Cartref » Ein Gwaith » Heddwch ac Adeiladu Heddwch » Academi Heddwch Cymru » Mwy am Academi Heddwch Cymru

Pwy ydym ni

Mae Academi Heddwch Cymru yn gynghrair o sawl sefydliad. Dyma ein partneriaid sefydlu:

Cymru Global – (enw newydd ‘Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru’)

· Cymdeithas Ddysgedig Cymru

· Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

· Prifysgol Aberystwyth

· Prifysgol Bangor

· Prifysgol Caerdydd

· Prifysgol Metropolitan Caerdydd

· Prifysgol Glyndŵr Wrecsam

· Prifysgol De Cymru

· Prifysgol Abertawe

· Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

 

Rydyn ni hefyd yn cael ein cefnogi gan gynrychiolwyr o’r Mudiad Heddwch yng Nghymru, Race Council Cymru, Urdd Gobaith Cymru a swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.

Beth rydyn ni’n ei wneud?

Drwy ymchwil, addysg ac ymgysylltu, rydym yn helpu pobl a chymunedau i gyfrannu at ddyfodol teg, cyfiawn a di-drais.

I gefnogi ein cenhadaeth, rydym yn:

· Gwneud gwaith ymchwil gydag arbenigwyr heddwch ym mhrifysgolion Cymru a thu hwnt.

· Hyrwyddo ymchwil heddwch a darparu tystiolaeth i benderfynwyr (fel Llywodraeth Cymru), er mwyn sicrhau bod heddwch ar eu hagenda ac yn cael ei adlewyrchu yn eu gwaith.

· Gweithredu fel canolbwynt ar gyfer gwybodaeth am heddwch yng Nghymru.

· Anelu at sicrhau bod materion heddwch yn cael eu cydnabod a’u deall yn dda yng Nghymru drwy gynnal dadleuon a dod â gwahanol grwpiau at ei gilydd.

· Dathlu treftadaeth heddwch Cymru ac ysbrydoli pobl i ddod yn heddychwyr, trwy ddigwyddiadau a rhaglenni addysgol.

· Datblygu cydnabyddiaeth ryngwladol drwy rannu gwybodaeth yn fyd-eang, gan amlygu gwaith heddwch Cymru.

Ein Strwythur

Ble mae ein cartref ni?

Mae ein tîm wedi’i leoli yn y Deml Heddwch ac Iechyd yng Nghaerdydd ac mae’n cael ei gynnal gan Cymru Global (yr enw newydd ar gyfer Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru). Rydyn ni’n canolbwyntio ar gyfrannu at heddwch trwy ymchwil, addysg ac ymgysylltu, ac rydyn ni’n rhan o rwydwaith byd-eang o sefydliadau heddwch.

2008

Sefydliad Heddwch Cenedlaethol i Gymru

Yn 2008, dechreuodd ymgyrchwyr heddwch datblygu cynigion ar gyfer ‘Sefydliad Heddwch i Gymru’ yn seiliedig ar esiampl Fflandrys. Tyfodd yr ymgyrch i gynnwys Cymru Global (yr enw newydd ar gyfer CMRhC – Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru), academyddion Cymru a sefydliadau eraill.

Cymru Global Peace Schools
2020

Mae ein gwaith yn dechrau

Gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, dechreuodd ein gwaith yn 2020.

Wales in the World
2020

Yr Athro Mererid Hopwood yn dod yn Ysgrifennydd Academi Heddwch Cymru

MereridHopwood
2021

Penodi Dr Rowan Williams yn Gadeirydd cyntaf AHC

Yn 2021 fe wnaethon ni recriwtio ein haelod staff cyntaf a phenodi cyn Archesgob Caergaint, Dr Rowan Williams, yn Gadeirydd cyntaf i ni.

Cymru Global Peace Schools
2023

Mae ein tim wedi’i ffurfio

Yn 2023 ffurfiwyd ein tîm o staff gyda phenodiad:

– Arweinydd Ymchwil Academaidd
– Rheolwr Datblygu Prosiect
– Rheolwr Prosiect Deiseb Heddwch Menywod Cymru
– Dwy Gydlynydd Prosiect
– Pedair Swyddog Allgymorth Cymunedol ar gyfer Prosiect Deiseb Heddwch y Menywod

Meet the Academi Heddwch Cymru team
2023

Mae’r gwaith ar Ddeiseb Heddwch Menywod Cymru yn dechrau

Yn 2023 cawsom gyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ar gyfer Prosiect Canmlwyddiant Deiseb Heddwch Menywod Cymru, 1923-24.

Welsh Women's Peace Petition of 1924 being presented in Washington
2024

Cymru fel Cenedl Heddwch

Yn 2024, cyhoeddwyd ein hadroddiad cyntaf, ‘Cymru fel Cenedl Heddwch’. Mae’r gwaith hwn yn gweithredu fel sylfaen ar gyfer ein hadroddiadau dilynol. Mae’n dadlau y gall Cymru adeiladu ar ei hetifeddiaeth hanesyddol, ei diwylliant balch a’i deddfwriaeth gyfoes i arwain y DU i ddod yn genedl heddwch – sydd nid yn unig yn ymwneud â gweithredu fel cenedl sy’n gyfrifol yn fyd-eang, ond mae hefyd yn ymwneud â hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol, hawliau dynol, tegwch ac ymddiriedaeth yng Nghymru.

2024

Penodi Jill Evans yn Is-Gadeirydd Academi Heddwch Cymru

Cymru Global Peace Schools