
Adroddiad gan Academi Heddwch Cymru, 2024
Ceir sylfaen gref er mwyn i Gymru ddatblygu’n Genedl Heddwch. Ers dros ganrif,
mae pobl Cymru wedi cynnal mentrau arloesol i hyrwyddo heddwch, gan arwain
y byd ar adegau. Yn sgil datganoli, mae’r posibilrwydd i arloesi ymhellach ac i
ffurfio hunaniaeth gliriach fel Cenedl Heddwch wedi cynyddu’n aruthrol.

Adroddiad gan Academi Heddwch Cymru, 2024
Gwybodaeth, dadansoddiad ac argymhellion sy’n berthnasol i addysg heddwch yng Nghymru ar draws cwrs bywyd. Mae’r adroddiad hwn yn nodi cyfleoedd ar gyfer arfer gorau mewn polisi ac ymarfer addysg heddwch.

Adroddiad gweithdy gan Academi Heddwch Cymru & Platfform Amgylchedd Cymru, 2024
Adroddiad gweithdy gan Academi Heddwch Cymru & Platfform Amgylchedd Cymru yn trafod effiethiau newid yn yr hinsawdd ar densiynau cymunedol a heddwch yng Nghymru, gan dynnu sylw at risgiau a mesurau lliniaru posibl.
Argraffiad Diwygiedig Academi Heddwch Cymru, Rhagfyr 2025
‘Rhaglen Gallu Radar Uwch y Gofod Pell (DARC): Cwestiynau ar gyfer Sir Benfro a Chymru’

Adroddiad gan Academi Heddwch Cymru gyda Steve Hollingworth, Medi 2024
Mae’r Adroddiad hwn yn ymwneud â’r mater o dalu iawndal i sifiliaid y mae gwrthdaro arfog
yn effeithio arnynt. Yn ôl moeseg a chyfraith ryngwladol, ystyrir sifiliaid yn bartïon dieuog mewn gwrthdaro
arfog, ond maent ymhlith y rhai sy’n dioddef fwyaf. Nid yw iawndal yn cael ei dalu i fynd i’r
afael â cholled yn unig; ynghyd â cheisio cyfiawnder a hyrwyddo cymodi, mae’n un o
agweddau pwysicaf adeiladu heddwch

Adroddiad gan Menter Academi Heddwch Cymru/Wales Peace Institute Initiative, 2015
Prosiect yn edrych ar raddfa filitwraeth yng Nghymru.
Adroddiad 2015 ar gyfer Cymru Global (enw newydd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru WCIA)
Mae’r ymchwil hon gan Emily Forbes, a gynhaliwyd ychydig cyn sefydlu Academi Heddwch, wedi bod yn amhrisiadwy wrth fapio rhwydweithiau heddwch byd-eang, cyrff ymchwil a sefydliadau y gallai Academi Heddwch (a CMRhC) adeiladu cysylltiadau rhyngwladol â nhw yn y dyfodol.


