📢 Cyfle Swydd –
Rheolwr Gwaith Ieuenctid Rhyngwladol
Crynodeb o’r Rôl
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, ymarferol ac ymroddedig i reoli gwaith ieuenctid rhyngwladol Cymru Global: ein rhaglenni cyfnewid rhyngwladol a’n rhaglen wirfoddoli ryngwladol.
Bydd deiliad y swydd yn rheoli pob agwedd ar gyflwyno ein rhaglenni cyfnewid a’n lleoliadau rhyngwladol. Bydd yn gyfrifol am gyllidebau’r rhaglen ac am arwain ei pherthnasoedd â chyllidwyr a phartneriaid rhyngwladol; am ehangu’r rhaglen drwy feithrin partneriaethau newydd a sicrhau cyllid; ac am weithredu fel arweinydd diogelu’r rhaglen. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu gweithio’n annibynnol,cymryd cyfrifoldeb am amrywiaeth eang o weithgareddau, a thalu sylw manwl i fanylion.
Mae’r portffolio presennol yn cynnwys tri phrosiect sydd yn cael eu hariannu gan Taith , rhaglenni cyfnewid rhyngwladol gyda Phrifysgol Caerdydd, a lleoliadau gwirfoddoli rhyngwladol unigol sydd yn cael eu hunangyllido drwy ein rhwydweithiau partneriaid rhyngwladol. Mae cynlluniau datblygu at y dyfodolyn cynnwys prosiectau Ieuenctid Erasmus+ a chynnal gwersylloedd gwaith rhyngwladolyng Nghymru.
📅 Gwnewch gais erbyn 12pm, 4th Mis Rhagfwr 2026
🔗Disgrifiad swydd lawn a sut i wneud cais yma
JD_Rheolwr_Gwaith_Ieuenctid_Rhyngwladol_
📢 Cyfle Swydd – Pennaeth Polisi ac Eiriolaeth
Mae Climate Cymru yn chwilio am arweinydd strategol i gryfhau uchelgais wleidyddol a chefnogaeth y cyhoedd i weithredu dros yr hinsawdd ledled Cymru.
Byddwch yn arwain ein tîm eiriolaeth, yn llunio dyfodol ymgyrch Cymru Gyda’n Gilydd, ac yn meithrin perthnasoedd cryf ar draws gwleidyddiaeth, polisi a chymdeithas sifil Cymru i gadw polisi hinsawdd uchelgeisiol a theg ar yr agenda.
📅 Gwnewch gais erbyn 5pm, 17 Awst 2026
🔗Disgrifiad swydd lawn a sut i wneud cais yma Cliciwch yma
Gwirfoddoli yn Cymru Global
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â ni, beth am edrych ar ein cyfleoedd gwirfoddoli niferus ledled Cymru a’r byd.
Ffurflenni Cais Cymru Global
Dylai ymgeiswyr am swyddi cyflogaeth lenwi ffurflen gais safonol Cymru Global a’r ffurflenni cyfle cyfartal isod.
Ffurflen Cyfle Cyfartal Cymru Global
Cyflwynwch geisiadau drwy e-bost i recruitment@cymru.global