Cyflwyno Cymru Global: Pennod newydd
Heddiw mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn dod yn Cymru Global – sefydliad sydd wedi’i wreiddio mewn gobaith, cysylltiad a’r gred y gall pobl Cymru chwarae rhan wrth lunio byd gwell.
Ers dros 50 mlynedd, mae ein sefydliad wedi sefyll dros gysylltiad, adeiladu heddwch, dysgu byd-eang, dealltwriaeth ddiwylliannol, a gweithredu sy’n cyrraedd ymhell y tu hwnt i Gymru. Heddiw, rydym yn falch o gyhoeddi esblygiad nesaf y genhadaeth honno wrth i ni rannu ein brand newydd a’n strategaeth 50 mlynedd .
Mae’r hunaniaeth newydd hon wedi bod yn cael ei datblygu ers dros flwyddyn; canlyniad myfyrio dwfn, creadigrwydd a chydweithio. Cymerodd llawer o’n partneriaid, rhanddeiliaid, cefnogwyr ac aelodau’r tîm ran yn llunio’r newid hwn. Mae wedi bod yn ymdrech wirioneddol ar y cyd, ac mae Cymru Global yn adlewyrchu nid yn unig pwy ydym ni, ond pwy yr ydym yn anelu at fod yn y byd.
Mae’r byd rydyn ni’n gweithio ynddo yn newid yn gyflym. Mae’r heriau rydyn ni’n eu hwynebu heddiw yn gysylltiedig ac yn fyd-eang.
Dim ond edrych ar newyddion yr wythnos hon sydd raid i ni ei wneud i wybod bod ein cenhadaeth yr un mor hanfodol heddiw ag yr oedd pan agoron ni ddrysau Teml Heddwch ac Iechyd Cymru am y tro cyntaf, ym 1938.
Yn yr amseroedd ansicr hyn, mae cyfle i bobl sy’n gwerthfawrogi heddwch, gwirionedd a natur gamu ymlaen i ddiogelu lles cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.
Mae ein cymunedau, yn enwedig pobl ifanc, yn disgwyl i sefydliadau fod yn glir, yn agored, yn groesawgar, ac yn canolbwyntio ar y dyfodol. Sylweddolon ni fod angen i’n henw adlewyrchu hynny hefyd.
Mae Cymru Global yn cyfleu yn union beth sy’n bwysig i ni:
- Ein hunaniaeth fel sefydliad wedi’i gwreiddio’n ddwfn yng Nghymru
- Ein hymrwymiad i ddinasyddiaeth fyd-eang ac undod rhyngwladol
- Ein cred bod gweithredu lleol a newid byd-eang yn anwahanadwy
Mae’r enw newydd yn symlach, yn fwy hygyrch, ac yn haws i’w ddeall. Mae’n gwahodd pobl i mewn. Mae’n siarad ag ysgolion ac addysgwyr, ymgyrchwyr a gwirfoddolwyr ifanc, cymunedau treftadaeth, ymchwilwyr, ac unrhyw un sy’n malio am y byd rydyn ni’n ei rannu.
Gyda’n brand newydd beiddgar, ein nod yw cysylltu pobl ledled Cymru â’i gilydd, ac â’r byd ehangach.
Er bod ein henw wedi newid, mae ein hanes yn parhau i fod wrth wraidd popeth.
Mae’r dyluniad newydd yn anrhydeddu esblygiadau niferus ein sefydliad ers y mudiadau heddwch ar ôl y rhyfel a’n lluniodd. Fe welwch adleisiau gweledol o logos y gorffennol, lliwiau wedi’u hysbrydoli gan ddeunyddiau hanesyddol, a siapiau wedi’u tynnu o’n harchifau. Roedd y parhad hwn yn bwysig i ni: roedden ni eisiau brand a oedd yn parchu o ble rydyn ni wedi dod ac yn rhoi lle i ni dyfu am y 50 mlynedd nesaf a mwy.
Mae’r trawsnewidiad hwn wedi’i lunio gan:
- Gweithdai tîm ar draws rhaglenni
- Sgyrsiau gyda phartneriaid a grwpiau cymunedol
- Mewnbwn gan addysgwyr, ymgyrchwyr, gwirfoddolwyr ieuenctid, a chyn-fyfyrwyr
- Adborth gan gannoedd o randdeiliaid ledled Cymru a thu hwnt
Dylanwadodd eich lleisiau ar bopeth; o’r enw, i’r naratif, i sut rydym yn cyfleu ein cenhadaeth a’n gwerthoedd.
Rydym yn falch bod Cymru Global yn hunaniaeth a adeiladwyd gyda’n cymuned, nid ar ei chyfer yn unig.
Mae ein huchelgeisiau’n feiddgar.
Ein nod yw adeiladu cenedl o ddinasyddion byd-eang sy’n dysgu, yn cydweithio ac yn gweithredu dros heddwch, cyfiawnder cymdeithasol a hinsawdd.
Dros y degawd nesaf a thu hwnt, bydd Cymru Global yn:
- Cysylltu pobl ar draws ffiniau, diwylliannau a chenedlaethau
- Adeiladu partneriaethau sy’n cryfhau heddwch, gweithredu hinsawdd, addysg, gwirfoddoli a gwaith treftadaeth
- Ysbrydoli gweithredu tuag at fyd mwy cyfiawn, heddychlon a chynaliadwy
Mae’r ail-frandio hwn yn mynd y tu hwnt i logo neu wefan. Mae’n nodi dechrau ymrwymiad newydd i ddinasyddiaeth fyd-eang sydd wedi’i wreiddio mewn gwerthoedd, creadigrwydd a thrugaredd Cymru.
Os ydych chi’n poeni am ddyfodol Cymru a’r byd ehangach, cofrestrwch i dderbyn ein negeseuon e-bost i glywed am ddigwyddiadau, gweithgareddau a newyddion Cymru Global.
I bawb a gyfrannodd at y daith hon – diolch o galon. Eich syniadau, eich gobeithion a’ch myfyrdodau a luniodd Cymru Global i’r hyn ydyw heddiw.
Allwn ni ddim aros i barhau â’r gwaith hwn gyda’n gilydd, ac rydym yn eich gwahodd i fod yn rhan o’r mudiad. Ewch i’r dudalen Cymryd Rhan i’n dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol ac ymuno â’n rhestr bostio.