Llysgenhadon Heddwch Ifanc
Fel Llysgennad Heddwch Ifanc, byddwch yn ymuno â rhaglen o garfan gwirfoddol blwyddyn o hyd i ddechrau, sydd wedi ei chynllunio i roi’r sgiliau a’r wybodaeth i chi i ddod yn arweinydd mewn adeiladu heddwch. Byddwch yn gweithio gyda phobl ifanc o’r un anian o gefndiroedd amrywiol, i ddatblygu a gweithredu prosiectau adeiladu heddwch creadigol sy’n mynd i’r afael â heriau’r byd go iawn yng Nghymru ac yn fyd-eang.
Rydym yn Recriwtio: Llysgenhadon Heddwch 27 Mis Tachwedd 2026
Mae Cymru Global yn lansio rhaglen Llysgenhadon Heddwch Ifanc newydd i bobl ifanc rhwng 14-25 oed yng Nghymru. Rydyn ni wrthi yn recriwtio grŵp o 8 o bobl ifanc sy’n frwd am faterion sy’n ymwneud ag heddwch ac sydd eisiau gwneud gwahaniaeth trwy ddatblygu a gweithredu prosiectau creadigol o ran adeiladu heddwch yng Nghymru a’r tu hwnt. Bydd y grŵp yn ennill gwybodaeth a sgiliau am adeiladu heddwch a chymorth i arwain prosiectau sy’n creu newid.
Wrth baratoi i lansio grŵp Llysgenhadon Heddwch Ifanc, hoffem wybod mwy am feddyliau pobl ifanc yng Nghymru am heddwch a pha mor bwysig ydyw iddynt. A wnewch chi gymryd ychydig funudau i lenwi’r holiadur hwn? Young People working for Peace in Wales / Pobl Ifanc yn gweithio dros Heddwch yng Nghymru
A hoffech chi fod yn rhan o’r grŵp hwn neu enwebu person ifanc (gyda’u caniatâd)?
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth a phecyn cais yma
Diolch yn fawr!