Cartref » Ein Gwaith » Dysgu Byd-eang

Tyfodd y syniad o ddysgu byd-eang o ddechrau’r 20fed Ganrif, pan achosodd y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd i gymdeithasau ar draws y byd i, gwestiynu sut roedden ni’n gweithio ochr yn ochr â’n gilydd a gofyn sut y gallem ni ddeall a chymhwyso egwyddorion yn well gan gynnwys cydraddoldeb, heddwch a chydweithio.

Ers hynny, mae’r cysyniad o ddysgu byd-eang wedi esblygu i gwmpasu rhaglen eang sydd yn gallu ein helpu i ffynnu ar ein planed. Mae’r rhaglen hon yn cynnwys gwybodaeth am y byd, y sgiliau sy’n ein galluogi i lywio mewn byd sy’n newid yn gyson, a’r agweddau y gellir eu creu trwy allu adrodd ein straeon mewn cymunedau empathig.

Mae ein gweithgareddau ar gyfer disgyblion wedi cael eu creu ar y cyd ag ysgolion a phobl ifanc, ac maen nhw’n dilyn canllawiau cwricwlwm cenedlaethol Cymru.

Mae ein cynnig DPP i athrawon (Datblygiad Proffesiynol Parhaus) wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth â gweithwyr proffesiynol addysgol ac mae’n mynd i’r afael yn uniongyrchol â’r gofynion a fynegwyd gan ein rhwydwaith ysgolion.

Mae ein prosiectau ieuenctid yn cael eu creu ar y cyd â phobl ifanc ac maen nhw’n fynegiannol, yn gyfranogol, yn gynhwysol, yn grymuso ac yn addysgiadol. Yn ddiweddar, fe wnaethon ni sicrhau ein Marc Ansawdd Ieuenctid ac rydym yn falch o ddarparu profiadau ac adnoddau o ansawdd uchel. Os hoffech chi gymryd rhan, cymerwch olwg!

Mae ein rhaglenni dysgu i oedolion yn cael eu creu ar y cyd yn ôl diddordebau ac anghenion y sefydliadau rydym yn gweithio gyda nhw. Rydym yn angerddol am wneud dinasyddiaeth fyd-eang yn hygyrch ac yn berthnasol i bawb, ac mae ein rhaglenni ac adnoddau yno i gefnogi pobl i wneud y cysylltiadau hynny yn eu bywydau bob dydd.

Mae Dysgu Byd-eang wrth wraidd yr hyn a wnawn. Mae ein rhaglenni wedi tyfu ac esblygu gydag anghenion newidiol Cymru a’r byd ehangach, gan ein tywys i ysgolion a mannau ieuenctid, addysg uwch, cymunedau, a sgyrsiau gyda llunwyr polisi. Lle bynnag yr ydym yn gweithio, yr un yw’r nod: ymhelaethu ar leisiau, rhannu safbwyntiau, a llunio dyfodol tecach.

Rydym yn canolbwyntio ar ennyn chwilfrydedd a helpu dysgwyr i gymryd y cam cyntaf hwnnw wrth archwilio’r byd.

Gall pobl o bob oed ofyn cwestiynau, cysylltu â’u cymunedau, a dathlu cynefin a threftadaeth mewn mannau diogel a chynhwysol. Drwy rannu profiadau’n onest ac yn agored, rydym yn meithrin empathi a pharch at gymunedau rhyngwladol.

Yn bwysicaf oll, mae Dysgu Byd-eang yn ymwneud â gweithredu. Gyda’n gilydd, rydym yn dychmygu atebion, yn cryfhau perthnasoedd, ac yn creu llwybrau tuag at newid; gan lunio Cymru sy’n edrych tuag allan ac yn gydweithredol ac sy’n disgleirio i bawb.

Newyddion a Blogiau Dysgu

Academi Heddwch Cymru Addysg

Heddychwyr ifanc yn ymgynnull yng Nghaerdydd i ddathlu heddwch mewn ysgolion

Atgynhyrchwyd o Quakers UK , gyda diolch yn fawr Daeth bron i 100 o gyfryngwyr cyfoedion ifanc o bob cwr o Dde Cymru ynghyd ym Mae Caerdydd ar 15 Hydref i ddathlu eu hymrwymiad cyffredin i ddatrys gwrthdaro yn heddychlon. Y digwyddiad, ‘Dathlu Heddwchwyr y Dyfodol | Dathlu Heddychwyr y […]

Darllen mwy
Addysg Addysg

Hyfforddiant Flaenllaw 5 Mis Chwefror 2026

Lorem ipsum dolor sit amet consectetur adipiscing elit. Quisque faucibus ex sapien vitae pellentesque sem placerat. In id cursus mi pretium tellus duis convallis. Tempus leo eu aenean sed diam urna tempor. Pulvinar vivamus fringilla lacus nec metus bibendum egestas. Iaculis massa nisl malesuada lacinia integer nunc posuere. Ut hendrerit […]

Darllen mwy
Addysg

Wythnos Addysg Fyd-eang 17-24 Tachwedd 2025: Llunio Dyfodol Teg, Heddychlon a Chynaliadwy

Rydych wedi eich gwahodd yn gynnes i ymuno â WCIA i ddathlu Wythnos Addysg Fyd-eang 2025. Mae Wythnos Addysg Fyd-eang yn gyfle i bob gwlad yn Ewrop ddod at ei gilydd i ddysgu am y byd a chymryd camau cydlynol i helpu gwneud y byd yn lle gwell. Ar gyfer […]

Darllen mwy
Academi Heddwch Cymru Addysg Volunteers WCIA news

Gwobrau Heddychwyr 2025 @ Eisteddfod Rhygwladol Llangollen

Mae’r Seremoni Gwobrwyo Heddychwyr Ifainc yn gyfle i ddathlu’r hyn y mae plant a phobl ifanc ledled Cymru wedi’i wneud i greu cymunedau mwy caredig, diogel a chynhwysol – yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.  Dywedir yn aml fod heddwch yn dechrau ynddom ni ein hunain. Mae hyn yn […]

Darllen mwy
Addysg Hawliau Dynol Peace Heritage Rhyfel a Gwrthdaro Temple of Peace / Teml Heddwch WCIA history Womens Peace Petition Centenary

Archif y Mis: Adroddiad Pererindod Heddwch Menywod Cymru 1926, 99 mlynedd yn ôl i’r mis hwn

99 mlynedd yn ôl i’r mis hwn, dros fis Mai – Mehefin 1926, fe wnaeth “Pererindod Heddychwyr y Menywod” gerdded o Ogledd a De Cymru ac o bob cornel o’r DU, gan uno degau o filoedd o dan faner ‘HEDD NID CLEDD’ / ‘LAW NOT WAR’ Gallwch weld yr Adroddiad […]

Darllen mwy
Addysg Hawliau Dynol International Exchange Peace Heritage Rhyfel a Gwrthdaro Temple of Peace / Teml Heddwch Tlodi a datblygiad WCIA news

Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2025

Ddeng mlynedd ers ei chychwyn, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn fwy amlwg ond nid yw’n ysgogi’r newid system gyfan a fwriadwyd. Rydym yn gweld enghreifftiau da, ond rydym hefyd yn gweld achosion lle nad yw cyrff cyhoeddus wedi rhoi rhyw lawer o ystyriaeth benodol os o gwbl i’r Ddeddf. […]

Darllen mwy
Academi Heddwch Cymru Addysg International Exchange Peace Heritage Rhyfel a Gwrthdaro Temple of Peace / Teml Heddwch Volunteers WCIA history Womens Peace Petition Centenary

‘Edefyn Heddwch’ gan Bethan Hughes

Cywaith pwyth cydweithrediadol arweiniwyd gan yr artist Bethan M. Hughes gyda chefnogaeth Academi Heddwch, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Chanolfan Grefft Rhuthun. “Mae llofnodion y cyfranwyr wedi eu brodio â llaw ganddyn nhw, yn ofalus ac yn feddylgar. Rwyf i wedi eu hymgorffori yn y cwilt gorffenedig dan linellau o bwythau […]

Darllen mwy
Academi Heddwch Cymru Addysg Peace Heritage Womens Peace Petition Centenary

Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2024: ‘Gweithred yw Gobaith’

Eleni mae Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd yn dathlu ymgyrch arwrol Deiseb Heddwch Merched Cymru 1923-24, ac yn datgan yr angen i barhau gyda’r alwad am heddwch can mlynedd yn ddiweddarach.  Ganrif yn ôl, ar yr 19eg o Chwefror 1924, agorwyd cist Deiseb Heddwch menywod Cymru gyda’i 390, […]

Darllen mwy
Academi Heddwch Cymru Addysg Peace Heritage Rhyfel a Gwrthdaro Taith Projects Temple of Peace / Teml Heddwch Volunteers WCIA history WCIA news

Gwobrau Heddychwyr Ifanc 2025

Ydych chi’n gwybod am berson ifanc sydd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eich ysgol neu’ch cymuned chi neu sydd wedi ysbrydoli eraill? Mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA), ac Academi Heddwch Cymru yn gweithio gydag Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen i ddathlu plant a phobl ifanc sydd wedi cyfrannu at heddwch, […]

Darllen mwy