Cartref » Ein Gwaith » Heddwch ac Adeiladu Heddwch » Addysg Heddwch » Cynllun Ysgolion a Cholegau Heddwch

Mae’r tîm Addysg Heddwch yn cefnogi ysgolion a cholegau yng Nghymru i ddatblygu heddwch ar draws eu sefydliadau, gan gynnwys:

  • Ethos cadarnhaol yn seiliedig ar gydweithrediad, parch at wahaniaeth a datrys problemau;
  • Datblygu sgiliau iechyd a lles sy’n hyrwyddo perthnasoedd cadarnhaol a datrys gwrthdaro di-drais;
  • Dysgu am dreftadaeth heddwch gyfoethog Cymru a’i dylanwad yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol; a
  • Cefnogi dysgwyr i ddod yn heddychwyr ac yn ddinasyddion byd-eang, gan ddechrau yn eu hysgol eu hunain a’u cymuned leol.

Drwy ymuno â rhwydwaith cynyddol o Ysgolion a Cholegau Heddwch, cewch addysgwyr fynediad at:

  • Ystod o adnoddau rhad ac am ddim sy’n cyd-fynd â chwricwlwm Cymru;
  • Digwyddiadau hyfforddi ar agweddau penodol ar addysg heddwch – e.e. sgiliau iechyd a lles, cyfryngu gan gyfoedion, dulliau beirniadol o ymdrin â materion byd-eang…..;
  • Cyfleoedd i blant a phobl ifanc, fel ein Gwobrau Heddychwyr Ifanc blynyddol;
  • Cysylltiadau â chyd-weithwyr proffesiynol i rannu arfer da, helpu i gyd-greu adnoddau a chael eu cydnabod am arfer da.