Beth i’w wneud os ydych chi’n meddwl bod rhywbeth o’i le go iawn
Pam mae gennym bolisi chwythu’r chwiban?
Mae Cymru Global wedi ymrwymo i fod yn agored, yn onest ac yn atebol. Rydym yn ceisio annog diwylliant rhydd ac agored, gan gynnwys yn ein trafodaethau â’n holl weithwyr, gwirfoddolwyr, cwsmeriaid, cyflenwyr, Ymddiriedolwyr ac aelodau’r cyhoedd. Rydym am sicrhau nad oes neb yn teimlo nac o dan anfantais wrth godi pryderon.
Nod ein Polisi Chwythu’r Chwiban yw eich helpu a’ch cefnogi i godi unrhyw bryderon difrifol a allai fod gennych amdanom ni a/neu unrhyw unigolyn cysylltiedig. Dylech allu gwneud hyn yn hyderus a heb orfod poeni am gael eich erlid, gwahaniaethu yn eich erbyn neu eich rhoi dan anfantais mewn unrhyw ffordd o ganlyniad. Rydym wedi ymrwymo i ddelio â phob datgeliad yn gyson ac yn deg ac i weithio o fewn y safonau a osodwyd gan Gomisiwn Elusennau Cymru a Lloegr1
Gall unrhyw un sy’n gweithio o fewn neu ochr yn ochr â Cymru Global mewn unrhyw swyddogaeth ddefnyddio’r polisi hwn, gan gynnwys o fewn y Deml Heddwch neu gydag unrhyw sefydliad cysylltiedig.
Gall unrhyw aelod o’r cyhoedd sy’n dymuno mynegi pryder ynghylch unrhyw ymddygiad gan ein staff neu weithgareddau ddefnyddio’r polisi hwn hefyd.
Beth ddylwn i ei godi o dan y Polisi Chwythu’r Chwiban?
Bwriad y polisi hwn yw ymdrin â phryderon difrifol neu sensitif ynghylch unrhyw gamwedd. Mae enghreifftiau’n cynnwys:
- Gweithgaredd troseddol;
- Methu â chydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol;
- Methiant i amddiffyn plentyn neu oedolyn agored i niwed (gweler hefyd y polisi ar Ddiogelu);
- Ymddygiad amhriodol neu ymddygiad anfoesegol;
- Camymddygiad ariannol neu amhriodoldeb neu dwyll;
- Risg iechyd a diogelwch;
- Methiant i amddiffyn yr amgylchedd;
- Ymdrechion i guddio unrhyw un o’r uchod.
Polisïau perthnasol eraill
- Am unrhyw bryderon diogelu, defnyddiwch ein polisi diogelu ar wahân.
- Os yw eich pryder yn ymwneud â chodi arian, mae gennych yr opsiwn o uwchgyfeirio unrhyw gŵyn at y Rheoleiddiwr Codi Arian.
- Fel arfer, dylid delio â phryderon sy’n ymwneud â chyflogaeth drwy ein Gweithdrefn Gwyno yn hytrach nag o dan y Polisi hwn.
- Gellir delio â chwynion cwsmeriaid o dan ein polisi cwynion sydd ar ein gwefan.
- Os oes gennych bryderon nad ydynt wedi’u trafod uchod, rydym yn eich annog i drafod y rhain gyda thîm WCIA mewn ffordd fwy anffurfiol.
Sut ydw i’n codi pryder?
Gellir codi pryder dros y ffôn neu yn ysgrifenedig drwy e-bost neu lythyr. Os byddwch yn codi pryder dros y ffôn, gwnewch yn glir eich bod yn gwneud hyn o dan ein Polisi Chwythu’r Chwiban. Y Prif Weithredwr sy’n ymdrin â chwythu’r chwiban yn y lle cyntaf. Os yw’r pryder yn ymwneud â’r Prif Weithredwr, dylid ei godi i Gadeirydd yr Ymddiriedolwyr.
Prif Weithredwr
E-bost: hayley.morgan@cymru.global wedi’i farcio: Cyfrinachol
Ffôn: 02920228549 est 201 (e-bost yw’r dull cyflymaf o gysylltu)
Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu:
E-bost: secretary@cymru.global wedi’i farcio: Cyfrinachol
Bydd o gymorth i’r ymchwiliad os gallwch ddarparu cymaint o wybodaeth â phosibl gan gynnwys hanes y pryder ac, os yw’n berthnasol, enwau, dyddiadau a lleoliadau yn ogystal â natur a sail y pryder. Nid oes angen i chi ddarparu prawf na thystiolaeth er mwyn i ni ymchwilio i bryder.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Bydd pob pryder yn cael ei ddogfennu’n fanwl a’i storio’n ddiogel o fewn yr onedrive sydd wedi’i ddiogelu gan gyfrinair. Bydd manylion y pryder yn cael eu rhannu naill ai gyda Chadeirydd yr Ymddiriedolwyr neu’r Prif Weithredwr a gwneir penderfyniad ar y camau nesaf.
Lle ystyrir bod y gŵyn yn ddigon difrifol, bydd panel ymchwilio yn cael ei benodi gan y Cadeirydd neu’r Prif Weithredwr, a bydd yr ymchwiliad yn cael ei gynnal mor drylwyr a chyflym ag sy’n rhesymol bosibl. Bydd y bwrdd yn cael gwybod bod ymchwiliad chwythu’r chwiban ar y gweill a bydd yn cael gwybod am y canlyniad.
Byddwn hefyd yn sicrhau bod yr achwynydd yn cael manylion canlyniad yr ymchwiliad ac unrhyw gamau a gymerwyd gennym mewn ymateb.
- Os oes tystiolaeth o weithgarwch troseddol, yna dylai’r sawl sy’n ymchwilio hysbysu’r heddlu. Byddwn yn sicrhau nad yw unrhyw ymchwiliad mewnol yn rhwystro ymchwiliad ffurfiol gan yr heddlu.
- Dylai’r sawl sy’n ymchwilio hysbysu’r aelod staff y gwneir y gŵyn yn ei erbyn cyn gynted ag y bo’n ymarferol bosibl. Bydd yr aelod staff yn cael gwybod am ei hawl i gael cwmni undeb llafur neu gynrychiolydd arall mewn unrhyw gyfweliad neu wrandawiad yn y dyfodol a gynhelir o dan ddarpariaethau’r gweithdrefnau hyn.
- Dylai’r person sy’n ymchwilio ymchwilio’n llawn i’r honiadau gyda chymorth unigolion / cyrff eraill, lle bo’n briodol.
- Bydd y sawl sy’n ymchwilio yn gwneud dyfarniad ynghylch y gŵyn a dilysrwydd y gŵyn. Bydd y dyfarniad hwn yn cael ei fanylu mewn adroddiad ysgrifenedig yn cynnwys canfyddiadau’r ymchwiliadau a’r rhesymau dros y dyfarniad. Bydd yr adroddiad yn cael ei drosglwyddo i’r Prif Weithredwr/Cadeirydd.
- Bydd y Prif Weithredwr/Cadeirydd yn penderfynu pa gamau i’w cymryd. Os dangosir bod y gŵyn yn gyfiawn, yna byddant yn defnyddio’r gweithdrefnau disgyblu neu weithdrefnau sefydliadol priodol eraill.
A fydd fy nghwyn yn parhau i fod yn gyfrinachol a/neu a fydd yn effeithio ar fy mherthynas neu fy nghyflogaeth gyda Cymru Global?
Rydym yn cymryd pob adroddiad chwythu’r chwiban o ddifrif a byddwn yn amddiffyn pawb sy’n adrodd yn ddidwyll, gan gynnwys lle na fernir bod unrhyw dystiolaeth o gamymddwyn difrifol neu gamwedd wedi digwydd yn dilyn ymchwiliad. Rydym wedi ymrwymo i gymryd camau priodol i amddiffyn unrhyw unigolyn sy’n codi pryder rhag unrhyw aflonyddu, erledigaeth neu fwlio.
Byddwn yn ceisio trin unrhyw ddatgeliadau mewn modd cyfrinachol a sensitif ac rydym wedi ymrwymo i gymryd pob cam rhesymol i gynnal eich anhysbysrwydd pan ofynnir amdano, oni bai ein bod yn ofynnol yn gyfreithiol i’ch adnabod.
Bydd gwybodaeth am y gŵyn yn cael ei rhannu ar sail yr angen i wybod yn unig a bydd yr holl ddogfennaeth yn cael ei storio’n ddiogel. Os bydd angen rhannu gwybodaeth ag awdurdodau allanol gan gynnwys y Comisiwn Elusennau neu’r Heddlu, byddwch yn cael gwybod am hyn a bydd rheolau arferol GDPR yn berthnasol.
Ni fyddwn yn goddef adrodd ffug maleisus o unrhyw fath a gallwn ddewis cymryd camau yn erbyn unigolyn lle canfuwyd tystiolaeth o hyn.
Beth os nad ydw i’n hapus ar ddiwedd y broses?
Os ydych chi’n teimlo nad ydym wedi delio â’ch pryder yn foddhaol, gallwch ddewis ei godi gyda’r Rheoleiddiwr cenedlaethol priodol, er enghraifft, y Comisiwn Elusennau. Gellir dod o hyd i restr lawn o Gyrff Rheoleiddio ar-lein drwy chwilio am Orchymyn Buddiant Cyhoeddus (Personau Rhagnodedig) 2014.