Gwirfoddolwch gyda’n Tîm Dysgu Byd-eang
Dros y blynyddoedd, mae ein rhaglenni a’n pwrpas wedi amrywio mewn ymateb i’r newidiadau deinamig yng Nghymru a’r byd. Mae hyn wedi ein galluogi i weithio gyda chymunedau domestig a rhyngwladol, mewn ysgolion a mannau ieuenctid, gyda llunwyr penderfyniadau a pholisi, ac oedolion a’r sector addysg uwch, gan gydweithio i wneud y byd yn well a sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed.
Heddiw, mae ein rhaglenni’n canolbwyntio ar ddatblygu chwilfrydedd am y byd a galluogi dysgwyr i gymryd y cam cyntaf hwnnw wrth ofyn cwestiynau a darganfod mwy, mewn amgylchedd diogel. Rydym yn cefnogi dysgwyr i gysylltu â’u cymunedau, dathlu cynefin a threftadaeth, a siarad yn onest am eu profiadau o’r byd er mwyn dysgu am gymunedau rhyngwladol gydag empathi a pharch. Yn bwysig, rydym yn gweithio gyda phawb i ddychmygu atebion ar gyfer byd gwell, ac yn grymuso ein cyfranogwyr i feithrin perthnasoedd a gweithio i gael atebion, a creu Cymru sy’n edrych tuag allan ac sy’n disgleirio i bawb.
Blog
Dinasyddiaeth Fyd-eang
Cefnogwch ein gwaith ac ysgrifennwch bostiadau blog sy’n cefnogi ein gwaith addysg dinasyddiaeth fyd-eang.
Addysg
Grymuso
Helpu i ddatblygu adnoddau addysgu, digwyddiadau, gweithdai, hyfforddiant ar-lein a mwy i rymuso pawb yng Nghymru i ddatblygu fel dinasyddion byd-eang.
Cyflwynwch eich diddordeb i wirfoddoli gyda ni drwy’r ffurflen gais. Dewiswch “Dysgu Byd-eang” yn y ffurflen i gefnogi ein Tîm Dysgu Byd-eang.
