
Ydych chi’n ymwneud â gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol? A hoffech chi wneud cyfraniad cryfach tuag at gyfrifoldeb byd-eang?
Mae’r tudalennau hyn yn cynnwys ac yn cyfeirio at yr adnoddau defnyddiol sydd eu hangen arnoch i gyfrannu at Gymru sy’n Gyfrifol yn Fyd-eang, un o saith nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Lluniwyd y set hon o adnoddau gyda mewnbwn gan arbenigwyr ledled Cymru.
Deall y nod
Mae unrhyw gamau i wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud peth o’r fath wneud cyfraniad cadarnhaol at lesiant byd-eang.
Mae nod Cymru Gyfrifol yn Fyd-eang yn ei gwneud yn ofynnol inni ystyried sut y gall ein camau gweithredu a gymerwn yma yng Nghymru wneud cyfraniad cadarnhaol at lesiant byd-eang. Mae’r nod hwn yn adlewyrchu gofal pobl Cymru am y byd a phobl y tu allan i Gymru, fel y’i hamlygwyd yn y Cymru a Garem 2014 ac ymdrechion cymdeithas sifil i sicrhau’r nod hwn yn y Ddeddf.
Mae’r llun isod yn rhoi darlun o’r hyn a olygwn wrth y nod – er mwyn gwneud cyfraniad cadarnhaol, mae angen i ni roi’r gorau i wneud niwed.
