Cartref » Ein Gwaith » Heddwch ac Adeiladu Heddwch » Addysg Heddwch » Adnoddau Addysg Heddwch

Sut i ddod yn Ysgol Heddwch

Mae’r canllawiau hyn yn mynd ag ysgolion drwy’r broses o ddod yn ysgol heddwch, o’r mynegiant gwreiddiol o ddiddordeb i gyflawni Lefelau 1 – 3. Mae’r ddogfen hon yn cael ei diweddaru i gyd-fynd â Chwricwlwm Cymru. Mae ar gael ar Hwb:

Sut i ddod yn Ysgol Heddwch

Rydym hefyd wedi creu Padlet, Sut i Ddod yn Ysgol Heddwch, sy’n cynnwys y dogfennau canllaw, adnoddau i gynnal ymgynghoriad ysgol gyfan, adnoddau hyfforddi athrawon, holiadur sylfaenol a rhai adnoddau i’ch rhoi ar ben ffordd!

Padlet: Sut i ddod yn Ysgol Heddwch

Sut i ddod yn Ysgol Heddwch – Pecyn Cymorth i Ymarferwyr

Cynhyrchwyd y pecyn cymorth hwn yn ystod prosiect Erasmus a oedd yn cynnwys partneriaid o Gymru, Slofenia, Romania a Thwrci. Mae’n cynnwys canllawiau ar sut i ddatblygu eich ysgol fel ysgol heddwch, gan gynnwys enghreifftiau a deunyddiau ymarferol. (Ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd.)

Pecyn Cymorth i Ymarferwyr

Pecynnau cymorth a gynhyrchwyd yn ystod y prosiect uchod ynghylch ymgynghori â dysgwyr a’u cynnwys a gwerthuso gweithgareddau mewn ffordd ddiddorol a rhyngweithiol:
(Saesneg yn unig ar hyn o bryd)

Consulting with and Involving Learners (ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd)

Evaluation Toolkit (ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd)

Addysg Heddwch

Pecyn yn cynnwys deg gwasanaeth, gweithgareddau dilynol, adnoddau, gweddïau a myfyrdodau ar heddwch sy’n addas i Gamau Cynnydd 2 – 3.

 

Pecyn Addysg Heddwch

Wythnos Heddwch

Pecyn yn cynnwys deg gwasanaeth, gweithgareddau dilynol, adnoddau, gweddïau a myfyrdodau ar heddwch sy’n addas i Gamau Cynnydd 2 – 3.

Wythnos Heddwch

Creu Newid er mwyn Heddwch – pecyn ymarferol i heddychwyr ifanc

Mae’r pecyn hwn yn cefnogi pobl ifanc (Camau Cynnydd 4 – 5) wrth feddwl beth mae heddwch yn ei olygu iddyn nhw, a sut medran nhw gyfrannu at sicrhau bod eu hysgol, eu cymuned lleol a’r byd yn fwy heddychlon. Mae’r pecyn hefyd yn cynnwys llawlyfr i staff gyda gweithgareddau sydd yn cefnogi pobl ifanc wrth greu newid.

Creu Newid er mwyn Heddwch

Beth yw Heddwch?

Deunyddiau gweithdy i gefnogi disgyblion i archwilio beth mae ‘heddwch’ yn ei olygu, beth yw nodweddion arwr, a beth gall pobl ifanc ei wneud i greu byd mwy heddychlon. Yn addas ar gyfer Camau Cynnydd 4 – 5.

Gweithdy Beth yw Heddwch

 

Dulliau Amgenach Na Thrais

Llawlyfr o ymarferion ac adnoddau rhyngweithiol i gefnogi datblygiad sgiliau rhyngbersonol cadarnhaol a datrys gwrthdaro mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. Mae’r adnodd hwn yn cael ei addasu ar hyn o bryd i gyd-fynd yn well â Chwricwlwm Cymru.

Llawlyfr Dulliau Amgenach Na Thrais

Deiseb Heddwch Menywod Cymru

Mae pecyn sy’n adrodd stori anhygoel Deiseb Heddwch Menywod Cymru (2023-4) ac yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu eu hymchwil a’u hadnoddau eu hunain ar gael yma. Addas ar gyfer Camau Cynnydd 3 – 4.

Deiseb Heddwch Menywod Cymru: pecyn adnoddau ar gyfer ysgolion

Pecyn Dysgu ar Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd

Mae’r pecyn hwn yn cynnwys trosolwg o’r ysbrydoliaeth y tu ôl i hanes y Neges, gweithgareddau traws-gwricwlaidd ar y Neges; a Phecyn Gweithredu i bobl ifanc ac ysgolion – syniadau ar gyfer ymgysylltu â’r Neges a gweithredu arni. (Camau Cynnydd 3 – 5)

 

Neges Heddwch ac Ewyllys Da: pecyn ysgolion

Canllaw Hanesion Heddwch Cudd

Ar gyfer athrawon a chydlynwyr cymunedol mae’r canllaw byr a syml yma, i’w ddefnyddio gyda grwpiau neu unigolion sy’n gwneud prosiectau hanesion heddwch cudd hunan-arwain. Gellir ei ddefnyddio gyda dysgwyr mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.

Canllaw Hanesion Heddwch Cudd

Cofio dros Heddwch

Mae’r pecyn yma yn cefnogi disgyblion i ddeall sgil-effaith y Rhyfel Byd Cyntaf a rhyfeloedd dilynol ar bobl gyffredin yng Nghymru a’r tu hwnt, gan gynnwys yr effaith ar fenywod a phlant, ffoaduriaid a cheiswyr lloches, a’r rhai sydd wedi gwrthsefyll rhyfel – ddoe a heddiw. Camau Cynnydd 3 – 5.

Cofio dros Heddwch

Sefyll dros eich credoau

Mae’r adnodd hwn yn caniatáu i ddysgwyr hŷn mewn ysgolion cynradd edrych ar y dewisiadau oedd yn wynebu pobl yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a chanlyniadau’r penderfyniadau a wnaed i unigolion a’u teuluoedd. Drwy edrych ar astudiaethau achos, mae disgyblion yn ystyried rôl cydwybod ac argyhoeddiad wrth wneud penderfyniadau, ac yn meddwl am y ffordd mae hyn yn wir am eu bywydau eu hunain. Mae gweithgareddau dilynol yn cynnwys cyfleoedd ysgrifennu creadigol, celf, amser cylch ac ymchwil.

Sefyll dros eich credoau: Gwrthwynebwyr Cydwybodol

Cydwybod a dewis

Mae’r pecyn hwn yn cefnogi disgyblion wrth edrych yn feirniadol ar y dewisiadau anodd roedd rhaid i bobl, gan gynnwys gwrthwynebwyr cydwybodol, eu gwneud yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae gweithgareddau’n cynnwys ystyried astudiaethau achos a chwarae rôl, ynghyd ag edrych ar sefyllfaoedd tebyg heddiw. (Camau Cynnydd 4 – 5)

Cydwybod a dewis

Gwrthwynebiad Ddoe a Heddiw

Mae’r pecyn hwn yn edrych ar yr hyn ddigwyddodd i’r rhai a wrthsafodd ryfel, ddoe a heddiw. Mae’n cefnogi gwaith meddwl yn feirniadol a chwestiynu ynghylch materion gwrthdaro, gwrthsefyll a mynegi safbwyntiau, ac mae’n cynnwys llawlyfr ar gyfer pobl ifanc i’w helpu i ddatblygu prosiectau ar faterion o bryder iddynt heddiw. Yn addas ar gyfer Camau Cynnydd 4 – 5.

Gwrthwynebiad Ddoe a Heddiw

Walk the Global Walk: pecyn i gefnogi dysgu am Nod Datblygu Cynaliadwy 16

Mae’r pecyn hwn ar gyfer athrawon ac yn cynnwys cynlluniau gwersi, canllawiau ac amrwyiaeth o adnoddau i gefnogi dysgwyr rhwng 9 ac 14 blwydd oed i archwilio a gweithredu ar Nod Datblygu Cynaliadwy 16: Heddwch, Cyfiawnderr a Sefydliadau Cryf. Pecyn trawsgwricwlaidd yw e, yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu yn ddinasyddion egwyddorol a gwybodus yng Nghymru a’r byd.

Walk the Global Walk: pecyn i gefnogi dysgu am Nod Datblygu Cynaliadwy 16:

 

Ymgyrchu dros Newid yn Ddi-drais:

Pecyn trawsgwricwlaidd ysbrydoledig ar gyfer Camau Cynnydd 3 – 4 sy’n edrych ar fudiadau di-drais sydd wedi arwain at newid cymdeithasol a gwleidyddol, gydag enghreifftiau o Gymru, y DU a thu hwnt, gan gynnwys y Mudiad Hawliau Sifil yn Unol Daleithiau America ac annibyniaeth Indiaidd.

 

Mae’r pecyn yn cefnogi dysgwyr i:

  • Archwilio beth a olygwn wrth ddi-drais;
  • Edrych ar enghreifftiau ysbrydoledig o Gymru, y DU ac yn rhyngwladol; a
  • Cynllunio a gweithredu fel dinasyddion egwyddorol a gwybodus o Gymru a’r byd.

Mae’r pecyn ar gael yma: Padlet: Ymgyrchu dros Newid yn Ddi-drais

Addysg Heddwch (Uwchradd):

Mae’r pecyn hwn yn cynnig dros 50 o weithgareddau trawsgwricwlaidd gan amrywiaeth o sefydliadau gan gynnwys Pax Christi, Amnest Rhyngwladol, Values ​​Based Education, Scientists for Global Responsibility, Facing History & Ourselves, Corrymeela, War Child a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru (bellach Cymru Global).

Wedi’u categoreiddio yn ôl heddwch mewnol, rhyngbersonol a byd-eang, mae’r gweithgareddau’n cwmpasu themâu heriol gan gynnwys rhyfel ac adeiladu heddwch, gwrth-Semitiaeth ac Islamoffobia, di-dreisedd, datrys gwrthdaro, hunaniaeth a chynhwysiant, a llawer mwy

 

Gallwch lawrlwytho y pecyn cyfan yn saesneg yma:

https://www.quaker.org.uk/documents/teach-peace-secondary-pack-2024-02

 

Gallwch lawrlwytho pecyn dwyieithog gyda 5 o’r gweithgareddau yma:

https://www.quaker.org.uk/documents/teace-peace-secondary-welsh

Storïau Lloches yng Nghymru

Adnodd i’r ystafell ddosbarth sy’n edrych ar geisio lloches a ffoaduriaid yng Nghymru. Ei nod yw datblygu dealltwriaeth dysgwyr am y rhai sy’n ceisio lloches a’u empathi tuag atyn nhw. Mae’n addas i Gyfnodau Allweddol 3 a 4, mae’n cynnwys cwis PowerPoint, gweithgaredd chwarae rôl ffoaduriaid a phum astudiaeth achos am geiswyr lloches a ffoaduriaid yng Nghymru. Gall ddysgwyr defnyddio’r gweithgareddau ar eu pen eu hunain neu gyda’i gilydd.

Storïau Lloches yng Nghymru

 

 

Barcud nid Drones

Mae’r pecyn yma’n dod ag ystod o ddeunyddiau dysgu am heddwch a hawliau dynol ynghyd. Mae hefyd yn cynnwys canllaw ar gyfer creu a hedfan eich barcud dros heddwch eich hun. Gwnaed yr adnodd dysgu hwn yng ngwledydd Prydain, ond daw’r ysbrydoliaeth o Affganistan, gwlad sydd wedi profi tri degawd o ryfel parhaus, yn cynnwys ymosodiadau gan ddrônau arfog. Camau Cynydd 3-4

Ar gael i’w lawrlwytho yma yn rhad ac am ddim:

Wefan Barcud nid Drones

Cymru Global Learning resources