Gwirfoddolwch gyda’n Tîm Addysg Heddwch
Mae ein gwaith ar addysg heddwch yn cefnogi pobl o bob oed i ddyfnhau eu dealltwriaeth o sawl agwedd o heddwch, ac i gyflwyno newid yn eu cymunedau a’r byd ehangach. Mae cymryd rhan a gweithio mewn partneriaeth yn egwyddor ganolog i’n holl waith gydag ysgolion, cymunedau ac addysg oedolion. Rydym yn datblygu adnoddau dysgu a hyfforddiant ynghylch treftadaeth heddwch, lles cymdeithasol ac emosiynol a chyfryngu gan gymheiriaid, yn ogystal â chynnal cynadleddau heddwch a dathlu cyflawniadau pobl ifanc drwy’r Gwobrau Heddychwyr.
Gwirfoddoli gydag Academi Heddwch Cymru
Fel un o’n rhaglenni allweddol ac fel sefydliad heddwch cyntaf y DU, Academi Heddwch Cymru yw sefydliad heddwch cenedlaethol Cymru, sy’n uno’r WCIA, holl brifysgolion Cymru, y mudiad heddwch a sefydliadau cenedlaethol wrth fynd ar drywydd heddwch. Mae’n cydlynu’r meddyliau academaidd a’r arbenigwyr gorau o bob cwr o Gymru, ac yn cynnig ffyrdd i bawb weithredu. Y cydweithrediad hwn sy’n helpu i osod heddwch yn gadarn ar ein hagenda genedlaethol. Yn rhan o rwydwaith byd-eang o sefydliadau heddwch, mae Academi Heddwch yn galluogi’r sgyrsiau hanfodol, yr atebion hollbwysig a’r camau gweithredu pendant sydd eu hangen i ymestyn traddodiad cryf Cymru o greu heddwch a hyrwyddo heddwch a helpu i greu newid ar draws y byd.
Blog
Ysgrifennu blog
Ysgrifennwch flog neu erthygl ar gyfer ein gwefan ar bynciau sy’n bwysig i chi. Helpwch y tîm Addysg Heddwch i amlygu ymdrechion adeiladu heddwch ledled y byd.
Ymchwil
Ymchwiliwch i Heddwchwr
Ymchwiliwch a rhannwch wybodaeth am heddychwyr lleol – yn y gorffennol neu’n y presennol.
Ysgol
Astudiaethau Achos Ysgol Heddwch
Cefnogwch eich ysgol leol i ddod yn ysgol heddwch.
Ysgrifennwch astudiaeth achos am yr hyn y mae eich ysgol neu’ch cymuned yn ei wneud i feithrin heddwch.
Cymuned
Sgyrsiau Heddwch
Cynnal sgwrs am heddwch yn eich cymuned leol,
gyda’n cefnogaeth ni.
Cyflwynwch eich diddordeb i wirfoddoli gyda ni drwy’r ffurflen gais. Dewiswch “Heddwch” yn y ffurflen i gefnogi ein tîm Addysg Heddwch ac Academi Heddlu Cymru.
