cenedl Heddwch - Cymru Global","og_description":"Medi 21 2024, Diwrnod Rhyngwladol Heddwch Mae dychmygu Cymru a byd lle mae heddwch yn teyrnasu yn fwy na dychmygu absenoldeb rhyfel. Yn hytrach, mae\u2019n galw am ddychmygu byd lle mae pawb yn byw yn rhydd o fraw ac ofn, lle mae hawliau pawb yn cael eu parchu a lle [...]","og_url":"https:\/\/cymru.global\/cy\/academi-heddwch-cymru-cy\/wales-as-a-nation-of-peace\/","og_site_name":"Cymru Global","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/welshcentreforinternationalaffairs\/","article_published_time":"2024-09-20T20:58:37+00:00","article_modified_time":"2024-12-03T15:58:27+00:00","og_image":[{"width":2048,"height":1448,"url":"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2019\/02\/Ifanwy-Williams.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Sioned Cox","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@WCIA_Wales","twitter_site":"@WCIA_Wales","twitter_misc":{"Written by":"Sioned Cox","Est. reading time":"4 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/academi-heddwch-cymru-cy\/wales-as-a-nation-of-peace\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/academi-heddwch-cymru-cy\/wales-as-a-nation-of-peace\/"},"author":{"name":"Sioned Cox","@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/#\/schema\/person\/32a2ec5fbbf6ad4b42b94aaa2bd8ffbf"},"headline":"Cymru fel Cenedl Heddwch","datePublished":"2024-09-20T20:58:37+00:00","dateModified":"2024-12-03T15:58:27+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/academi-heddwch-cymru-cy\/wales-as-a-nation-of-peace\/"},"wordCount":861,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/academi-heddwch-cymru-cy\/wales-as-a-nation-of-peace\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2019\/02\/Ifanwy-Williams.jpg","keywords":["Academi Heddwch","international day of peace","international day of peace 2024","Nation of Peace","peace","Wales"],"articleSection":["Academi Heddwch Cymru"],"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/cymru.global\/cy\/academi-heddwch-cymru-cy\/wales-as-a-nation-of-peace\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/academi-heddwch-cymru-cy\/wales-as-a-nation-of-peace\/","url":"https:\/\/cymru.global\/cy\/academi-heddwch-cymru-cy\/wales-as-a-nation-of-peace\/","name":"Cymru fel Cenedl Heddwch - Cymru Global","isPartOf":{"@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/academi-heddwch-cymru-cy\/wales-as-a-nation-of-peace\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/academi-heddwch-cymru-cy\/wales-as-a-nation-of-peace\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2019\/02\/Ifanwy-Williams.jpg","datePublished":"2024-09-20T20:58:37+00:00","dateModified":"2024-12-03T15:58:27+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/academi-heddwch-cymru-cy\/wales-as-a-nation-of-peace\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/cymru.global\/cy\/academi-heddwch-cymru-cy\/wales-as-a-nation-of-peace\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/academi-heddwch-cymru-cy\/wales-as-a-nation-of-peace\/#primaryimage","url":"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2019\/02\/Ifanwy-Williams.jpg","contentUrl":"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2019\/02\/Ifanwy-Williams.jpg","width":2048,"height":1448,"caption":"Lifelong Peace campaigner Ifanwy Williams, from Porthmadog, was born just after the end of WW1"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/academi-heddwch-cymru-cy\/wales-as-a-nation-of-peace\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/cymru.global\/cy\/cymru-global\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Cymru fel Cenedl Heddwch"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/#website","url":"https:\/\/cymru.global\/cy\/","name":"Cymru Global","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/cymru.global\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/#organization","name":"Cymru Global","url":"https:\/\/cymru.global\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2026\/02\/loog-white.svg","contentUrl":"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2026\/02\/loog-white.svg","width":179,"height":59,"caption":"Cymru Global"},"image":{"@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/welshcentreforinternationalaffairs\/","https:\/\/x.com\/WCIA_Wales","https:\/\/www.instagram.com\/wcia_wales\/?hl=en-gb","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC0G2l7QV_yPDU4RHB8hEEPg"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/cymru.global\/cy\/#\/schema\/person\/32a2ec5fbbf6ad4b42b94aaa2bd8ffbf","name":"Sioned Cox","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ea89041b700d7bdb719b26df3333832fe74e4cc084804e23fb865be060f5feb3?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ea89041b700d7bdb719b26df3333832fe74e4cc084804e23fb865be060f5feb3?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ea89041b700d7bdb719b26df3333832fe74e4cc084804e23fb865be060f5feb3?s=96&d=mm&r=g","caption":"Sioned Cox"},"url":"https:\/\/cymru.global\/cy\/author\/sionedcox\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/41976","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/525"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=41976"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/41976\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":42370,"href":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/41976\/revisions\/42370"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2808"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=41976"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=41976"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/cymru.global\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=41976"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}