Cartref » Cyfleoedd Gwirfoddoli Treftadaeth

Gwirfoddolwch gyda’n Tîm Treftadaeth

Mae ein gwaith wedi’i wreiddio’n gryf yn nhreftadaeth hir Cymru o ryngwladoldeb ar lawr gwlad, a’n gwarcheidiaeth o Deml Heddwch ac Iechyd Genedlaethol Cymru. Wedi’i sefydlu ym 1938 fel cofeb Cymru i’r rhai a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ac wedi’i agor ar drothwy’r Ail Ryfel Byd, adeiladwyd y Deml i ‘yrru’ cenhadaeth genedlaethol i Gymru i adeiladu byd gwell ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol – trwy Gynghrair y Cenhedloedd, y Cenhedloedd Unedig a chydweithrediad rhyngwladol. Mae dysgu o’n treftadaeth ac adeiladu arni yr un mor berthnasol ag erioed.

Archif

Archif

Cymerwch ran yn un o’n “Archif-athons” yn Nheml Heddwch i helpu i gatalogio’r holl ddeunydd yn llyfrgell y Deml.

Cymru Global Learning resources
Teml

Taith y Deml

Helpu i gyflwyno Teithiau’r Deml a thywys ymwelwyr drwy Deml Heddwch.

Dysgu Byd-eang Cymru

Gwnewch gais yma

Cyflwynwch eich diddordeb i wirfoddoli gyda ni drwy’r ffurflen gais. Dewiswch “Treftadaeth” yn y ffurflen i gefnogi ein Tîm Treftadaeth.