Cartref » Ein Gwaith » Treftadaeth Heddwch

Mae ein gwaith wedi’i wreiddio’n gryf yn nhreftadaeth hir Cymru o ryngwladoldeb ar lawr gwlad, a’n gwarcheidiaeth o Deml Heddwch ac Iechyd Genedlaethol Cymru.

Mae dysgu o’n treftadaeth ac adeiladu arni yr un mor berthnasol ag erioed.

Wedi’i sefydlu ym 1938 fel cofeb Cymru i’r rhai a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ac wedi’i agor ar drothwy’r Ail Ryfel Byd, adeiladwyd y Deml i ‘yrru’ cenhadaeth genedlaethol i Gymru i adeiladu byd gwell ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol – trwy Gynghrair y Cenhedloedd, y Cenhedloedd Unedig a chydweithrediad rhyngwladol.