Apêl Daeargryn Venezuela DEC
Mae daeargrynfeydd trychinebus wedi taro Venezuela. Cafodd adeiladau eu chwalu’n ddarnau mewn munudau. Mae cannoedd o bobl wedi’u lladd, ac mae nifer y marwolaethau’n parhau i godi. Mae miloedd yn fwy wedi’u hanafu, ac mae ysbytai’r wlad dan bwysau eithriadol.
Mae’r Cenhedloedd Unedig yn amcangyfrif bod miliynau o bobl wedi’u heffeithio, gyda mwy na dwy filiwn yn yr ardaloedd sydd wedi’u taro waethaf.
Nawr mae’r rhai sydd wedi goroesi angen lloches, bwyd, dŵr a gofal meddygol ar frys.
Mae teuluoedd yn cysgu mewn pebyll dros dro ar y stryd. Mae gwifrau trydan a ffyrdd wedi’u dinistrio, a dyw pobl methu cael cyflenwadau hanfodol.
Mae elusennau DEC a’u partneriaid lleol wedi bod yn gweithio yn Venezuela ers blynyddoedd lawer ac fe wnaethant ymateb yn gyflym ar ôl i’r daeargrynfeydd daro.
Roedd Venezuela eisoes yn wynebu argyfwng economaidd difrifol cyn y daeargrynfeydd. Mae’r anghenion bellach yn ddirfawr.
Mae eich cefnogaeth chi’n allweddol i deuluoedd sydd wedi eu heffeithio gan yr argyfwng trychinebus yma.
Beth sydd ei angen ar frys
Lloches, bwyd, dŵr, a gofal meddygol.
Gall £10 ddarparu cyflenwadau hylendid hanfodol i deulu, all helpu i atal salwch.
Gall £25 helpu i ddarparu pecynnau bwyd sydd eu hangen ar frys i deulu am wythnos.
Gall £50 i ddarparu pecyn lloches i dri teulu os yw eu cartrefi wedi’u dinistrio
Sut i gyfrannu
- Ar-lein: dec.org.uk
- Ffôn: 0370 60 60 900 [codir tâl rhwydwaith safonol]
- Neges destun i roi/SMS: Anfonwch neges destun gyda SUPPORT neu HELPU i 70150 i roi £10. [mae’r neges yn costio £10 + cyfradd rhwydwaith safonol]
- Anfonwch siec trwy’r post i: DEC Venezuela Earthquake Appeal, PO Box 999, London EC3A 3AA.
- I weld y telerau ac amodau yn llawn, ewch i dec.org.uk
