Mae heddwch – neu ddiffyg heddwch – yn effeithio ar fywyd pob un ohonom ni. Ni allwn ei gymryd yn ganiataol.
Mae heddwch yn golygu byd heb drais ac ofn trais, yn ogystal â’r amodau i atal gwrthdaro fel tegwch a pharch.
Nid yw diffyg heddwch yn ymwneud â ‘gwrthdaro sy’n digwydd ymhell i ffwrdd’ yn unig, na sefyllfaoedd ‘na allwn ni wneud dim yn eu cylch’. Mae heddwch hefyd yn ymwneud â’r cymunedau rydyn ni’n byw ynddyn nhw a’r ofnau a’r ansicrwydd rydyn ni’n ei brofi bob dydd, fel cam-drin domestig, hiliaeth neu anghydraddoldeb.
Mae gennym ni gyfrifoldeb i weithredu. Gall ein penderfyniadau ni yng Nghymru gyfrannu at gymdeithas fwy heddychlon, yn y wlad hon ac ar draws y byd.
Nid yw bob amser yn hawdd gwybod beth i’w wneud, felly mae Academi Heddwch Cymru yn rhoi ymchwil a thystiolaeth i lywodraethau ac eraill er mwyn iddyn nhw allu gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth.
Gall Llywodraeth Cymru a sefydliadau cenedlaethol a lleol eraill effeithio ar faterion sy’n ymwneud â heddwch. Mae hynny’n cynnwys mynd i’r afael â thlodi, hiliaeth, gwahaniaethu a newid yn yr hinsawdd. Yn wir, gall pob un ohonom ni gyfrannu at heddwch – boed hynny yn ein cymunedau, yn ein gwaith neu yn ein bywydau personol.
Ar lwyfan y byd, mae gan Gymru draddodiad cryf o heddwch, gan gynnwys Deiseb Heddwch Menywod 1923 a Neges Heddwch ac Ewyllys Da’r Urdd, sydd wedi cael ei rhannu gyda phobl ifanc ledled y byd ers 1922.
Hyd heddiw, mae Academi Heddwch Cymru yn rhan o rwydwaith byd-eang o bobl sy’n gweithio dros heddwch, a gallwch chi fod yn rhan o hynny hefyd.