Cartref » Newyddion a Barn » ‘Mae Heddwch yn siarad pob iaith”: Neges #Heddwch2026

Yn ddi‑dor ers 1922, mae Urdd Gobaith Cymru wedi creu Neges Heddwch ac Ewyllys Da, gan ei rhannu gyda phobl ifanc ar draws y byd. Bwriad y Neges yw uno plant a phobl ifanc ym mhob cwr o’r byd, gan eu hysbrydoli i weithredu’n ddyngarol, ac i feithrin cysylltiadau rhyngwladol cadarnhaol.

Hanes Neges Heddwch 1922-2026 'Neges100' – Nodwedd Canmlwyddiant Neges Heddwch, 2022

Eleni mae Neges Heddwch ac Ewyllys Da’r Urdd yn canolbwyntio ar Ieithoedd Lleiafrifol.

Gyda dros 7,000 o ieithoedd ledled y byd, ac arbenigwyr yn rhagweld y bydd hanner ohonynt wedi diflannu erbyn diwedd y ganrif, mae’r Neges yn datgan yn glir yr angen i ni ddiogelu ieithoedd lleiafrifol cyn iddynt ddiflannu am byth. Pwrpas y Neges yw addysgu pobl ar draws y byd am yr ieithoedd hyn, ac annog iddynt eu gwerthfawrogi, eu dysgu a’u defnyddio.

Mae geiriau’r neges ar gael mewn sawl iaith, ac mae pecyn addysg gan Dr Ianto Gruffydd ar gael yma ar ein gwefan.

Bu WCIA / Cymru Global hefyd yn gweithio gyda’r Urdd a Hwb i gynhyrchu pecyn dysgu ar Hanes y Neges Heddwch ar gyfer Canmlwyddiant 2022, sy’n cynnwys dolenni i negeseuon heddwch blaenorol dros y cenedlaethau, wedi’u digideiddio trwy Gasgliad y Werin Cymru.

Neges Heddwch – Casgliad y Werin Neges Heddwch ac Ewyllys Da: Pecyn i ysgolion

Cefnogwch y Neges ar 19 Mai: Rhannwch y fideo, lledaenwch y geiriau, a defnyddiwch #Heddwch2026 i uno’r neges ledled y byd.

Diolch o galon i chi am eich cefnogaeth.


Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *