Rydym yn cofleidio gwahanol safbwyntiau gyda meddyliau agored a chalonnau agored. Rydym yn chwilio am wahanol syniadau, yn croesawu atebion newydd ac yn gofyn cwestiynau, gan ddefnyddio meddwl beirniadol a myfyrio, i lunio ein casgliadau ac arwain ein gweithredoedd. Rydym yn annog sgyrsiau gonest a dadl go iawn, ni waeth pa mor heriol ydynt. Rydym yn ffynnu yn ein hamrywiaeth ac yn dysgu o’n gwahaniaethau, ac rydym wedi cael ein clymu â’n cymuned gan bwrpas cyffredin.

Mae caredigrwydd wrth galon ein sefydliad. Rydym yn credu mai dyma sy’n dod â newid gwirioneddol a chadarnhaol. Rydym yn gofalu’n ddwfn ac yn ddiamod am ein gilydd ac yn meithrin diwylliant ymddiriedus a chynhwysol, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu clywed a’u gwerthfawrogi. Mae caredigrwydd tuag at bobl a’r blaned wrth wraidd popeth a wnawn.

Mae undod yn rhan graidd o’n stori, ac wedi bod erioed. Ers 1938, mae undod wedi ein galluogi i wneud gwahaniaeth cadarnhaol mewn cyfnodau o ryfel, drwy ddarparu lloches a gweithio ochr yn ochr â’r rhai sy’n rhannu ein gwerthoedd a’n pwrpas. Rydym yn gweithredu gyda chynhesrwydd, parch, empathi a dealltwriaeth. Nid ydym yn ofni sefyll yn erbyn y status quo. Rydym yn unedig yn ein dull a’n gweithredoedd, ac yn ennill dewrder a chryfder oddi wrth ein gilydd, ac yn gweithio gyda’n gilydd i geisio creu byd tecach, mwy heddychlon ac iachach.

Drwy ganolbwyntio ar faterion byd-eang, rydym yn galluogi pobl Cymru i gysylltu â’r byd a’i gilydd. Drwy ein rhaglenni cymunedol, gwirfoddoli ac addysgol, rydym yn dod ag amrywiaeth eang o bobl a sefydliadau at eil gilydd, yn lleol ac ar draws y byd, i helpu i greu newid ar draws y byd.

Rydym yn darparu mannau diogel, croesawgar, sy’n ysgogi’r meddwl i archwilio ffyrdd newydd ymlaen gyda gobaith a hyder. Drwy sbarduno sgyrsiau pwysig, rydym yn creu cyfleoedd i bawb gael sedd wrth y bwrdd a bod yn rhan o’r atebion i lawer o faterion pwysicaf ein hoes. Mae hyn yn creu cyfleoedd i wrando’n onest, rhannu syniadau ac i gymryd camau pendant heb rwystrau na rhagfarn.

Mae partneriaeth wrth wraidd ein sefydliad. Rydym yn credu’n gryf bod gan bawb farnau, sgiliau ac atebion gwerthfawr i’w rhoi, a dyma sy’n sbarduno ein hangerdd dros gydweithio a chysylltu. Drwy ddod â phobl o’r un anian at ei gilydd yng Nghymru ac ar draws y byd, rydym yn gweithredu fel y cyswllt, i gymuned unigryw o bobl a phartneriaid sydd wedi’u seilio ar werthoedd a rennir ac sydd wedi’u huno gan ymrwymiad a rennir i greu newid cadarnhaol. Rydym yn gwrando’n astud, yn cefnogi ein gilydd yn agored ac yn ysbrydoli cydweithrediad, gan ddatgloi ein potensial ar y cyd i lunio polisïau a galluogi cynnydd tuag at heddwch, hawliau dynol, cyfiawnder cymdeithasol a’r hinsawdd.

Rydym yma i alluogi newid pendant, cadarnhaol. Drwy newid meddylfryd, a gweithredu, rydy yn dod â chymunedau at ei gilydd i roi cyfle i bawb helpu i wneud gwahaniaeth yng Nghymru a’r byd ehangach. Dyma sy’n gyrru pob agwedd ar ein gwaith, ac mae’n rhan naturiol o’n holl bartneriaethau, prosiectau, digwyddiadau a rhaglenni. Rydym yn credu ym mhŵer cysylltiad, gobaith a chydweithio i droi syniada’n ymarfer, ac i ysbrydoli pobl i gymryd rhan fel bod gan bawb y cyfle i gyfrannu at greu planed decach, fwy heddychlon ac iachach.