Mae’r Deml Heddwch ac Iechyd yn un o dirnodau dinesig mwyaf adnabyddus Caerdydd, ond straeon pwy mae’n eu hadrodd?
Ymunwch ag ymchwilwyr, myfyrwyr a phartneriaid cymunedol am ddiwrnod yn archwilio Gorffennol Dadleuol, Dyfodol Cynhwysol, arddangosfa dan arweiniad myfyrwyr sy’n ail-ddehongli’r Deml drwy lafur rhyweddol, llifau deunyddiau trefedigaethol a hanesion sy’n cael eu hanwybyddu. Drwy ymchwil pensaernïol, deunyddiau archifol, ffilm, modelau a dylunio, mae’r prosiect yn edrych ar sut mae syniadau o heddwch, iechyd a choffa wedi’u llunio dros amser.
Darganfyddwch sut mae cyfraniadau menywod, cadwyni cyflenwi byd-eang a chysylltiadau trawsddiwylliannol wedi dylanwadu ar yr adeilad a’i ystyron. Dysgwch sut mae myfyrwyr wedi gweithio gyda chasgliadau treftadaeth a phartneriaid cymunedol i greu ffyrdd newydd o ddeall gorffennol y Deml a dychmygu ei dyfodol.
Mae’r digwyddiad yn cynnwys teithiau tywys, uchafbwyntiau arddangosfeydd a chyfleoedd i drafod treftadaeth, hunaniaeth, perthyn a lles yn y Gymru gyfoes.