Mae cyfranogiad a phartneriaeth wrth wraidd popeth a wnawn.

Rydym yn datblygu adnoddau dysgu a hyfforddiant ar dreftadaeth heddwch, lles cymdeithasol ac emosiynol, a chyfryngu gan gyfoedion, tra hefyd yn cynnal cynadleddau heddwch a dathlu cyflawniadau pobl ifanc drwy’r Gwobrau Heddychwyr Ifanc. Caiff dysgwyr eu hannog i ystyried, deall a gweithredu i wneud eu cymunedau a’r byd ehangach yn fwy heddychlon.

Gwobrau Heddychwyr Ifanc 2026

Ydych chi’n gwybod am berson ifanc sydd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eich ysgol neu’ch cymuned chi neu sydd wedi ysbrydoli eraill?

 

Mwy

 

 

 

Mae rhaglen addysg heddwch Cymru Global yn helpu pobl o bob oedran i archwilio beth mae heddwch yn ei olygu, a sut y gellir ei feithrin mewn cymunedau a thu hwnt