Rydym yn cynnal hyfforddiant ar-lein ac yn bersonol ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys:
- Sgiliau iechyd, lles ac adeiladu heddwch ;
- Deall ac ymchwilio i dreftadaeth heddwch Cymru;
- Sut i ddod yn ysgol neu goleg heddwch ;
- Cyfryngu gan gyfoedion (ysgolion);
- Adeiladu cymunedau gwydn, cydlynol a heddychlon.
Rydym yn trefnu digwyddiadau a chyfleoedd rheolaidd i blant, pobl ifanc, ysgolion a chymunedau , gan gynnwys ein Gwobrau Heddwch Ifanc Blynyddol a Chynadleddau Heddwch .