Cartref » Ein Gwaith » Heddwch ac Adeiladu Heddwch » Academi Heddwch Cymru » Digwyddiadau Academi Heddwch Cymru

O Okinawa i Gymru: Heddwch a Gwrthsafiad dros 10,000 o Gilometrau

Dydd Iau, Mawrth 12fed o 6 pm – 8 pm, Y Deml Heddwch ac Iechyd, Caerdydd

Mae Okinawa yn gartref i un o fudiadau heddwch mwyaf gwydn y byd – ond nid oes fawr neb yn gwybod amdano. Dechreuodd y mudiad yn sgil trawma’r Ail Ryfel Byd, ac yna fe ddatblygodd dros 27 mlynedd dan oresgyniad yn yr Unol Daleithiau. Heddiw mae pobl o bob cefndir yn Okinawa yn parhau i fynegi eu heddychiaeth drwy ralïau torfol, meddiannu adeiladau, comedi a chelf.

Ers 16 mlynedd, mae’r newyddiadurwr a’r awdur o Gymru, Jon Mitchell, wedi bod yn gohebu am fudiad heddwch Okinawa a’r anghyfiawnderau gan lywodraethau’r Unol Daleithiau a Japan a’i sbardunodd. Ac yntau’n arbenigwr yn Neddf Rhyddid Gwybodaeth yr Unol Daleithiau, mae ei ymchwiliadau wedi sbarduno gwelliannau gan awdurdodau cenedlaethol ac wedi ennill y gwobrau newyddiaduraeth uchaf eu bri yn Japan.

Yn y sgwrs hon yn y Deml Heddwch, bydd Jon yn trafod ei lyfr diweddaraf Why are We in Okinawa? A History of Violence (Bloomsbury Academic 2026). Mae’r llyfr yn olrhain sut cafodd yr ynysoedd eu cyfeddiannu gan Japan, eu goresgyn gan yr Unol Daleithiau, a sut y maent erbyn heddiw dan fwy a mwy o fygythiad gan Tsieina. Ochr yn ochr â gwreiddiau heddychiaeth yn Okinawa, bydd Jon yn archwilio’r tebygrwydd rhwng Cymru ac Okinawa. Er bod bron i 10,000 cilomedr rhyngddynt, mae’r ddau le wedi profi gwahaniaethu, gormes ieithyddol a chamfanteisio amgylcheddol – ffactorau sydd wedi meithrin ymrwymiad cadarn i heddwch a chyfiawnder cymdeithasol.

Bydd Jill Evans, cyn-Aelod o Senedd Ewrop ac Is-gadeirydd Academi Heddwch Cymru yn ymuno â Jon mewn trafodaeth.

Cofrestrwch yma i fynychu

Cynhadledd Flynyddol Academi Heddwch Cymru

Dydd Sadwrn, 21eg o Fawrth, 10 am – 4 pm, Y Deml Heddwch, Caerdydd

Rhaglen y Dydd

Mae Academi Heddwch Cymru (sefydliad heddwch cenedlaethol Cymru) yn eich gwahodd i gymryd rhan yn ei chynhadledd undydd: ‘Creu Cymunedau Heddychlon’.

Mae heddwch yn llawer mwy nag absenoldeb rhyfel. Mae’n golygu adeiladu byd gwell drwy greu cymunedau sy’n byw heb ofn ac sy’n hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol, parch a chydraddoldeb. Mae ein hadroddiad Cymru fel Cenedl Heddwch (2024) yn dadlau y gallai ac y dylai Cymru anelu at ddod yn Genedl Heddwch, yn enwedig er mwyn magu cymunedau cryfach yng Nghymru. Mae’r gynhadledd hon yn canolbwyntio ar sut y gallem gyflawni hyn.

Gwrandewch ar sgyrsiau gan ymchwilwyr ac arbenigwyr ym maes cydlyniant cymdeithasol a chymerwch ran mewn gweithdai rhyngweithiol a fydd yn eich cyfarparu â’r wybodaeth a’r sgiliau i adeiladu a chynnal cymunedau heddychlon.

Cofrestrwch yma i fynychu

DISGRIFIAD O SESIYNAU RHYNGWEITHIOL Y GYNHADLEDD

GWEITHDY 1:

Sesiwn Blasu ar Becyn Cymorth Cymunedau sy’n Gwrthsefyll Rhaniad

Dr Amy Sanders (Prifysgol Aberystwyth)

Cyflwyniad: Yn y gweithdy hwn cewch gyflwyniad i ddetholiad o unedau o’r Pecyn Cymorth Cymunedau sy’n Gwrthsefyll Rhaniad. Mae’r pecyn yn bodoli diolch i gydweithrediad rhwng tîm ymchwil Aberystwyth o Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD) a Sefydliad Jo Cox, partneriaeth ‘Mwy yn Gyffredin’ Caerdydd a Thîm Cydlyniant Cymunedau Caerdydd. Cafodd y pecyn ei greu ar y cyd â 70 a mwy o aelodau ac ymarferwyr cymunedol allweddol o fwy nag 20 o sefydliadau cymunedol yng Nghaerdydd. Digwyddodd hyn drwy ymgysylltu â chymunedau mewn prosiect ymchwil gwreiddiol ar boblyddiaeth, polareiddio a gwrthdaro mewn lleoliadau cymunedol.

Gyda’n gilydd, rydym yn bwriadu:

1. Archwilio’r gwersi allweddol sydd yn y Pecyn Cymorth Cymunedau sy’n Gwrthsefyll Rhaniad

2. Datblygu gwybodaeth am ddamcaniaethau ac ymchwil yn gysylltiedig â pholareiddio a phoblyddiaeth, a sut mae’n berthnasol i hyrwyddo cydlyniant mewn cymunedau

3. Ystyried y goblygiadau o ran sut i’w rhoi ar waith mewn lleoliadau cymunedol

4. Mynd i’r afael â’r pynciau hyn trwy ddulliau creadigol a chyfranogol, a hwyluso cyfleoedd i’r mynychwyr gael rhwydweithio

 

GWEITHDY 2 / WORKSHOP 2

Ruth Campbell (Climate Cymru)

Dychmygwch Weithredu – Offer i ysbrydoli gweithredu a datgloi newid

Ariennir Dychmygwch Gweithredu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Pan fydd y byd yn teimlo’n rhanedig ac yn ansicr, mae’n demtasiwn i wthio’n galetach – i ddadlau, argyhoeddi, neu dynnu sylw at bethau annerbyniol. Ond dydy newid ddim bob amser yn dechrau trwy roi pwysau; gall ddechrau drwy gysylltu.

Mae Dychmygwch Gweithredu yn helpu unigolion, cymunedau a sefydliadau ledled Cymru i gyfathrebu mewn ffyrdd sy’n adlewyrchu’r hyn sy’n wirioneddol bwysig; creu straeon difyr sy’n ein huno ac sy’n ail-ddychmygu dyfodol y gallwn ei greu gyda’n gilydd. Efallai eich bod chi’n ymgyrchydd, yn artist, yn arweinydd ffydd, yn addysgwr, neu’n aelod gweithgar o’ch cymuned, mae’r llwyfan hwn yn ein hannog ni i siarad o safbwynt y pethau sy’n bwysig i ni. Mae’n ein hannog ni i wrando’n ofalus, yn ogystal â helpu i lunio dyfodol i Gymru sy’n cynnwys pawb.

Cafodd y Pecyn Cymorth Dychmygwch Weithredu ei greu gan ymchwilwyr blaenllaw a’r syniadau diweddaraf yn y gwyddorau cymdeithasol i gefnogi pobl sy’n trefnu pethau, yn newid pethau ac yn gweithio yn y maes i gyflwyno negeseuon mewn ffyrdd diddorol a phwerus. Mae’r fenter yn cynnig offer a hyfforddiant i helpu i ddod â’ch naratif yn fyw yn eglur, creadigol ac effeithiol. Drwy rannu fframwaith cydweithredol, gallwn ni gynyddu ein gallu, a chreu newid ystyrlon.

Mae #DychmygwchWeithredu yn ceisio ail-greu’r naratif ynglŷn â gweithredu ar yr hinsawdd yng Nghymru, gan ddatblygu amgylcheddau diwylliannol a gwleidyddol lle mae mentrau beiddgar yn ffynnu ac mae newid trawsnewidiol yn digwydd.