Cartref » Ein Gwaith » Heddwch ac Adeiladu Heddwch » Academi Heddwch Cymru » Digwyddiadau Academi Heddwch Cymru

Cymru fel Cenedl Heddwch

Sgyrsiau Wrecsam yn Cyflyyno: Academi Heddwch Cymru ac Athro Colin McInnes

Dydd Llun 22 Mehefin •  5:30 PM – 7:30 PM

Cofrestrwch yma i fynychu

Mae’n ymddangos bod heddwch yn brin. O’r rhyfel yn Wcráin i wrthryfeloedd hirhoedlog fel gwrthryfel Boko Haram yn Nigeria, mae gwrthdaro’n doreithiog yn rhyngwladol.

Mae heddwch, er hynny, yn golygu mwy nag absenoldeb rhyfel a thrais. Mae’n golygu bod cymdeithasau’n byw heb ofn, mae’n golygu gwydnwch cymdeithasol wrth ddiogelu hawliau unigol. Mae hefyd yn golygu hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol, tegwch, parch a chydraddoldeb. Ond mae’n ymddangos bod y ddealltwriaeth ehangach hon o heddwch dan fygythiad hefyd. O ymosodiad 6 Ionawr 2021 ar Capitol yr UDA i derfysgoedd yr haf yn y DU yn 2024, mae’n ymddangos bod goddefgarwch o fewn cymdeithas yn lleihau a bod ofn yn cynyddu.

Beth allwn ni yng Nghymru ei wneud am hyn? Yn 2024, awgrymodd Academi Heddwch, drwy adeiladu ar ei diwylliant, ei hanes a’i deddfwriaeth ddiweddar, y gallai Cymru ddod yn ‘genedl heddwch’. Byddai hyn yn cael effaith gadarnhaol ar ein cymdeithas, ar sut rydym yn llywodraethu ein hunain, ac yn rhoi hunaniaeth unigryw i Gymru ar y llwyfan rhyngwladol.

Bydd y ddarlith hon yn archwilio beth mae’n ei olygu i fod yn genedl heddwch, pam y dylai Cymru ddod yn un, a sut y gall wneud hynny.

Pererindod Heddwch Menywod 1926 – trafodaeth banel dan ofal Academi Heddwch Cymru a Llafur: Cymdeithas Hanes Pobl Cymru.

 EISTEDDFOD GERDDOROL RYNGWLADOL LLANGOLLEN

Ymunwch â ni am drafodaeth banel dwyieithog i ddathlu canmlwyddiant Pererindod Heddwch Menywod 1926.

Yn ystod tymor yr haf 1926, gorymdeithiodd degau o filoedd o fenywod o bob cwr o’r Deyrnas Unedig i ganol Llundain dan y faner ‘Hedd nid Cledd’, gan annog llywodraeth Prydain i ymrwymo i gyflafareddu rhyngwladol a diarfogi cyffredinol. Cerddodd yr ymgyrchwyr heddwch hyn trwy bentrefi a threfi, gan drefnu dros fil o gyfarfodydd a ralïau ar hyd y ffordd i rannu eu gweledigaeth o fyd heb ryfel.

Dysgwch am hanes rhyfeddol y Bererindod Heddwch mewn cyd-destun Cymreig wrth i ni glywed cyfraniadau gan ein panelwyr Dr Siân Rhiannon Williams, Annie Williams a Heather Aspinwall ar hanes gorymdaith gogledd Cymru – heb os, carfan fwyaf y Bererindod; ei gweithgaredd lleol yn Llangollen ac, yn olaf, hanesion cudd y llwybr llai adnabyddus o dde Cymru i Lundain.

Ble a phryd: 10.07.26, Llwyfan y Gromen, Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd (Cymraeg i Saesneg).

Cofrestrwch yma i fynychu’r weminar

Gweminar:  Polisi Amddiffyn y DU dan y Blaid Lafur a’i Effaith ar y Gwledydd Datganoledig

 

Platfform Heddwch yr Alban (Scottish Peace Platform) ac Academi Heddwch Cymru

*Digwyddiad Iaith Saesneg

Ymunwch â ni ar gyfer gweminar (iaith Saesneg) ar ‘Bolisi Amddiffyn y DU dan y Blaid Lafur a’i Effaith ar y Gwledydd Datganoledig’. Cofrestrwch drwy’r ddolen uchod! Bydd Dr. Bethan Sian Jones, Rheolwr Datblygu Prosiect Academi Heddwch, yn cyflwyno ac yn rhoi cefndir am waith yr Academi. Bydd Yr Athro Colin McInnes, Arweinydd Ymchwil Academi Heddwch & Athro Emeritws mewn Gwleidyddiaeth Rhyngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn cyflwyno ymchwil yr Academi ar bolisi amddiffyn y DU a’i ryngweithio â chyd-destun datganoledig Cymru.

Bwriad Platfform Heddwch yr Alban (Scottish Peace Platform), drwy bartneru ag Academi Heddwch Cymru ar y weminar hon, yw llwyfannnu mewnwelediadau o gyd-destun datganoledig arall yn y DU a chanolfan heddwch sefydledig, gyda’r nod o rannu a chyfnewid dysgu ar gyfer cyd-destun adeiladu heddwch yr Alban.

Cofrestrwch drwy’r ddolen uchod!

O Okinawa i Gymru: Heddwch a Gwrthsafiad dros 10,000 o Gilometrau

Dydd Iau, Mawrth 12fed o 6 pm – 8 pm, Y Deml Heddwch ac Iechyd, Caerdydd

Mae Okinawa yn gartref i un o fudiadau heddwch mwyaf gwydn y byd – ond nid oes fawr neb yn gwybod amdano. Dechreuodd y mudiad yn sgil trawma’r Ail Ryfel Byd, ac yna fe ddatblygodd dros 27 mlynedd dan oresgyniad yn yr Unol Daleithiau. Heddiw mae pobl o bob cefndir yn Okinawa yn parhau i fynegi eu heddychiaeth drwy ralïau torfol, meddiannu adeiladau, comedi a chelf.

Ers 16 mlynedd, mae’r newyddiadurwr a’r awdur o Gymru, Jon Mitchell, wedi bod yn gohebu am fudiad heddwch Okinawa a’r anghyfiawnderau gan lywodraethau’r Unol Daleithiau a Japan a’i sbardunodd. Ac yntau’n arbenigwr yn Neddf Rhyddid Gwybodaeth yr Unol Daleithiau, mae ei ymchwiliadau wedi sbarduno gwelliannau gan awdurdodau cenedlaethol ac wedi ennill y gwobrau newyddiaduraeth uchaf eu bri yn Japan.

Yn y sgwrs hon yn y Deml Heddwch, bydd Jon yn trafod ei lyfr diweddaraf Why are We in Okinawa? A History of Violence (Bloomsbury Academic 2026). Mae’r llyfr yn olrhain sut cafodd yr ynysoedd eu cyfeddiannu gan Japan, eu goresgyn gan yr Unol Daleithiau, a sut y maent erbyn heddiw dan fwy a mwy o fygythiad gan Tsieina. Ochr yn ochr â gwreiddiau heddychiaeth yn Okinawa, bydd Jon yn archwilio’r tebygrwydd rhwng Cymru ac Okinawa. Er bod bron i 10,000 cilomedr rhyngddynt, mae’r ddau le wedi profi gwahaniaethu, gormes ieithyddol a chamfanteisio amgylcheddol – ffactorau sydd wedi meithrin ymrwymiad cadarn i heddwch a chyfiawnder cymdeithasol.

Bydd Jill Evans, cyn-Aelod o Senedd Ewrop ac Is-gadeirydd Academi Heddwch Cymru yn ymuno â Jon mewn trafodaeth.

Cofrestrwch yma i fynychu

Cynhadledd Flynyddol Academi Heddwch Cymru

Dydd Sadwrn, 21eg o Fawrth, 10 am – 4 pm, Y Deml Heddwch, Caerdydd

Rhaglen y Dydd

Mae Academi Heddwch Cymru (sefydliad heddwch cenedlaethol Cymru) yn eich gwahodd i gymryd rhan yn ei chynhadledd undydd: ‘Creu Cymunedau Heddychlon’.

Mae heddwch yn llawer mwy nag absenoldeb rhyfel. Mae’n golygu adeiladu byd gwell drwy greu cymunedau sy’n byw heb ofn ac sy’n hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol, parch a chydraddoldeb. Mae ein hadroddiad Cymru fel Cenedl Heddwch (2024) yn dadlau y gallai ac y dylai Cymru anelu at ddod yn Genedl Heddwch, yn enwedig er mwyn magu cymunedau cryfach yng Nghymru. Mae’r gynhadledd hon yn canolbwyntio ar sut y gallem gyflawni hyn.

Gwrandewch ar sgyrsiau gan ymchwilwyr ac arbenigwyr ym maes cydlyniant cymdeithasol a chymerwch ran mewn gweithdai rhyngweithiol a fydd yn eich cyfarparu â’r wybodaeth a’r sgiliau i adeiladu a chynnal cymunedau heddychlon.

Cofrestrwch yma i fynychu

DISGRIFIAD O SESIYNAU RHYNGWEITHIOL Y GYNHADLEDD

GWEITHDY 1:

Sesiwn Blasu ar Becyn Cymorth Cymunedau sy’n Gwrthsefyll Rhaniad

Dr Amy Sanders (Prifysgol Aberystwyth)

Cyflwyniad: Yn y gweithdy hwn cewch gyflwyniad i ddetholiad o unedau o’r Pecyn Cymorth Cymunedau sy’n Gwrthsefyll Rhaniad. Mae’r pecyn yn bodoli diolch i gydweithrediad rhwng tîm ymchwil Aberystwyth o Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD) a Sefydliad Jo Cox, partneriaeth ‘Mwy yn Gyffredin’ Caerdydd a Thîm Cydlyniant Cymunedau Caerdydd. Cafodd y pecyn ei greu ar y cyd â 70 a mwy o aelodau ac ymarferwyr cymunedol allweddol o fwy nag 20 o sefydliadau cymunedol yng Nghaerdydd. Digwyddodd hyn drwy ymgysylltu â chymunedau mewn prosiect ymchwil gwreiddiol ar boblyddiaeth, polareiddio a gwrthdaro mewn lleoliadau cymunedol.

Gyda’n gilydd, rydym yn bwriadu:

1. Archwilio’r gwersi allweddol sydd yn y Pecyn Cymorth Cymunedau sy’n Gwrthsefyll Rhaniad

2. Datblygu gwybodaeth am ddamcaniaethau ac ymchwil yn gysylltiedig â pholareiddio a phoblyddiaeth, a sut mae’n berthnasol i hyrwyddo cydlyniant mewn cymunedau

3. Ystyried y goblygiadau o ran sut i’w rhoi ar waith mewn lleoliadau cymunedol

4. Mynd i’r afael â’r pynciau hyn trwy ddulliau creadigol a chyfranogol, a hwyluso cyfleoedd i’r mynychwyr gael rhwydweithio

 

GWEITHDY 2 / WORKSHOP 2

Ruth Campbell (Climate Cymru)

Dychmygwch Weithredu – Offer i ysbrydoli gweithredu a datgloi newid

Ariennir Dychmygwch Gweithredu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Pan fydd y byd yn teimlo’n rhanedig ac yn ansicr, mae’n demtasiwn i wthio’n galetach – i ddadlau, argyhoeddi, neu dynnu sylw at bethau annerbyniol. Ond dydy newid ddim bob amser yn dechrau trwy roi pwysau; gall ddechrau drwy gysylltu.

Mae Dychmygwch Gweithredu yn helpu unigolion, cymunedau a sefydliadau ledled Cymru i gyfathrebu mewn ffyrdd sy’n adlewyrchu’r hyn sy’n wirioneddol bwysig; creu straeon difyr sy’n ein huno ac sy’n ail-ddychmygu dyfodol y gallwn ei greu gyda’n gilydd. Efallai eich bod chi’n ymgyrchydd, yn artist, yn arweinydd ffydd, yn addysgwr, neu’n aelod gweithgar o’ch cymuned, mae’r llwyfan hwn yn ein hannog ni i siarad o safbwynt y pethau sy’n bwysig i ni. Mae’n ein hannog ni i wrando’n ofalus, yn ogystal â helpu i lunio dyfodol i Gymru sy’n cynnwys pawb.

Cafodd y Pecyn Cymorth Dychmygwch Weithredu ei greu gan ymchwilwyr blaenllaw a’r syniadau diweddaraf yn y gwyddorau cymdeithasol i gefnogi pobl sy’n trefnu pethau, yn newid pethau ac yn gweithio yn y maes i gyflwyno negeseuon mewn ffyrdd diddorol a phwerus. Mae’r fenter yn cynnig offer a hyfforddiant i helpu i ddod â’ch naratif yn fyw yn eglur, creadigol ac effeithiol. Drwy rannu fframwaith cydweithredol, gallwn ni gynyddu ein gallu, a chreu newid ystyrlon.

Mae #DychmygwchWeithredu yn ceisio ail-greu’r naratif ynglŷn â gweithredu ar yr hinsawdd yng Nghymru, gan ddatblygu amgylcheddau diwylliannol a gwleidyddol lle mae mentrau beiddgar yn ffynnu ac mae newid trawsnewidiol yn digwydd.